Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Theatr

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn teithio dwy ddrama gyda’i gilydd yn ystod gwanwyn 2019, sef Merched Caerdydd gan Catrin Dafydd a Nos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams. Bydd y daith yn ymweld â chanolfannau ledled Cymru yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2019.

Cyflwynwyd y ddwy ddrama am y tro cyntaf yn gynharach eleni fel rhan o arlwy Pentref Drama Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Yn dilyn ymateb ardderchog gan gynulleidfaoedd yno, braint o’r mwyaf yw cael rhannu’r dramâu cyfoes a gafaelgar hyn gan ddau o awduron mwyaf beiddgar Cymru.

Bu 2018 yn flwyddyn arbennig iawn i Catrin Dafydd. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, a hynny’n fuan ar ôl ennill Gwobr Ffuglen Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2018 am ei nofel arbrofol Gwales. Cyflwynwyd darlleniad o Merched Caerdydd am y tro cyntaf fel gwaith-ar-waith, yn rhan o raglen Theatr Gen Creu yn y Steddfod, a hynny mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Wedi cyfnod pellach o ddatblygu, dyma gyfle i weld y ddrama gignoeth hon mewn amryw o leoliadau gan un o sêr y byd llenyddol yng Nghymru.

Mae Nos Sadwrn o Hyd yn addasiad Cymraeg gan Roger Williams ei hun o’i ddrama boblogaidd Saturday Night Forever. Bu’r ddrama Saesneg wreiddiol yn boblogaidd o’r cychwyn cyntaf gyda chynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ac fe gyflwynwyd y gwaith yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod eleni, gan gwmni OOMFF, fel rhan o raglen Mas ar y Maes, prosiect newydd ar y cyd rhwng yr Eisteddfod, Stonewall Cymru a’r gymuned LGBT+ yng Nghymru. Mae Roger yn enw adnabyddus ym myd y ddrama yng Nghymru, am gyfresi teledu poblogaidd fel Caerdydd a Bang.  Enillodd Bang nifer o wobrau nodedig, yn cynnwys Medal Efydd Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018 – Rhaglen Adloniant Orau (Drama Drosedd), ac mae wedi derbyn pump enwebiad BAFTA Cymru (Gwobrau 14 Hydref, 2018). Mae gwaith Roger ar gyfer y llwyfan yn cynnwys Tir Sir Gâr (Theatr Genedlaethol Cymru, 2013).

Bydd y ddwy ddrama’n cael eu cyflwyno un ar ôl y llall, gydag egwyl yn y canol. Maent ill dwy yn dilyn hanes cymeriadau amrywiol sy’n byw yn y brifddinas, ac yn weithiau gan awduron sy’n deall ei phobl a’i chymunedau i’r dim. Dyma damaid i aros pryd:

 

Merched Caerdydd (gan Catrin Dafydd)

Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?

 

Nos Sadwrn o Hyd (gan Roger Williams)

Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd.  Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl i gyd, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul.  Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.

 

Dywedodd Arwel Gruffydd, ein Cyfarwyddwr Artistig:

“Mae’r ddwy ddrama yma yn rhoi inni ddarlun o’r Gymru gyfoes sy’n annisgwyl, sy’n sicr o herio’n disgwyliadau. Ar adegau’n chwareus, dro arall yn ysgytwol o onest, dyma ddwy weledigaeth ddigyfaddawd gan ddau awdur Cymraeg sydd ar dop eu gêm, a’n braint ni fel cwmni yw cael rhoi llwyfan cenedlaethol iddyn nhw.”

 

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes ac OOMFF.

Manylion llawn am y daith a’r cast i ddilyn yn fuan.

Categorïau: Newyddion Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government