Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Logo Theatr Gen Creu yn y Steddfod

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi rhaglen Theatr Gen Creu yn y Steddfod, menter newydd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ym Mae Caerdydd 4–11 Awst.

Mae Theatr Gen Creu yn y Steddfod yn fenter newydd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni sy’n rhoi llwyfan i waith-ar-waith Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’n cynnwys cyflwyniadau a darlleniadau o rai o brosiectau’r cwmni sydd mewn datblygiad ar hyn o bryd, gyda’r nod o ddatblygu a mireinio’r gwaith a hybu talent. Mae’n gyfle hefyd i’r cyhoedd roi adborth ar y prosiectau hyn yn eu dyddiau cynnar, ac i ennyn trafodaeth am y broses o greu gweithiau theatr newydd yn y Gymraeg.

Cyflwynir y rhaglen amrywiol hon o ddarlleniadau a dangosiadau o waith-ar-waith yn bennaf yn Theatr y Maes, un o is-bafiliynau’r Eisteddfod, a fydd wedi’i leoli eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o weithiau sydd mewn datblygiad gan awduron ac artistiaid theatr newydd a phrofiadol. Dyma gyfle unigryw i gael cipolwg ar y dramâu hyn yn nyddiau cynnar eu datblygiad, ac i gael blas ar brosesau’r awduron a’r artistiaid sy’n eu harwain wrth iddynt fentro ac arbrofi gyda’u crefft a’u syniadau.

Mae’r rhaglen hon o ddarlleniadau a dangosiadau i’w gweld ochr yn ochr a chynhyrchiad llawn gan y cwmni o Milwr yn y Meddwl, gan Heiddwen Tomos, sef drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Cyflwynir y cynhyrchiad hwn hefyd fel rhan o weithgareddau’r cwmni i ddatblygu gwaith newydd ac i hybu talent, sef Theatr Gen Creu. Bydd Milwr yn y Meddwl yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

 

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Mae ein rhaglen o gyflwyniadau newydd eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef ‘Theatr Gen Creu yn y Steddfod’, yn dathlu’r bwrlwm gweithgaredd sy’n digwydd drwy’r flwyddyn wrth inni ddatblygu gwaith newydd ar gyfer rhaglen o gynyrchiadau gan y cwmni i’r dyfodol. Rydym yn falch iawn o’r cydweithio sydd wedi bod rhyngom ni ac amryw o bartneriaid er mwyn cyflwyno’r rhaglen hon, yn cynnwys yr Eisteddfod, cwmni theatr Volcano, Mas ar y Maes, a chwmni teledu Rondo. Mae’r cyflwyniadau hyn hefyd yn rhan o nifer fawr o weithgareddau sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn fel rhan o’n menter newydd ‘Theatr Gen Creu’ y bu inni ei lawnsio yn gynharach eleni, sef cynllun arbennig i roi llwyfan i waith newydd mewn datblygiad ac i feithrin talent ym myd y theatr. At hyn rydym yn hynod falch hefyd o gyflwyno cynhyrchiad llawn o ‘Milwr yn y Meddwl’ gan Heiddwen Tomos, eto dan faner ‘Theatr Gen Creu’, fel rhan o’n hymrwymiad ni i weld llwyfannu dramâu buddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama.”

 

Mae rhaglen Theatr Gen Creu yn y Steddfod gan Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnwys y canlynol: gwaith mewn datblygiad gan Caryl Lewis, Catrin Dafydd, Glesni Haf, Wyn Mason, Hefin Robinson a Gwyneth Glyn, a gwaith sydd mewn datblygiad rhwng cwmni theatr Volcano a Theatr Genedlaethol Cymru.

Fel rhan o bartneriaeth hirdymor gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gweithio gyda’r Eisteddfod ar guradu gweithgareddau theatr amrywiol yn ystod yr ŵyl. Bydd manylion llawn arlwy’r Pentref Drama yn dilyn yn fuan. Bydd yr Eisteddfod yn gweithredu system bandiau garddwrn ar gyfer gweithgareddau’r dydd a gynhelir yn y Pafiliwn (yn Theatr Donald Gordon) ac yn yr is-bafiliynau.  Bydd modd archebu’r rhain ymlaen llaw neu eu prynu ar y diwrnod. A fanylion tocynnau, cliciwch yma.

 

Am fanylion pellach ac amserlen lawn Theatr Gen Creu yn y Steddfod cliciwch yma.

Categorïau: Newyddion Awdur: Mair Jones

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Gobeithio i chi gyd lwyddo i fachu cusan fach ar ddydd Santes Dwynwen heddi! ❤ Hands up who's nabbed a little kiss… https://t.co/UjSyOfmS1905:00 25/01/2021
  • MACBETH Ar gael o 7pm nos Fercher 27 Ionawr. Capsiynau Caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael. Available from 7pm Wedn… https://t.co/fKdnHaypgM10:34 25/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government