Yn dilyn llwyddiant ysgubol taith Nyrsys yn ddiweddar, mae’n bleser o’r mwyaf gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi manylion pellach am daith Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd, sef cynhyrchiad nesaf y cwmni. Mae Merched Caerdydd yn waith newydd gan Catrin Dafydd a Nos Sadwrn o Hyd yn gyfieithiad gan Roger Williams o’i ddrama boblogaidd Saturday Night Forever. Bydd y ddwy ddrama’n cael eu cyflwyno un ar ôl y llall ac yn teithio ledled Cymru yn ystod y gwanwyn.
Mae’r ddwy ddrama yn dilyn hanes cymeriadau amrywiol sy’n byw yn ein prifddinas, ac yn weithiau gan awduron poblogaidd sy’n deall pobl a chymunedau Caerdydd i’r dim. Bydd Mared Swain yn cyfarwyddo Merched Caerdydd ac Aled Pedrick yn cyfarwyddo Nos Sadwrn o Hyd. Yn dilyn ei lwyddiant yn chwarae’r rhan yn ystod y llwyfaniad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, fe fydd Sion Ifan yn chwarae rhan Lee yn Nos Sadwrn o Hyd. Bydd Emmy Stonelake yn chwarae un o dair o ferched yn Merched Caerdydd, gyda gweddill y cast i’w gyhoeddi’n fuan.
Bydd Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd yn agor yn Theatr Clwyd, yn teithio ledled Cymru a bydd y daith yn dod i ben yng Nghaerdydd gyda chyfres o berfformiadau yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. Manylion y daith:
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug: 13 – 15 Mawrth
Pontio, Bangor: 19 + 20 Mawrth
Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys: 22 Mawrth
Theatr Borough, Y Fenni: 25 Mawrth
Canolfan y Celfyddydau Pontardawe: 26 Mawrth
Theatr Mwldan, Aberteifi: 28 Mawrth
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: 29 + 30 Mawrth
Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin: 1 + 2 Ebrill
Galeri, Caernarfon: 4 + 5 Ebrill
Ffwrnes, Llanelli: 8 + 9 Ebrill
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd: 10 -13 Ebrill
Manylion y cynhyrchiad:
Merched Caerdydd (gan Catrin Dafydd)
Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?
Bu 2018 yn flwyddyn arbennig iawn i Catrin Dafydd. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, a hynny’n fuan ar ôl ennill Gwobr Ffuglen Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2018 am ei nofel arbrofol Gwales. Comisiynwyd Merched Caerdydd yn wreiddiol gan Bwyllgor Llen a Drama yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, ac fe’i datblygwyd a’i chyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru fel darlleniad o waith mewn datblygiad fel rhan o raglen Theatr Gen Creu yn y Steddfod. Wedi cyfnod pellach o ddatblygu, dyma gyflwyno mewn amryw o leoliadau y ddrama gignoeth hon gan un o sêr y byd llenyddol yng Nghymru.
Nos Sadwrn o Hyd (gan Roger Williams)
Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl i gyd, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul. Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.
Mae Nos Sadwrn o Hyd yn addasiad Cymraeg gan Roger Williams ei hun o’i ddrama boblogaidd Saturday Night Forever. Bu’r ddrama Saesneg wreiddiol yn boblogaidd o’r cychwyn cyntaf gyda chynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd. Comisiynwyd yr addasiad Cymraeg hwn gan yr Eisteddfod a Stonewall Cymru ac fe’i gyflwynwyd am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan gwmni OOMFF, fel rhan o raglen Mas ar y Maes, sef prosiect newydd ar y cyd rhwng yr Eisteddfod, Stonewall Cymru a’r gymuned LGBTQ+. Mae Roger yn enw adnabyddus ym myd y ddrama yng Nghymru, yn arbennig felly am gyfresi teledu poblogaidd fel Caerdydd a Bang. Enillodd Bang nifer o wobrau nodedig, yn cynnwys Medal Efydd Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018 – Rhaglen Adloniant Orau (Drama Drosedd), ac enillodd wobr Drama Teledu BAFTA Cymru 2018. Mae gwaith Roger ar gyfer y llwyfan yn cynnwys Tir Sir Gâr (Theatr Genedlaethol Cymru, 2013).
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes ac OOMFF, gyda chefnogaeth Theatr Clwyd. Manylion llawn am y cast i ddilyn yn fuan.