Ochr yn ochr â National Theatre Wales, rydym yn falch o gyhoeddi comisiynau ar gyfer tri phrosiect i artistiaid theatr o Gymru fel rhan o ail rownd ein Comisiynau Digidol Newydd. Yr artistiaid llwyddiannus yw: Er Cof, Jessie Brett, ac Anna Poole a Kelly Jones.
Gyda’r perfformiad digidol cyntaf o’i fath drwy gyfrwng y Gymraeg, ry’n ni’n falch o gyflwyno Er Cofid 19 gan Er Cof – marathon o theatr berfformiadol fydd yn archwilio ein bywydau dan glo gyda chwe awr feiddgar o chwarae, lladd amser a rhoi’r byd yn ei le. Megan Cynllo, Meleri Morgan, Nannon Evans a Naomi Nicholas yw aelodau Er Cof – cwmni a ffurfiwyd gan y pedair yn ystod eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddant yn perfformio’n fyw o’u cartrefi yn Nhreganna, Yr Eglwys Newydd, Llanllwch a Phontsian. Rhagor o fanylion i ddilyn.
Wedi’i greu gan Anna Poole a Kelly Jones, bydd chwe theulu yn trawsnewid eu cartrefi o ofodau ynysig i fydoedd theatraidd hudolus yn Room to Escape. Ac yn olaf, bydd Jessie Brett yn dod â dawnswyr o bob gallu at ei gilydd wrth ddefnyddio iaith y corff drwy dechnoleg yn Humans Move.
Byddwn ni’n canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyno prosiect Er Cof, gyda National Theatre Wales yn bennaf gyfrifol am y ddau brosiect arall.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael cyn bo hir am sut a ble gallwch chi weld y comisiynau newydd cyffrous hyn.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol. Ceir rhagor o wybodaeth am Creu Ar-lein yma.
28 Mai 2020