Mae’n bleser cyhoeddi, oherwydd galw eithriadol gan y cyhoedd, y bydd perfformiad ychwanegol o Chwalfa ar Nos Lun, 22 Chwefror am 7.30pm. Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn dod â nofel T Rowland Hughes yn fyw ar lwyfan Theatr Bryn Terfel gyda chast proffesiynol o ddeuddeg, a chast cymunedol o dros 50 o drigolion yr ardal. Mae Chwalfa yn adrodd hanes Streic Fawr Chwarel y Penrhyn a’i effaith ar gymuned Dyffryn Ogwen, trwy lygaid un teuludychmygol. Mae’r nofel o’r un enw wedi cael ei haddasu gan Gareth Miles, sy’n adnabyddus fel nofelwr a dramodydd o fri. Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad.
Mae’r cast yn cynnwys; Lisa Jên Brown, Sion Emyr, Dyfrig Evans, Mark Flanagan, Robin Griffith, Gwenno Hodgkins, Morfudd Hughes, Elain Lloyd, Ceri Murphy, Emyr Roberts, Rhodri Trefor a Llion Williams. Yn ogystal â hyn, bydd cast cymunedol sy’n cynnwys dros bumdeg o aelodau yn perfformio yn y cynhyrchiad, nifer ohonynt â chysylltiadau teuluol a chyn-deidiau a oedd ymysg y streicwyr.
Y cynllunydd set yw Cai Dyfan, a’r Cyfansoddwyr, Cynllunydd Sain a Chyfarwyddwr Cerdd yw Dyfan Jones. Elanor Higgins yw’r Cynllunydd Goleuo, Louise
Rhoades-Brown ac Ethan Forde yw’r Cynllunwyr Fideo, ac Erin Maddocks yw’r Cynllunydd Gwisgoedd.
Mi fydd talfyriad ar gael ar gyfer y di-Gymraeg a dysgwyr trwy gyfrwng app Sibrwd, sydd wedi ei greu gan Theatr Genedlaethol Cymru a chwmni technegol Galactig. Llais bach sy’n ‘sibrwd’ yng nghlust y defnyddwyr fel mae’r perfformiad yn digwydd yw’r app, ac mae ar gael yn ystod pob perfformiad, trwy gyfrwng ffonau symudol clyfar. Am fwy o wybodaeth am Sibrwd, ewch i www.sibrwd.com
Tocynnau ar gael o 10am dydd Mercher, 10 Chwefror arlein o www.pontio.co.uk, drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28 neu drwy alw i mewn yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor.
-diwedd-
NOSON Y WASG: Nos Wener, Chwefror 19eg 2016, 7.30yh
Am wybodaeth bellach cysylltwch â
Gwen Siôn, Rheolwr Marchnata’r Celfyddydau, Pontio 01248 388 421 gwen.sion@bangor.ac.uk neu
Lowri Johnston, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, Theatr Genedlaethol Cymru: lowri.johnston@theatr.com / 01267
245617 / 07903 842617.
@TheatrGenCymru | #Chwalfa |
theatr.cymru
Hyd y ddrama: Tua 2awr 30 min (yn cynnwys egwyl) |
Addas i rai 11+ oed
Gwybodaeth bellach:
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ
17 i 27 Chwefror 2016, Mawrth – Sadwrn
7.30yh, Sadwrn 27 perfformiad prynhawn 2.00yp
£15 (£12 consesiwn, £30 i deulu o bedwar) | www.pontio.co.uk | 01248
382828