Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Cyhoeddi cast

Merch yr Eog

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch heddiw o gyhoeddi cast Merch yr Eog / Merc’h an Eog, cynhyrchiad amlieithog fydd yn teithio Cymru, Lloegr a Llydaw yn nhymor yr Hydref 2016. Mae Merch yr Eog yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba, Llydaw, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Bydd yr ymarferion yn cychwyn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth dydd Llun y 5ed o Fedi.

Lleuwen Steffan fydd yn chwarae’r brif rhan (Mair), ac yn chwarae rhan y fam bydd Rhian Morgan. Yn ymuno â nhw bydd tri actor o Lydaw sef Loeiza Beauvir, Steeve Brudey a Mai Lincoln.

Daw Lleuwen Steffan yn wreiddiol o Rhiwlas ger Bangor. Mae wedi gweithio gyda Teatr Piba yn Llydaw yn y gorffennol ond dyma’r tro cyntaf iddi weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Yn debyg i’w chymeriad yn y ddrama, symudodd i Lydaw a dysgu’r iaith. Mae’n adnabyddus fel cantores ac fe enillodd wobr Liet International am un o’i chaneuon Llydaweg, Ar Gouloù Bev.

Mae Rhian Morgan yn dychwelyd i weithio gyda’r cwmni yn dilyn chwarae rhan Eileen Beasley yn ‘Dyled Eileen’, a chafodd ei gwobrwyo am y rhan honno fel yr Actores Orau yn y Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru 2014.

Bydd y ddrama, sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourges, yn gynhyrchiad amlieithog a fydd yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg. Cyfarwyddwyr y ddrama yw Thomas Cloarec (Teatr Piba) a Sara Lloyd (Theatr Genedlaethol Cymru). Bydd Merch yr Eog yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 5 Hydref 2016. Dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru gydweithio â chwmni o dramor ar gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac a fydd yn teithio tair gwlad.

Meddai Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru, ac un o Gyfarwyddwyr Merch yr Eog:

“Mae hwn yn brosiect hynod o gyffrous i fod yn rhan ohono, un beiddgar i ni fel cwmni ac fe fyddwn ni hefyd yn mynd â’n cynulleidfa ar siwrne newydd. Rydym wedi bod yn datblygu’r gwaith ers tair blynedd, sydd wedi golygu cyfnodau preswyl yma yng Nghymru a draw yn Llydaw. Mae’r profiad o weithio gyda’n ffrindiau o Lydaw wedi bod yn siwrne o ddarganfod yn greadigol ac yn ieithyddol ond hefyd o ran traddodiad theatr.  Bydd y ddrama’n cael ei chyflwyno mewn tair iaith, ac mae hynny wrth gwrs, yn dipyn o her, ond ar yr un pryd, yn teimlo’n gyffrous i’w gyfarwyddo.”

Bydd gofyn i’r gynulleidfa Gymraeg ddefnyddio ap Sibrwd er mwyn dilyn rhannau o’r ddrama sydd mewn Llydaweg a Ffrangeg (a Creole). Hyd yn hyn, defnyddiwyd Sibrwd ar gyfer cynulleidfaoedd di-Gymraeg y cwmni, ac mae hyn yn gam mawr ymlaen yn natblygiad yr adnodd. Bydd y cyfan ar gael, hefyd trwy gyfrwng Sibrwd, yn y Saesneg a’r Ffrangeg.

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Mae’r cynhyrchiad arloesol hwn yn benllanw blynyddoedd o drafod a chydweithio gyda’r cwmni hwn o Lydaw, sy’n arbenigo mewn creu cynyrchiadau theatr cyfoes yn y Llydaweg. Rydym ni hefyd fel cwmni’n torri tir newydd wrth gyflwyno Sibrwd i’n cynulleidfa gyfan am y tro cyntaf. Bydd gofyn i bawb sy’n gwylio’r sioe ddilyn Sibrwd er mwyn cael cyfieithiad o’r ieithoedd eraill sydd wedi eu cynnwys yn y ddrama, a hynny yma yng Nghymru, yn Plymouth ac yn Llydaw. Bydd Sibrwd yn cynnwys cyfieithiadau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg a Saesneg. Bydd yn brofiad newydd i lawer o’n cynulleidfa i ddefnyddio Sibrwd, ond byddwn yn darparu cyfarwyddiadau manwl o flaen llaw a bydd tîm o bobl ym mhob canolfan i roi cymorth i’r gynulleidfa ar sut i ddefnyddio Sibrwd.”

Pan gaiff Mair ei galw adref i angladd yng Nghymru, mae’n dioddef pwl anghyfarwydd o hiraeth, ac mae’r sôn am werthu’r fferm deuluol yn corddi teimladau o gyfrifoldeb a dyletswydd ynddi. Mae hi bellach yn cwestiynu dedwyddwch ei bywyd dinesig yn Llydaw, a’i pherthynas gyda’i chariad, Loeiza. ’Dyw ei bywyd yno erioed wedi teimlo mor bell o gefn gwlad Cymru. A hithau’n gorfod wynebu’r penderfyniad mwyaf anodd iddi erioed, daw cymydog caredig ag anrheg anghyffredin iddi. Ai dyma’r arwydd y mae hi wedi bod yn ei geisio?

-diwedd-

Gwybodaeth bellach

Am fwy o wybodaeth ac i drefnu tocynnau i’r wasg, cysylltwch â Lowri Johnston, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru, lowri.johnston@theatr.com / 01267 245617 / 07903 842617

Yn seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourgès
Cyfarwyddo: Sara Lloyd, Thomas Cloarec
Cynllunydd: Nadège Renard
Cynllunydd Goleuo: Ceri James
Cynllunydd Fideo: Louise Rhoades-Brown
Cynllunydd Sain: Steve Shehan

Cast yn cynnwys: Loeiza Beauvir, Steeve Brudey, Mai Lincoln, Rhian Morgan, Lleuwen Steffan
Dyddiadau:

19:30 – 05–07 Hydref
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
www.aberystwythartscentre.co.uk / 01970 623 232

19:30 – 11 a 12 Hydref
Pontio, Bangor
www.pontio.co.uk / 01248 38 28 28

19:30 – 14 Hydref
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
www.gwynedd.llyw.cymru/neuadd-dwyfor 01758 704088

19:30 – 17 Hydref
Galeri, Caernarfon
www.galericaernarfon.com / 01286 685 222

19:30 – 20 a 21 Hydref
Y Lyric, Caerfyrddin
www.theatrausirgar.co.uk / 0845 226 3510

20:00 – 25 a 26 Hydref
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
www.yganolfan.org.uk / 029 2063 6464

19:30 – 29 Hydref
The House, Plymouth
www.peninsula-arts.co.uk / 01752 585050

3+4 Tachwedd
L’Arthémuse, Brieg, Llydaw

15 Tachwedd
Le Théâtre du Champ au Roy, Gwengamp, Llydaw

17+18 Tachwedd
La Maison du Théâtre, Brest, Llydaw

24 Tachwedd
Le Théâtre du Pays de Morlaix, Montroulez, Llydaw

Categorïau: Newyddion Awdur: Lowri Johnston

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Gobeithio i chi gyd lwyddo i fachu cusan fach ar ddydd Santes Dwynwen heddi! ❤ Hands up who's nabbed a little kiss… https://t.co/UjSyOfmS1905:00 25/01/2021
  • MACBETH Ar gael o 7pm nos Fercher 27 Ionawr. Capsiynau Caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael. Available from 7pm Wedn… https://t.co/fKdnHaypgM10:34 25/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government