Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ‘Sgrifennodd Honna?
Darlleniadau o ddramâu Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi manylion taith yr haf eleni. Bydd y cwmni’n cyflwyno darlleniadau o ddramâu newydd gan aelodau o’i Grŵp Dramodwyr Newydd, a hynny mewn 6 chanolfan ledled Cymru ym mis Mehefin a Gorffennaf 2019. Mae’r Grŵp wedi bod yn cwrdd yn gyson ers mis Medi 2018 i gymryd rhan mewn gweithdai gydag amryw o ddramodwyr profiadol mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru. Yn sgil y gweithdai hynny, mae’r dramodwyr wedi cael y cyfle i arbrofi a mireinio’r grefft o ysgrifennu drama, ac maent wrthi ar hyn o bryd yn ysgrifennu dramâu newydd gan dderbyn adborth gan gyfarwyddwyr theatr profiadol wrth i’r gwaith ddatblygu. Ar ddiwedd y cyfnod ysgrifennu, cynhelir darlleniadau cyhoeddus wedi eu hymarfer gydag actorion proffesiynol o’r dramâu newydd hyn yn y canolfannau sy’n rhan o’r cynllun.
Manylion y darlleniadau:
Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna?
Darlleniadau o ddramâu gan aelodau Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru: Melangell Dolma, Cai Llewelyn Evans, Elin Gwyn, Miriam Elin Jones, Lowri Morgan, Naomi Nicholas, Sian Northey a Gruffudd Eifion Owen.
Dyma benllanw cynllun Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru 2019, gyda chyfres o ddarlleniadau o ddramâu newydd gan y don nesaf o ddramodwyr Cymraeg.
Mae hwn yn gyfle unigryw i weld canlyniad 10 mis o waith creu a datblygu, dan arweiniad Theatr Genedlaethol Cymru, gan rai o’r dramodwyr Cymraeg newydd mwyaf cyffrous o bob cwr o Gymru.
Ym mhob digwyddiad ceir darlleniad o ddramâu newydd gan ddau ddramodydd, gyda sgwrs i ddilyn gyda’r dramodwyr, y cast a’r cyfarwyddwyr.
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Prin yw’r cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ac arweiniad wrth i ddramodwyr Cymraeg newydd ddatblygu eu crefft, a phrin hefyd yw’r cyfleoedd i’r dramodwyr hynny gael cyflwyno eu dramâu yn gyhoeddus, a chael ymateb ac adborth ar eu gwaith. Mae’r cynllun hwn yn mynd beth o’r ffordd, o leiaf, tuag at ddarparu’r cyfleoedd hynny. Peth dewr iawn i unrhyw awdur yw cyflwyno gwaith am y tro cyntaf gerbron y cyhoedd, ond gyda’r cynllun yma mae’r egin-ddramodwyr yn cael arweiniad a mewnbwn ar bob cam o’r ffordd gan awduron, cyfarwyddwyr ac actorion profiadol. Y nod yn y pen draw yw datblygu hyder y dramodwyr newydd yn eu crefft, a chreu gwaith newydd ar gyfer y theatr Gymraeg sy’n feiddgar, yn adloniannol ac yn berthnasol, ac sy’n adlewyrchu ein bywyd a’n profiad ni yng Nghymru heddiw.”
Y Daith:
Theatr y Sherman, Caerdydd
11 Mehefin | 19:30
Darlleniadau o ddramâu gan Melangell Dolma a Cai Llewelyn Evans
Theatr y Sherman, Caerdydd
12 Mehefin | 19:30
Darlleniadau o ddramâu gan Gruffudd Eifion Owen a Lowri Morgan
Ffwrnes, Llanelli
18 Mehefin | 19:30
Darlleniadau o ddramâu gan Miriam Elin Jones a Naomi Nicholas
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
19 Mehefin | 19:30
Darlleniadau o ddramâu gan Miriam Elin Jones a Naomi Nicholas
Pontio, Bangor
25 Mehefin | 19:30
Darlleniadau o ddramâu gan Sian Northey ac Elin Gwyn
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
26 Mehefin | 20:00
Darlleniadau o ddramâu gan Sian Northey ac Elin Gwyn
Ystafell Preseli, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
2 Gorffennaf* | 19:00
Darlleniadau o ddramâu gan Melangell Dolma a Cai Llewelyn Evans
Ystafell Preseli, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
3 Gorffennaf* | 19:00
Darlleniadau o ddramâu gan Gruffudd Eifion Owen a Lowri Morgan
*Perfformiad wedi’i ddehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain
I gael gwybodaeth bellach am y dramâu, ynghyd â gwybodaeth am y cast a’r cyfarwyddwyr, cliciwch yma
Mae hwn yn gyflwyniad Cymraeg ei iaith.
Mae Grŵp Dramodwyr Newydd yn cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.
20 Chwefror 2019