Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Pentref Drama 2015

21/07/2015

Pentref2

Mae Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi amserlen y Pentref Drama yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni, sydd yn cynnwys Caffi’r Theatrau, y Cwt Drama a Theatr y Maes.

Bydd wythnos lawn o weithgareddau yn y Pentref Drama, sy’n cael ei noddi gan Theatr Genedlaethol Cymru gan gynnwys dramâu, sgyrsiau, cystadlaethau, darlithoedd, dangosiadau, gweithgareddau i blant ac i’r teulu. Ceir yr amserlen yn llawn yma.

Bydd Caffi’r Theatrau yn dychwelyd eleni yn dilyn llwyddiant y llynedd. Mae’r Caffi yn fenter ar y cyd rhwng y cwmnïau cynhyrchu theatr Cymraeg a chanolfannau cyflwyno yng Nghymru dan faner WAPA. Cymdeithas Cymru ar gyfer y Celfyddydau Perfformio yw WAPA, sef y corff ambarél ar gyfer y cwmnïau celfyddydau perfformio proffesiynol, yn cynrychioli theatr, opera a dawns. Bydd paned ar gael trwy gydol y dydd yn y caffi, ynghyd â bwrdd crefftau i’r plant a sgyrsiau amrywiol. Bydd modd prynu tocynnau yn y Caffi hefyd ar gyfer sioeau Theatr Bara Caws a Theatr Genedlaethol Cymru.

Yn adeilad newydd i faes yr Eisteddfod yn 2014, bydd y Cwt Drama yn dychwelyd eto eleni gydag amserlen amrywiol a chyffrous. Prif ddrama yr wythnos yno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru fydd La Primera Cena gan Dewi Wyn Williams, sef llwyfaniad cyntaf gwaith buddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Janet Aethwy fydd yn cyfarwyddo ac fe fydd y cast yn cynnwys Siân Beca, John Glyn, Martin Thomas a Delyth Wyn.

Dyma ddrama am dad a mab yn cyfarfod am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, ond nid yw’n gyfarfyrddiad hawdd. Dyma stori am daith un gŵr i ddarganfod y gwir, waeth beth fo’r canlyniad. Bydd perfformiadau yn y Cwt Drama o nos Lun y 3ydd o Awst tan nos Wener y 7fed o Awst am 6:00yh. Pris tocyn yn £5 (ddim yn cynnwys mynediad i’r Maes), ac ar werth trwy’r Eisteddfod.

Prif ddiddordeb y Cwt Drama yw ysgrifennu newydd, prosiectau mewn datblygiad, a chynyrchiadau amrwd, beiddgar a chyffrous. Ymysg arlwy’r wythnos bydd Pwy Ydan Ni’n Feddwl Ydan Ni? gan Gwmni’r Frân Wen a Chlwyd Theatr Cymru; testunau newydd gan Sherman Cymru wrth iddynt ‘Hel Clecs’; prosiect ‘Sgript i Lwyfan’ Cwmni’r Frân Wen; Sgript Slam Gomedi gan BBC Radio Cymru ac S4C; a Chyflwyniad ER7 gan fyfyrwyr Prifysgol De Cymru.

Bydd Theatr y Maes hefyd yn ôl yr arfer yn cynnwys rhaglen lawn o ddigwyddiadau trwy gydol yr wythnos. Yn addas ar gyfer teuluoedd bydd Lleuad yn Olau gan Gwmni Theatr Arad Goch, yn rhan o Ddiwrnod T Llew Jones ar y maes; Shabŵm gan Gwmni’r Frân Wen; Sioeau gan gwmni Mewn Cymeriad; a Drwg gan Theatr Bara Caws. Bydd rhaglen yr wythnos hefyd yn cynnwys yr Ŵyl Ddrama Awr Ginio; bydd Ysgol Theatr Maldwyn yn cyflwyno Noson Lawen Nansi; ac fe fydd Theatr Fach Llangefni yn perfformio addasiad o’r ddrama Croeso’n ôl (Welcome Home) gan Catrin Jones Hughes.

Nodiadau i Olygyddion

Bydd y Pentref Drama yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a gynhelir rhwng 1 – 8 Awst yn Meifod.  Dyma ail flwyddyn y Pentref Drama, ac mae’r ardal yn cynnwys Caffi’r Theatrau, y Cwt Drama a Theatr y Maes.

Mae Caffi’r Theatrau yn fenter ar y cyd rhwng Cwmni Theatr Arad Goch, Cwmni Theatr Bara Caws, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Cwmni’r Frân Wen, Canolfan Mileniwm Cymru, Galeri, Noson Allan, Pontio, Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, dan faner WAPA, a’r rhaglen yn cael ei gydlynu gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Categorïau: Newyddion Awdur: Lowri Johnston

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government