Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi manylion Y Cylch Sialc, sef cynhyrchiad newydd ar gyfer tymor yr hydref eleni. Bydd y ddrama ar daith o 2–22 Hydref 2019.
Dyma’r tro cyntaf inni droedio i fyd Bertolt Brecht, a hynny gyda throsiad newydd i’r Gymraeg o Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle) gan yr awdur a’r bardd Mererid Hopwood, a cherddoriaeth wreiddiol yn cael ei pherfformio’n fyw gan y gantores Gwenno. Stori antur yw Y Cylch Sialc sy’n dilyn hanes merch ifanc wrth iddi ffoi o’i chartref oherwydd rhyfel a phenderfynu aberthu popeth er mwyn achub plentyn. Mae’r ddrama – sy’n un o glasuron yr ugeinfed ganrif – yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog.
Mae’r cast yn cynnwys nifer o wynebau cyfarwydd yn ogystal â rhai sy’n newydd i’r byd theatr Cymraeg. Rebecca Hayes fydd yn chwarae rhan y ferch ifanc wrth galon y stori, a bydd hi’n rhannu’r llwyfan gyda Geraint Rhys Edwards, Siôn Eifion, Sara Harris-Davies, Noel James, Pınar Öğün, Glyn Pritchard a Mali Ann Rees. Bydd Gwenno – sy’n cyfansoddi’r holl gerddoriaeth a chaneuon – hefyd yn perfformio’n fyw trwy gydol y cynhyrchiad fel Y Cyfarwydd. Sarah Bickerton, ein Cyfarwyddwr Cyswllt, fydd yn cyfarwyddo’r ddrama.
Cyflwynir Y Cylch Sialc mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr ac fe fydd yn agor yn Ffwrnes, Llanelli nos Fercher 2 Hydref, gyda pherfformiadau yno hyd nos Wener 4 Hydref. O Lanelli, fe fydd yn teithio i’r canolfannau canlynol: Portland House, Caerdydd (8–10 Hydref 2019), Pontio, Bangor (15–18 Hydref 2019) a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (21 a 22 Hydref 2019). Bydd perfformiad wedi’i ddehongli gydag Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) ar 10 Hydref 2019 am 7.30pm yn Portland House, Caerdydd. Mae tocynnau bellach ar werth yn Llanelli, Caerdydd ac Aberystwyth, a bydd tocynnau ar gyfer y perfformiadau yn Pontio yn mynd ar werth ar 28 Mehefin.
Ym mhob perfformiad, bydd Sibrwd – ein ap mynediad iaith – ar gael i dywys y gynulleidfa trwy’r stori, pa mor rhugl bynnag ydynt yn y Gymraeg. Trwy gyfrwng llais yn y glust, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan ac mae ar gael i aelodau’r gynulleidfa ei ddefnyddio ar eu ffonau personol neu drwy fenthyg teclyn gan y cwmni cyn i’r sioe ddechrau. Yn ogystal, cynhelir sgyrsiau ar hyd y daith i gefnogi dysgwyr sy’n mynychu’r perfformiad.
I gefnogi’r daith, mae’r cwmni hefyd yn falch o gyflwyno Pecyn Addysg cynhwysfawr ar y cyd â CBAC. Mae’r pecyn wedi’i deilwra ar gyfer cyrsiau Drama TGAU a Safon Uwch, a’r gobaith yw y bydd yn cyfoethogi profiad grwpiau ysgol sy’n dod i wylio’r cynhyrchiad.
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Prin iawn yw’r cyfleoedd i weld dramâu arloesol Brecht ar lwyfan – ac maen nhw’n brinnach fyth yn y Gymraeg. Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi manylion y daith ar gyfer y cynhyrchiad newydd, trawiadol hwn a chyflwyno cast eithriadol dalentog ac eang iawn eu profiad. Mae’r cwmni hefyd yn hynod falch o gyd-weithio gyda Theatrau Sir Gâr ar y cynhyrchiad hwn; fel cwmni sydd wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin, mae’r berthynas hon gyda’n canolfannau lleol yn un arbennig iawn i ni.”
Cewch ragor o fanylion ynghylch y cynhyrchiad yma
Y Daith:
Ffwrnes, Llanelli
2 – 4 Hydref 2019
theatrausirgar.co.uk | 0345 2263510
Portland House, Caerdydd
8 – 10 Hydref 2019
wmc.org.uk | 029 2063 6464
Pontio, Bangor
15 – 18 Hydref 2019
Tocynnau ar werth cyn bo hir
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
21 a 22 Hydref 2019
aberystwythartscentre.co.uk | 01970 62 32 32
Chwith i dde: Rebecca Hayes, Gwenno, Geraint Rhys Edwards, Siôn Eifion, Sara Harris-Davies, Noel James, Pınar Öğün, Glyn Pritchard, Mali Ann Rees.
13 Mehefin 2019