Fe allech ddweud mai’r her fwyaf sydd gen i fel actor yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth, ydi’r ffaith mod i’n chwarae pedair rhan wahanol (yn cynnwys un o’r gwrachod).Rhaid i mi gofio bod angen iddyn nhw ddod ar draws i’r gynulleidfa fel pobl wahanol, a hefyd yn bobl gredadwy, naturiol yn eu hymddygiad, efo hanes y tu ôl iddyn nhw. Ond wedi dweud hynny, y mwya’ dwi’n darllen y testun, a’r mwya’ dwi’n dadansoddi’r sgript, y mwya’ dwi’n sylwi bod y rhan fwyaf o’r gwaith wedi cael ei wneud i mi’n barod.
Yr hyn mae Shakespeare wedi’i wneud yn ei ddramâu ydi creu cymeriadau sy’n gwneud bron ddim ond siarad eu meddyliau drwy’r amser. Felly does dim rhaid i mi boeni rhyw lawer am beth sy’n mynd ’mlaen ym mhen unrhyw un o’r cymeriadau, gan fod y cyfan wedi cael ei sgwennu i lawr i ni’n barod. Yr oll sydd raid i mi’i wneud, mewn ffordd, ydi dweud y geiriau mor onest ag y medra i, a’r gobaith ydi bod y gynulleidfa’n gweld ac yn adnabod y cymeriadau’n syth. Efallai eu bod nhw hefyd yn gweld rywfaint o’u cymdogion a nhw eu hunain yn y cymeriadau. Dyna ydi’r bwriad.
Ac i ni fel Cymry, mae’r gwaith ardderchog mae’r diweddar Gwyn Thomas wedi’i wneud ar gyfieithu Macbeth yn help i ni uniaethu efo’r cymeriadau’n fwy nag erioed. Mae’n hollol wyrthiol, yn fy marn i, fod y cyfieithiad mor agos ac mor driw i’r testun gwreiddiol, ac eto’n arddangos y ddawn unigryw oedd gan Gwyn Thomas, yn ogystal â bod yn ddathliad o harddwch yr iaith Gymraeg.
Efallai fod chwarae pedwar cymeriad gwahanol yn mynd i fod ddipyn o her ond, ar ddiwedd y dydd, mae’r ddau fardd wedi gwneud pethau’n hawdd iawn i ni fel actorion. Diolch Shakespeare. A diolch Gwyn Thomas.
Siôn Eifion – Donalbain / Gwrach / Siward Ifanc / Gwrach