Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
PrydMaerHaf_GwefanMawr1200x800

Mae Criw Brwd a ninnau’n falch iawn o gyhoeddi manylion Pryd Mae’r Haf?, sef cynhyrchiad newydd gan y ddau gwmni ar gyfer 2020. Bydd y ddrama’n cael ei llwyfannu yn Theatr Soar, Merthyr Tudful, a The Other Room, Caerdydd, ym mis Chwefror 2020, cyn mynd ar daith drwy Gymru rhwng 20 Ebrill ac 8 Mai 2020.
Rydym ni’n falch o ddatgelu mai Aron Cynan, Ella Peel a Cellan Wyn fydd yr actorion. Mae Aron Cynan newydd raddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd; bu’n actio mewn nifer o gynyrchiadau tra yn y coleg, gyda Chwmni Richard Burton, ac fe’i gwelwyd yn ddiweddar yn 35 Awr ar S4C. Mae Ella Peel yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Pobol y Cwm, lle roedd yn chwarae rhan Hannah Francis. Mae hi hefyd wedi actio mewn rhaglenni a chyfresi megis Parch, 35 Diwrnod, Y Streic a Fi ac Y Gwyll / Hinterland (S4C). Ar ôl ei lwyddiant yn Bachu, sef cynhyrchiad Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, a ganmolwyd yn fawr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, Cellan Wyn yw’r trydydd aelod o gast Pryd Mae’r Haf? Sion Pritchard fydd yn cyfarwyddo’r ddrama, gydag Elin Phillips (cynllun Awenau, Theatr Genedlaethol Cymru) yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol.

Cyflwynir Pryd Mae’r Haf?, sef trosiad i’r Gymraeg gan Gwawr Loader o’r ddrama Christmas is Miles Away gan Chloë Moss, gan Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Theatr Soar a The Other Room. Caiff ei llwyfannu ym Merthyr Tudful a Chaerdydd ym mis Chwefror, cyn teithio i’r canolfannau canlynol ym mis Ebrill a Mai 2020: Ffwrnes, Llanelli (20 a 21 Ebrill); Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys (23 a 24 Ebrill); Pontio, Bangor (25 Ebrill); Theatr Twm o’r Nant, Dinbych (28 Ebrill); Glanyrafon, Casnewydd (30 Ebrill); Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin (1 a 2 Mai); Theatr Mwldan, Aberteifi (5 Mai); Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (6 a 7 Mai); Galeri, Caernarfon (8 Mai). Mae tocynnau ar gyfer y daith bellach ar werth mewn sawl canolfan.
Ym mhob perfformiad, bydd Sibrwd – sef ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru – ar gael i dywys y gynulleidfa drwy’r ddrama, pa mor rhugl bynnag y maent yn y Gymraeg. Trwy gyfrwng llais yn y glust, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan, ac mae ar gael i aelodau’r gynulleidfa i’w ddefnyddio ar eu ffonau personol neu drwy fenthyg teclyn gan y cwmni cyn i’r sioe ddechrau. Bydd hefyd perfformiad wedi’i ddehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar 12 Chwefror 2020 yn The Other Room, Caerdydd.

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Mae cefnogi artistiaid theatr ar eu prifiant, a chwmnïau theatr newydd, yn greiddiol i weledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru. Rydym yn falch iawn o gyd-weithio gyda’r cwmni ifanc hwn, sydd â gweledigaeth glir, feiddgar a chynhwysol. Dyma ddrama dwymgalon, wedi’i gosod yng Nghymoedd y De ddiwedd y 1980au, sy’n rhoi profiadau heriol pobl ifanc ym mhob oes ar ganol y llwyfan. Mae trosiad cywrain a hyderus Gwawr Loader nid yn unig yn cadarnhau pa mor berthnasol yw’r ddrama eithriadol hon i gymunedau ledled gwledydd Prydain, ond hefyd yn arwyddo talent newydd ym myd y theatr Gymraeg. Rydym hefyd yn falch iawn o gefnogi Sion Pritchard fel cyfarwyddwr y gwaith, ac Elin Phillips fel ei gynorthwyydd, wrth iddynt hwythau hefyd ddatblygu eu crefft.”

Dywedodd Gwawr Loader ac Elin Phillips o Criw Brwd:
“Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn cael cyd-weithio â thri actor mor dalentog ar gyfer Pryd Mae’r Haf? Roedd cwrdd ag Aron, Ella a Cellan yn ystod y cyfnod clyweld yn bleser pur ac rydym yn aros yn eiddgar i’w gweld yn yr ystafell ymarfer, dan gyfarwyddyd crefftus Sion Pritchard. Mae cyd-weithio â’n cwmni theatr cenedlaethol Cymraeg yn hwb anferthol i ni ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr hefyd gefnogaeth Theatr Soar a The Other Room. Doedden ni erioed wedi dychmygu y byddai’r ddrama’n cael llwyfan ar hyd a lled y wlad ac rydym hefyd yn edrych ymlaen at weld sut fydd cynulleidfaoedd ar draws Cymru yn ymateb i’r stori hynod hon.”
Cewch ragor o fanylion ynghylch y cynhyrchiad yma.

19 Tachwedd 2019

Categorïau: Newyddion Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government