Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
WORK WELSH, CARDIFF 19/03/2018

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai Efa Gruffudd Jones fydd Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni o fis Rhagfyr 2018 ymlaen.  

Mae gan Efa, sy’n dod yn wreiddiol o Dreforus, brofiad helaeth o arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol. Ers 2016, mae Efa wedi gweithio fel Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y corff newydd sy’n trawsnewid y sector Dysgu Cymraeg i Oedolion. Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru am dros ddegawd, a gwelwyd twf sylweddol ym maint y mudiad dros y cyfnod hwnnw. Daw Efa â phrofiad eang o arwain sefydliadau cenedlaethol sydd â’r iaith Gymraeg wrth wraidd eu cenhadaeth.

Bydd Efa yn dilyn ôl traed Gwerfyl Pierce Jones, sydd wedi gweithredu fel Cadeirydd i’r Theatr ers pum mlynedd.  Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni:

 

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio yn y cyfnod nesaf hwn gydag Efa, wrth inni roi cynlluniau uchelgeisiol ar waith i gyflwyno theatr o’r radd flaenaf sy’n amrywiol, cyfoes a pherthnasol.

 

“Wrth edrych ymlaen at gyfnod newydd, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gwerfyl Pierce Jones am ei chyfraniad. Bu’n bleser cydweithio â Gwerfyl dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae fy niolch i, a gweddill y staff a’r Bwrdd, yn fawr iddi am ei hymroddiad, ei phrofiad, ei harweiniad a’i hawddgarwch; rydyn ni fel cwmni’n dymuno’r gorau iddi i’r dyfodol.”

 

Meddai Efa: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru ac at gyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r Theatr dros y cyfnod nesaf.  Mae’r Theatr Genedlaethol yn gwneud gwaith gwych wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r Gymraeg, ac wrth ddatblygu’r Theatr yng Nghymru.”

 

Mae Efa yn ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod cyfnod cyffrous iawn. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn mwynhau ymateb ardderchog i’w gynhyrchiad diweddaraf – Nyrsys – sy’n teithio ledled Cymru hyd 8 Rhagfyr. Yn y gwanwyn, bydd y cwmni’n cyflwyno dwy ddrama ochr yn ochr – sef Merched Caerdydd gan Catrin Dafydd a Nos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams; dramâu cyfoes yw’r rhain gan ddau o’n hawduron mwyaf beiddgar. Bydd y cwmni hefyd yn parhau i  ddatblygu Theatr Gen Creu, sef y fenter newydd sy’n datblygu ysgrifennu newydd yn y Gymraeg ac yn meithrin sgiliau creadigol yn y sector theatr yng Nghymru.

Categorïau: Newyddion Awdur: Mair Jones

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government