Rydyn ni’n falch o gyhoeddi enwau’r rhai sydd wedi ennill lle ar Awenau, sef cynllun hyfforddi a mentora newydd i gyfarwyddwyr theatr yn y Gymraeg. Yr unigolion llwyddiannus yw Mirain Fflur, Nia Morris, Gethin Roberts ac Elen Mair Thomas.
Nod Awenau yw meithrin doniau cyfarwyddwyr theatr Cymraeg newydd, i sicrhau bod unigolion yn teimlo’n barod i gydio’n hyderus yn yr awenau, ac arwain prosiectau a chynyrchiadau theatr cyffrous i’r dyfodol. Mae’r cynllun yn rhan o Theatr Gen Creu, sef menter i gefnogi datblygiad artistiaid theatr, i hwyluso datblygiad gwaith theatr newydd uchelgeisiol, ac i hybu talent.
Derbyniwyd nifer fawr o geisiadau, a gwaith anodd iawn oedd dewis a dethol. Fel rhan o’r cynllun, bydd cyfleoedd i’r pedwar cyfarwyddwr llwyddiannus dreulio cyfnodau preswyl gyda’r cwmni, mynychu dosbarthiadau meistr gyda chyfarwyddwyr theatr profiadol, cynnig a datblygu syniadau theatraidd newydd gyda’r cwmni, ac ymgymryd â chyfleoedd ymarferol i weithio fel cyfarwyddwyr cynorthwyol ar rai o’i gynyrchiadau.
Rydyn ni hefyd yn falch iawn o allu rhoi cyfle i gyfarwyddwyr Awenau gyfarwyddo darlleniadau o ddramâu gan y dramodwyr sy’n rhan o’n Grŵp Dramodwyr Newydd, a hynny fel rhan o Theatr Gen Creu Ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? rhwng 11 Mehefin a 3 Gorffennaf. Rydyn ni’n falch iawn o allu estyn y cyfle hwn yn ogystal i dri chyfarwyddwr newydd arall, sef Eddie Ladd, Rhian Blythe a Nico Dafydd, a fydd hefyd yn derbyn peth cymorth trwy gynllun Awenau. Mae rhagor o wybodaeth am y daith hon ar gael yma.
Dros y misoedd nesaf, byddwn ni hefyd yn cynnig cyfleoedd i rai eraill o’r ymgeiswyr addawol ar gyfer y cynllun hwn i dderbyn hyfforddiant, i ddatblygu syniadau gyda’r cwmni ac i fwynhau profiadau cysgodi, cynorthwyo a chyfarwyddo dan fentoriaeth.

Noddir Awenau drwy gyfraniadau hael gan ddwy gronfa ariannol sy’n coffáu dau aelod blaenllaw o’r gymuned theatr Gymraeg, sef Cronfa Goffa Elinor Wyn Roberts a Chronfa Goffa Graham Laker.
Yn wreiddiol o Landegla, Sir Ddinbych, treuliodd Elinor Wyn Roberts (1954–1989) rai o’i blynyddoedd cynnar hefyd yn Brymbo ac yn Nyserth. Ymunodd gyda Chwmni Theatr Cymru, ble y gweithiodd fel rheolwr llwyfan; , felly hefyd, maes o law, gyda Chwmni Theatr Bara Caws, cyn mynd ymlaen i redeg cwmni Hwyl a Fflag am gyfnod. Gweithiodd hefyd ar dimau cynhyrchu dramâu teledu, fel rheolydd cynyrchiadau ac am gyfnod fel cyw-gyfarwyddydd.
Dywedodd Catrin Edwards, ffrind agos i Elinor ac un o sefydlwyr y gronfa goffa, “Ar ôl i Elinor farw, penderfynodd criw ohonom sefydlu cronfa fyddai’n cynnig nawdd i gefnogi menywod ifanc ar gychwyn eu taith nhw yn y theatr yng Nghymru – rhywbeth oedd gymaint yn rhan o fywyd byr El ac mor agos at ei chalon. Dwi’n siŵr y byddai hi’n falch iawn bod yr arian yma bellach yn mynd at gynllun Awenau, Theatr Genedlaethol Cymru.”
Brodor o Brighton a Hove, yn ne-ddwyrain Lloegr, oedd Graham Laker (1949–2001). Wedi cyfnod fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol yn Theatr Haymarket, Caerlŷr, cafodd swydd fel darlithydd yn Adran Ddrama Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ar ddiwedd yr 1980au, ac yntau erbyn hynny yn rhugl yn y Gymraeg, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Gwynedd, sef cwmni y bu ef ei hun yn flaenllaw wrth ei sefydlu.
Dywedodd Valmai Jones, un o’r rhai a sefydlodd y gronfa goffa, “Roedd gan Graham gariad angerddol tuag at y theatr, ac yn arbennig felly theatr yn y Gymraeg. Gweithiodd yn galed am flynyddoedd lawer i gyfoethogi’r arlwy theatr ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru ac i fod o gymorth i gyfarwyddwyr, awduron ac actorion. Fe fydd pawb a elwodd o’i gefnogaeth a’i frwdfrydedd, rwy’n siŵr, yn falch bod y gronfa a sefydlwyd i’w goffáu yn mynd i gynorthwyo cyfarwyddwyr y dyfodol trwy gynllun Awenau, Theatr Genedlaethol Cymru, fel y byddai Graham ei hun.”
Dywedodd Arwel Gruffydd, ein Cyfarwyddwr Artistig:
“Mae meithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid theatr Cymraeg yn rhan hollbwysig o waith Theatr Genedlaethol Cymru. Felly, rydw i’n falch iawn o weld cynifer o gyw-gyfarwyddwyr addawol yn cychwyn ar eu gyrfa fel cyfarwyddwyr theatr gyda chynllun Awenau. Hoffwn ddiolch o waelod calon i gronfeydd coffa Elinor Wyn Roberts a Graham Laker am gefnogi’r cynllun, a thrwy hynny sicrhau ein bod yn gallu ehangu mynediad i gyfarwyddo theatr ar gyfer cenhedlaeth newydd o artistiaid. Roedd colli Elinor a Graham, rai blynyddoedd yn ôl bellach, yn ergyd drom i’r gymuned theatr Gymraeg. Mae’n fraint aruthrol i ni fel cwmni gael cynnig cyfle, trwy gyfraniadau hael y ddwy gronfa hyn, i gyfarwyddwyr newydd ddatblygu eu crefft ar ddechrau eu taith.”
11 Mehefin 2019