Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
TasgluLlawrydd_Twitter

Yn dilyn galwad agored am geisiadau yr wythnos ddiwethaf, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cefnogi Steffan Donnelly a Glesni Price-Jones i gymryd rhan yn y Tasglu Llawrydd Cenedlaethol.

Mae Steffan Donnelly yn actor, cyfarwyddwr, a dramodydd sydd yn byw a gweithio yng Ngogledd Cymru a Llundain. Fel Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Invertigo (invertigotheatre.co.uk), mae’n creu theatr ddyfeisgar newydd, clasuron, a straeon llai adnabyddus yn y Gymraeg a Saesneg. Mae Steffan wedi cynhyrchu theatr yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac mae’n Gydweithiwr Celfyddydol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Glesni Price-Jones yn gynhyrchydd creadigol llawrydd. Cyn hynny, roedd yn gweithio fel rheolwr llwyfan. Dros y degawd diwethaf, mae Glesni wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Canolfan Mileniwm Cymru, August 012, Neontopia, Be Aware Productions, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Powderhouse a Protest Fudur.

Nod y Tasglu Llawrydd yw cefnogi’r ddeialog rhwng gweithwyr llawrydd, sefydliadau, cyllidwyr a’r llywodraeth, a chefnogi  llais yr hunangyflogedig yn y sgyrsiau i ddod ynglŷn â sut rydym yn rheoli’r ymateb i argyfwng Covid-19 ac adferiad y sector celfyddydau perfformio. Mae gweithwyr llawrydd sy’n cynrychioli 140 o sefydliadau eisoes yn cymryd rhan, gan gwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau. Mae mwy o wybodaeth am y Tasglu i’w weld yma.

Ddydd Iau 21 Mai 2020, llofnododd grŵp o sefydliadau celfyddydau perfformio, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu a lleoliadau, lythyr y manylir arno yma i gefnogi’r gweithwyr llawrydd sy’n rhan fawr a hanfodol o ecoleg y sector perfformio.

Roedd tri phrif nod i’r llythyr:

  • Gwrando ac ymateb i anghenion gweithwyr llawrydd yn y celfyddydau perfformio;
  • Galw am i’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth gael ei ymestyn yn unol â’r Cynllun Cadw Swyddi a hyd nes y gall theatrau ail-agor o ddifrif;
  • Sefydlu Tasglu Llawrydd o wneuthurwyr theatr a pherfformio hunangyflogedig.

Mae pob sefydliad sy’n ymrwymo i’r llythyr wedi ymrwymo i dalu gweithiwr llawrydd am 13 diwrnod dros y cyfnod Mehefin, Gorffennaf ac Awst i ymuno â’r Tasglu Llawrydd.

Rydym yn falch o fod yn rhan o’r fenter hon ochr yn ochr â llawer o’n cyd-weithwyr a chwmnïau theatr eraill ledled y DU, ac rydym yn llwyr gefnogi creu Tasglu Llawrydd Cenedlaethol.

Categorïau: Newyddion Awdur: Ceri Williams

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government