Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi cast Nansi, prif gynhyrchiad y cwmni yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, drama newydd gan Angharad Price sy’n codi’r llen, i sain y delyn, ar gymeriad hudolus Nansi Richards.
Yn ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf bydd Melangell Dolma (Nansi) a Gwyn Vaughan Jones, ac fe fydd Siw Hughes a Carwyn Jones yn dychwelyd i weithio gyda’r cwmni unwaith eto. Angharad Price sydd wedi ysgrifennu’r sgript newydd, yn seiliedig ar syniad gwreiddiol gan Sarah Bickerton, a Sarah Bickerton fydd yn cyfarwyddo.
Mae’r ddrama’n rhoi inni flas o’r newydd ar fywyd lliwgar y delynores o Faldwyn, Nansi Richards. Carl Davies fydd yn cynllunio’r set gyda Dyfan Jones yn Gyfansoddwr ac Chynllunydd Sain.
Meddai’r Cyfarwyddwr, Sarah Bickerton, sy’n hannu o Faldwyn yn wreiddiol, ac sy’n perthyn i Nansi Richards;
“Rydw i’n hapus iawn bod Theatr Genedlaethol Cymru yn llwyfannu drama am fywyd Nansi Richards yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Yn wreiddiol o’r ardal ac yn perthyn i Nansi, mae ei bywyd rhyfeddol wedi bod yn chwilfrydedd mawr i mi ers yn ferch fach. Ei dawn arbennig, ei chymeriad unigryw, a’r straeon sy’n bodoli amdani – mae ’na ryw ryfeddod yma. Ac mae Angharad Price wedi creu sgript sy’n dod a stori’r Nansi ifanc yn fyw – mae ’na hwyl ac antur ond hefyd golwg newydd a’r frwydr Nansi, y ferch, i fod yn artist. Rydym yn edrych ymlaen nawr i ddechrau’r ymarferion!”
Bydd cynhyrchiad Nansi i’w weld yn y Stiwt, Llanfair Caereinion nos Lun (3ydd o Awst) tan nos Wener (7fed o Awst) yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd bws rhad ac am ddim ar gael o’r maes. Mae tocynnau ar werth trwy’r Eisteddfod Genedlaethol – www.eisteddfod.org.uk / 0845 4090 900
Gwybodaeth bellach:
Nansi
Theatr Genedlaethol Cymru
3 – 7 Awst 2015, 20:00
Y Stiwt, Llanfair Caereinion, SY21 0RY
Tocynnau: www.eisteddfod.org.uk
£15 / £12
Hyd y ddrama: 1 ½ awr
Bws ar gael i’r gynulleidfa bob nos ac yn dychwelyd wedi’r sioe.
19:15 – Prif Fynedfa’r Eisteddfod
19:30 – Maes carafanau
Bydd bar yn gwerthu diodydd meddal ac alcoholic yn y lleoliad.
Gwybodaeth am y cast
Mae Melangell Dolma ar hyn o bryd yn ymddangos yng nghyfres Parch ar S4C. Mae newydd raddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a dyma’r tro cyntaf iddi weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Siw Hughes yn adnabyddus am bortreadu cymeriad Kath Jones ar Pobol y Cwm, ac yn fwy diweddar bu’n ymddangos yng nghyfres Gwaith Cartref ar S4C. Fe ymddangosodd Siw Hughes yng nghynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru sef Yn Debyg Iawn i Ti a Fi gan Meic Povey. Bu Carwyn Jones yn chwarae rhan Llew Llaw Gyffes yn nrama lwyfan Blodeuwedd gan Saunders Lewis i Theatr Genedlaethol Cymru yn 2013, ac bu’n rhan o gast Esther a Cysgod y Cryman i’r cwmni yn y gorffennol. Mae Gwyn Vaughan Jones yn adnabyddus am ei rôl ar Rownd a Rownd ac yn actor cyswllt gyda Clwyd Theatr Cymru.
Angharad Price – Awdur
Mae Angharad Price yn awdur dwy nofel, O, Tyn y Gorchudd, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 a gwobr Llyfr y Flwyddyn, a Caersaint a gyrhaeddodd Restr Fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011. Mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau academaidd, gan gynnwys Ffarwel i Freiburg, astudiaeth ar waith T. H. Parry-Williams, a enillodd Wobr Ellis Griffith 2014. Mae’n byw yng Nghaernarfon, ac yn Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Sarah Bickerton – Cyfarwyddwr
Graddiodd Sarah o Brifysgol Aberystwyth yn 2008, cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel cyfarwyddwr gyda Living Pictures a Sherman Cymru. Bu’n Gynorthwy-ydd Llenyddol yn Sherman Cymru 2011-2012.
Theatr:
Cyfarwyddo yn cynnwys: A Place with the Pigs (Sherman Cymru); Llain Galed (Gwŷl Egin Sherman Cymru); Unprotected (Canolfan y Mileniwm a Velvet Ensemble); Kindling (Mess up the Mess Theatre Company)
Cyfarwyddwr cyswllt yn cynnwys: Y Bont, C’laen ’Ta! (Theatr Genedlaethol Cymru); Y Coblynnod a’r Cryddion (Sherman Cymru)
Cyfarwyddwr cynorthwyol yn cynnwys: Desire Lines, A Christmas Carol, Amgen : Broken, The Watching, Yr Argae, Cinders (Sherman Cymru) Miss Julie (Living Pictures) Outdoors (National Theatre Wales a Rimini Protokoll)
Cyfarwyddo ffilm fer: Buddha Boy (It’s My Shout a BBC Cymru)
Carl Davies – Cynllunydd
Hyfforddwyd Carl Davies yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Roedd Carl yn rownd derfynol Gwobr Linbury am Gynllunio Llwyfan yn 2005. Mae ei waith diweddar yn cynnwys;
MYR MUR, SAFE (Zoie Logic); Hansel and Gretel, The Mikado (Co Opera Co); Blodeuwedd (Theatr Genedlaethol Cymru); Ready or Not, Little Artist Big Painting (Commotion Dance); The Phoenix and the Carpet (Forest Forge); Kea Park (South Yorkshire Police); The Bacchae, Caucasian Chalk Circle (Nuffield Theatre, Southampton); Exams are Getting Easier (Birmingham Repertory Theatre); To and Fro (Oxford Playhouse); Robin Hood, The Jungle Book, Midsummer Nights Dream (The Castle Theatre, Wellingborough); Candide, The Calling of Maisy Day (Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru).
Dyfan Jones – Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain
Hyfforddwyd Dyfan ym Mhrifysgol Kingston a Choleg Cerdd a Drama y Guildhall. Dechreuodd weithio’n broffesiynol ym 1995 ac ers hynny bu’n Gyfansoddwr, Cyfarwyddwr Cerdd a Chynllunydd Sain ar dros 150 o gynyrchiadau theatr. Fel cyfansoddwr ar gyfer y teledu, mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer nifer o gyfresi drama a chartŵns, yn ogystal â rhaglenni adloniant ysgafn a ffeithiol. Mae ei waith diweddar ar gyfer y theatr yn cynnwys Blodeuwedd, Dyled Eileen, Deffro’r Gwanwyn (Theatr Genedlaethol Cymru), Sky Hawk, Season’s Greetings, Rape of the Fair Country, Humbug! (Clwyd Theatr Cymru), Love and Money (Waking Exploits), Contractions (Ian Goosey/Chapter) – Enillydd Wales Theatre Awards 2015 (Sain Gorau).
Gwybodaeth bellach
Am fwy o wybodaeth ac i drefnu tocynnau i’r wasg, cysylltwch â Lowri Johnston,
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru, lowri.johnston@theatr.com / 01267 245617