Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Lock-up

Mae Theatr Genedlaethol Cymru heddiw yn cyhoeddi rhaglen newydd o waith mewn ymateb i argyfwng y Coronafeirws. Trwy ddathlu llwyddiannau’r gorffennol, ymateb i’r sefyllfa bresennol a pharatoi ar gyfer y dyfodol, bydd y cwmni’n cefnogi artistiaid theatr Cymru yn ystod y cyfnod nesaf hwn ac yn cynnig arlwy gelfyddydol newydd a gwahanol i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r rhaglen yn cynnwys tair elfen:

  • Theatr Gen Eto: cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r gorffennol ar sgrin
  • Creu Ar-lein: comisiynu a chreu gwaith dramatig digidol gwreiddiol Cymraeg mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol, a datblygu gwaith llwyfan newydd i’r dyfodol trwy ddefnyddio cyfryngau digidol
  • Pawb Ar-lein: cynnig adnoddau addysg a gweithgareddau cyfranogi ar blatfformau digidol.

Theatr Gen Eto
Gyda bod ein theatrau ar hyn o bryd wedi gorfod cau eu drysau, rydym yn lansio Theatr Gen Eto i roi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r cwmni ar sgrin. Gan ryddhau cynnwys o’n archif helaeth, byddwn ni’n rhannu nifer o gynyrchiadau o’r gorffennol ar ein sianel YouTube a hefyd ar blatfform digidol newydd AM (ar-lein ar amam.cymru neu drwy lawrlwytho’r ap ar amam.cymru/ambobdim) er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol, gan sicrhau fod arlwy Gymraeg ei hiaith ar gael ar-lein, ochr yn ochr ac arlwy iaith Saesneg sy’n prysur dyfu. Bydd is-deitlau Saesneg ar gael yn achos rhai o’r dangosiadau hyn.

Llygoden yr Eira yw’r cynhyrchiad cyntaf i’w ryddhau o’r archif, a hynny ar 15 Ebrill 2020. Dyma sioe swynol i blant bach sy’n gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo ac yn seiliedig ar y cynhyrchiad gwreiddiol Snow Mouse gan the egg a Travelling Light. Roedd y cynhyrchiad hwn yn hynod boblogaidd gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd, a nawr, bydd ar gael i’w wylio ar blatfform AM ac ar dudalennau YouTube Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo am bythefnos gyfan o 11yb ar 15 Ebrill 2020.

Creu Ar-lein
Rydym yn ymateb i’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol gyda Creu Ar-lein, sef cyfres o ddramâu neu gyflwyniadau theatraidd gwreiddiol i’w rhannu ar gyfryngau digidol, a pharhad o’i waith datblygu artistig ond gan ddefnyddio cyfryngau digidol. Er mwyn cynnig cyflogaeth i artistiaid yn y cyfnod heriol ac ansicr hwn, ac er mwyn cynnal gweithgaredd dramataidd pan fo’n theatrau ar gau, rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid yn y sector gelfyddydol a’r diwydiannau creadigol er mwyn cyflwyno rhaglen gynhwysfawr ac amrywiol.

Fel rhan o raglen Creu Ar-lein, rydym eisoes wedi cyhoeddi galwad am Gomisiynau Digidol Newydd, ar y cyd â National Theatre Wales ac mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales a BBC Arts. Mae’r bartneriaeth hon yn cynnig cyfleoedd i artistiaid theatr Cymru ymateb yn greadigol i’r sefyllfa bresennol a chreu gweithiau dramataidd dyfeisgar, newydd ar ffurf ddigidol. Y bwriad gyda’r cynllun hwn yw cynhyrchu hyd at 3 chomisiwn newydd y mis dros y 3 mis nesaf ac mae Theatr Genedlaethol Cymru ac NTW eisoes yn croesawu ceisiadau. Ebrill 17 yw dyddiad cau y rownd gyntaf o geisiadau. Bydd cyfle i gyflwyno ceisiadau hefyd ym mis Mai a mis Mehefin.

Hefyd, fel cwmni theatr teithiol, byddwn ni’n parhau i baratoi a chynllunio gweithiau theatr newydd ar gyfer llwyfannau ledled Cymru gyda rhaglen o waith datblygu creadigol sy’n edrych y tu hwnt i gyfnod y cyfyngiadau presennol ond sy’n gwneud defnydd dychmygus o dechnoleg ddigidol yn y cyfnod hwn tra’n bod o dan gyfyngiadau o ran ein symudiadau.

Pawb Ar-lein
Mae gweithgareddau addysg a chyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru yn greiddiol i’w weledigaeth o roi theatr Gymraeg wrth galon y genedl. Felly rydym yn lansio Pawb Ar-lein er mwyn parhau â’r gweithgareddau hyn ar blatfformau digidol.

Mae Pawb Ar-lein yn cynnwys lansio Archif Addysg ar wefan y cwmni i gefnogi astudiaethau Drama a Chymraeg mewn ysgolion uwchradd, prifysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd yr Archif Addysg – sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd – yn cynnwys pecynnau addysg cynhwysfawr, cyfweliadau gydag aelodau allweddol timoedd cynhyrchu ac artistig y cynyrchiadau a mynediad unigryw i ffilmiau archif y cwmni.

Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi cynlluniau a gweithgareddau pellach fel rhan o Theatr Gen Eto, Creu Ar-lein a Phawb Ar-lein dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Ynghyd â’r tair elfen uchod, rydym yn awyddus i gefnogi’r rheiny sydd newydd ddechrau ar eu gyrfaoedd ym maes y theatr. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â National Theatre Wales a nifer o gwmnïau a sefydliadau eraill i groesawu graddedigion theatr a pherfformio 2020 i fyd y theatr broffesiynol yng Nghymru. Bydd Cyfarwyddwr Cyswllt y cwmni, Sarah Bickerton, yn cynnig ei hamser a’i chyngor i’r graddedigion newydd hynny sy’n rhugl yn y Gymraeg dros yr wythnosau nesaf drwy gyfres o gyfarfodydd unigol ar blatfformau digidol. Gallwch gofrestru am gyfarfod gyda Sarah fan hyn.

Er y bu’n rhaid i’r cwmni ganslo teithiau cenedlaethol o Tylwyth a Pryd Mae’r Haf? yn ddiweddar yn sgil argyfwng y Coronafeirws, yr uchelgais yw gallu cyflwyno’r cynyrchiadau hyn unwaith eto yn y dyfodol agos. Anrhydeddwyd yn llawn yr holl daliadau cytundebol i’r artistiaid a’r gweithwyr theatr llawrydd a oedd yn gysylltiedig â’r cynyrchiadau hynny. Mae nifer o weithgareddau cyfranogi y cwmni hefyd wedi gorfod cael eu canslo ac mae cynlluniau’r cwmni ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 wedi’u gohirio tan y flwyddyn nesaf neu wedi gorfod cael eu diwygio.

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Heb os nag oni bai, welodd yr un ohonom ni sefyllfa debyg i hon o’r blaen yma yng Nghymru. Mae ein theatrau ar gau, a chymaint o gynlluniau creadigol bendigedig wedi gorfod cael eu canslo neu’u gohirio. Rydym ninnau fel cwmni wedi gorfod cymryd camau poenus iawn wrth ddod â nifer o gynyrchiadau a gweithgareddau i ben yn ddisymwth. Mae llawer iawn o gwmnïau, artistiaid a gweithwyr llawrydd ym maes y theatr yn wynebu cyfnod pryderus iawn. Ond yng nghanol hyn i gyd mae yna ysbryd o gyfeillgarwch a chydweithio yn ein plith, ac mae’r cyfyngiadau presennol ar ein symudiadau a’n gallu i ymgynnull yn gofyn i ni fod yn greadigol ac yn ddyfeisgar. Mae pob celfyddyd dda, ym mhob cyfnod, wedi’i greu yng nghyd-destun rhyw gyfyngiad neu’i gilydd. Rwy’n hynod falch felly ein bod ninnau fel cwmni wedi gallu ymateb i’r heriau hyn gyda brwdfrydedd a chreadigrwydd gyda’r cynlluniau hyn yr ydym yn falch iawn o’u cyhoeddi heddiw. Bydd Theatr Gen Eto yn adnodd hygyrch a fydd yn cynnig cyfle i bobl ar bum cyfandir i fwynhau rhai o gynyrchiadau diweddar mwyaf poblogaidd Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd rhai, dwi’n siŵr, yn falch o’r cyfle hwn i weld ambell gynhyrchiad unwaith eto, ac eraill yn falch o’r cyfle i fwynhau am y tro cyntaf ambell i gynhyrchiad y bu iddynt ei fethu pan y’i llwyfannwyd. Ac rwy’n hyderus y bydd y cynlluniau sydd ar y gweill o ran Creu Ar-lein a Phawb Ar-lein, nid yn unig yn cynnig cyflogaeth i nifer yn y sector, ond hefyd yn tanio dychymyg ein cynulleidfaoedd, ein cyfranogwyr a’n hartistiaid tra y bydd ein theatrau dan glo. Bydd yn hwyr glas gennym i gyd, dwi’n siŵr, ymgynnull eto i fwynhau theatr fyw, boed hynny yn ein theatrau bendigedig neu mewn mannau annisgwyl, ond yn y cyfamser, bydd y cynlluniau hyn, gobeithio, yn mynd beth o’r ffordd i gadw pobl yn ddiddan.”

8 Ebrill 2020

Categorïau: Newyddion Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government