Cyflwyno ein Grŵp Dramodwyr Newydd
Daeth ein Grŵp Dramodwyr Newydd at ei gilydd i’r Llwyfan yng Nghaerfyrddin ar gyfer ei sesiwn cyntaf ddydd Sadwrn y 1af o Fedi. Roeddem wrth ein boddau’n cael croesawu’r criw atom, a chafwyd diwrnod da iawn yn y gweithdy gyda’r dramodydd Dafydd James.
Felly, pwy sy’n rhan o’n Grŵp Dramodwyr Newydd? Efallai bod rhai wynebau’n gyfarwydd, ond dyma broffil bach o bob un o’r sgwenwyr newydd sydd wedi dod o dan adain Theatr Gen Creu i ddatblygu eu crefft fel dramodwyr.

Melangell Dolma
Dwi’n actores ac yn ysgrifenwraig o Lanfrothen, Sir Feirionnydd, a bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Graddiais o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2014. Y llynedd, cymerais ran yng Ngŵyl Artistiaid Ifanc theatr The Other Room fel ysgrifenwraig.
Dros yr haf eleni, roeddwn yn rhan o Gynllun Awdur Preswyl Theatr Clwyd ar y cyd â Paines Plough, lle ysgrifennais ddrama fer, Mae’r Amser Wedi Dod, a gafodd ei pherfformio yn yr Eisteddfod. Cyhoeddwyd fy stori fer Rhyw Fath o Lwybr yn rhifyn 5 cylchgrawn Y Stamp.
Rydw i wedi actio mewn dramâu llwyfan yn cynnwys Nansi (Theatr Genedlaethol Cymru), Sigl Di Gwt (Cwmni’r Frân Wen), Little Wolf (Lucid Theatre Company) ac mewn gwaith efo Cwmni Protest Fudr a Not Too Tame. Rydw i wedi ymddangos yn y cyfresi teledu Craith, Y Gwyll a Parch ar S4C, ac mewn sawl drama radio.
5 cwestiwn cyflym i Melangell . . .
- Ble wnest ti hyfforddi / pryd ddechreuaist ti sgwennu?
Gwnes i radd mewn actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roeddwn i wastad yn mwynhau sgwennu trwy gydol fy nyddiau ysgol, ond mi gollais lawer o hyder wrth dyfu’n hŷn. Rydw i wedi bod yn bwrw iddi o ddifrif yn sgwennu eto ers ryw ddwy flynedd.
- Beth yw dy hoff air yn yr iaith Gymraeg?
Ww, mae hwn yn un anodd. Mae’n amrywio o ddydd i ddydd. Ond dwi’n deud “ffiaidd” yn aml!
- Oes gen ti hoff lecyn sgwennu?
Rydw i wedi symud tŷ’n lled ddiweddar, ac o’r diwedd wedi sortio’r smonach yn y stafell sbâr i’w throi’n swyddfa fach dwt, efo waliau melyn. Dwi ’rioed ’di cael swyddfa bersonol i mi fy hun o’r blaen, a tydi’r nofelti heb wisgo i ffwrdd eto!
- Beth wyt ti’n fwynhau ei ddarllen fwyaf?
Rydw i’n darllen cymaint o bethau gwahanol yn Gymraeg ac yn Saesneg ag y galla i, ond dwi’n tueddu i gadw at ffuglen gan amlaf. Dwi’n darllen lot o ddramâu newydd yn ogystal â nofelau a straeon byrion. Dwi’n ffan enfawr o’r awdures Chimamanda Ngozi Adichie, ac yn ddiweddar mi wnes i wirioni efo Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros.
- Rhanna gyfrinach fach gyda ni . . .
Pan oeddwn i’n fach, roedd fy ffrind gorau a minnau’n arfer creu drygau yn ein tafarn leol tra oedd ein mamau’n sgwrsio – taenu mwstard o’r pacedi bach plastic ar hyd gefnau’r lampshêds, ac arllwys finag rhwng tudalennau’r hen lyfrau oedd wedi’u gosod fel addurniadau ar y silffoedd. Drwg iawn! Ond roeddan ni’n ddigon cyfrwys i beidio byth â chael ein dal.
Cai Llewelyn Evans
Yn wreiddiol o bentref Pontarddulais, rwyf bellach wedi setlo yn Nhreganna yng Nghaerdydd ac yn ceisio sgwennu ar gyfer llwyfannau amrywiol yn y ddwy iaith. Y llynedd, cafodd un o’m sgriptiau ffilm fer (Ffeithiau Amgen) ei dewis fel un o sgriptiau buddugol cystadleuaeth It’s My Shout. Ar ôl i’r ffilm gael ei chynhyrchu dros yr haf, fe’i dangoswyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn cael ei darlledu ar S4C. Cyn hynny, cafodd deuddeg sgets gomedi a sgwennwyd gennyf eu darlledu dros dri rhifyn o’r gyfres Sgript Slam Gomedi ar BBC Radio Cymru, a chafodd un o’m sgetsys Saesneg ei darlledu ar rifyn o’r rhaglen gomedi ar-lein The Wireless Show.
Cyn setlo yn y brifddinas, bûm yn byw yn ninas Tokyo am bron i ddeng mlynedd, lle treuliais gyfnod yn gweithio fel golygydd a newyddiadurwr i bapur newydd The Japan Times, gan sgwennu’r golofn hiwmor Notes from the Smoke ac erthyglau dychan eraill. Yn dilyn hynny, treuliais gyfnod ym myd cyllid, gan weithio’n bennaf fel rheolwr golygyddol dros Japan a De Corea i gwmni Standard & Poor’s. Tra o’n i’n byw yn ninas Osaka am gyfnod yn fy ugeiniau cynnar, cafodd sawl darn hiwmor a sgwennwyd gennyf eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Kansai Time Out.
O ran fy swydd bresennol, rwyf wedi bod yn aelod o’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers 2009.
5 cwestiwn cyflym i Cai . . .
- Ble wnest ti hyfforddi / pryd ddechreuaist ti sgwennu?
Dwi heb gael unrhyw hyfforddiant ffurfiol ym maes sgwennu creadigol, ond cyn dilyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth fe wnes i gwrs swyddogol yr NCTJ, oedd yn cynnwys hyfforddiant ar arddull a thechneg sgwennu ar gyfer papurau newydd a chylchgronau. Cyn hynny, fe wnes i radd MA mewn llenyddiaeth Americanaidd ôl-fodernaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn dilyn blynyddoedd o botsian gydag erthyglau a blogs ac ati, rydw i wedi bod yn cyfansoddi a chyflwyno gwaith creadigol yn rheolaidd yn y ddwy iaith dros y pedair blynedd diwethaf, gan gynnwys sgriptiau ar gyfer y theatr, radio a’r teledu.
- Beth yw dy hoff air yn yr iaith Gymraeg?
Sgarmes.
- Oes gen ti hoff lecyn sgwennu?
Oes – fy stydi, sydd ar lawr uchaf ein tŷ tref ac sy’n fy ysbrydoli i gyda golygfeydd godidog o’r A4232.
- Beth wyt ti’n fwynhau ei ddarllen fwyaf?
Dramâu David Mamet a Meic Povey; nofelau Scott Turow; a thraethodau Clive James.
- Rhanna gyfrinach fach gyda ni . . .
Pan o’n i’n wyth oed, cefais fy ngorfodi i fodelu pâr o byjamas coch ar y catwalk mewn sioe ffasiynau yn Aelwyd yr Hendy. Rwy’n dal i freuddwydio am y peth o bryd i’w gilydd.

Elin Gwyn
Dwi’n wreiddiol o Sling, ger Bethesda, ond bellach yn byw yn Rhosgadfan. Dwi’n is-gynhyrchydd a chynorthwy-ydd cyfarwyddo cyntaf gyda Cwmni Da, yn gweithio’n bennaf fel awdur ar gyfer cyfresi drama i blant ar S4C, gan gynnwys Sblij a Sbloj a Deian a Loli.
Fe enillais y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd ac addasu’r gwaith ar gyfer ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru.
Ysgrifennais y geiriau ar gyfer opera ddwyieithog i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a gafodd ei pherfformio yng Nghastell Caerffili. Rwyf wedi cydweithio gyda Chwmni’r Frân Wen yn y gorffennol ac wedi ysgrifennu drama lwyfan fer a berfformiwyd gan Dirty Protest.
5 cwestiwn cyflym i Elin . . .
- Ble wnest ti hyfforddi / pryd ddechreuaist ti sgwennu?
Dwi wastad wedi ysgrifennu’n greadigol. Alla i ddim cofio amser lle doeddwn i ddim yn creu cymeriadau a storïau gyda theganau. Cefais fy addysg yn Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen cyn mynd ymlaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna doethuriaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
- Beth yw dy hoff air yn yr iaith Gymraeg?
Cricamala.
- Oes gen ti hoff lecyn sgwennu?
Unrhyw le efo laptop ar fy nglin – yn y gwely fel arfer.
- Beth wyt ti’n fwynhau ei ddarllen fwyaf?
Nofelau.
- Rhanna gyfrinach fach gyda ni . . .
Sgen i ddim cyfrinachau – ond mae gen i lot o storis embarassing!
Miriam Elin Jones
Dwi’n wreiddiol o Lanpumsaint, Sir Gâr, ond bellach yn byw yn Llantrisant. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn amrywiol iawn: dwi wedi gweithio ar draethawd ymchwil PhD ar lenyddiaeth ffuglen wyddonol, gweithio fel cynorthwy-ydd cynnwys gyda’r New Welsh Review, cyfrannu at brosiect Cymru Ryfedd a Chyfareddol gyda Llenyddiaeth Cymru, a dechrau gweithio fel newyddiadurwr gyda thîm BBC Cymru Fyw. Rwyf hefyd yn un o gyd-olygyddion cylchgrawn a gwefan llenyddol Y Stamp ac yn un o griw barddol Cywion Cranogwen.
5 cwestiwn cyflym i Miriam . . .
- Ble wnest ti hyfforddi/pryd ddechreuaist ti sgwennu?
Dechreues i sgrifennu’n ifanc iawn – dwi ddim rili’n cofio adeg pan nad o’n i’n sgrifennu. Ond dwi’n lwcus iawn o fod wedi dilyn modiwlau ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu drama yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, a mynd i ganolfan Tŷ Newydd gyda chyrsiau’r Urdd pan oeddwn yn fy ugeiniau cynnar.
- Beth yw dy hoff air yn yr iaith Gymraeg?
Sbigoglys.
- Oes gen ti hoff lecyn sgwennu?
Ateb byr – nac oes. Ond mae’r syniadau’n llifo mewn mannau lle nad oes ’na feiro na ffôn symudol na laptop ar gael – fel arfer pan dwi’n gyrru’r car.

- Beth wyt ti’n mwynhau ei ddarllen fwyaf?
Mi ddarllena i unrhyw beth, a’r mwyaf dieithr ydi o i ’mhrofiad fy hun, gorau oll. Ffuglen wyddonol ydy fy maes ymchwil, felly dwi’n eitha hoff o bethau sy’n fy nhynnu i arallfydoedd pell i ffwrdd a ’nghael i gwestiynu beth sy’n real o ’nghwmpas i.
- Rhanna gyfrinach fach gyda ni . . .
S’da fi ddim cyfrinachau . . . neu s’da fi ddim rhai dwi’n actually gallu eu rhannu . . .

Lowri Morgan
Actio ydi fy mhrif ddiddordeb i ers blynyddoedd, a thros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod yn gweithio ar ddatblygu’r maes yma, yn ogystal â ’nghanu. Dwi’n meddwl bod fy angerdd am ysgrifennu wedi dod o hyn, oherwydd dwi wastad wedi bod ag awydd i ddeall emosiynau dynol a sut mae gwahanol bobol yn meddwl; dwi’n credu hefyd bod unrhyw beth creadigol fel hyn yn ffordd o drosglwyddo barn neu neges i bobol eraill. Dwi wastad wedi ceisio ysgrifennu am bethau rwy’n teimlo’n gryf amdanynt, neu bethau sydd ddim yn cael eu trafod yn ddigon aml. Enghraifft o hyn yw fy nrama fer Ellis a ysgrifennais pan o’n i yn y brifysgol am fachgen trawsryweddol a sut oedd ei siwrne ef i gael bod yn fo’i hun o’r diwedd yn effeithio ar ei bartner a’i berthnasau. Dwi’n credu bod ysgrifennu’n ffordd o gael pobol i gydymdeimlo, ac yn y pen draw, i ddod i dderbyn ein gilydd am bwy ydyn ni.
5 cwestiwn cyflym i Lowri . . .
- Ble wnest ti hyfforddi/pryd ddechreuaist ti sgwennu?
Dwi newydd raddio â BA mewn Perfformio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; yn ystod fy ddwy flynedd ar y cwrs yma mi wnes i ddechrau cymryd sgwennu o ddifri a sylweddoli faint ro’n i wir yn ei fwynhau.
- Beth yw dy hoff air yn yr iaith Gymraeg?
Dwi wastad wedi hoffi’r gair “mynadd” – mae o’n gwbl unigryw, ac yn aml pan dwi’n siarad efo fy ffrindiau sy’n Saeson dwi methu cweit ei gyfieithu!
- Oes gen ti hoff lecyn sgwennu?
Yn gwely fydda i’n sgwennu fwya – fanna ’di’r unig le dwi’n cal llonydd, ac mae o’n gyfle i mi ymlacio ar ôl diwrnod prysur yn y brifysgol.
- Beth wyt ti’n ei fwynhau ei ddarllen fwyaf?
Dwi’n mwynhau darllen dramâu seicolegol – unrhyw beth sy’n gymhleth a dwys i’w ddeall, a dwi’n hooked.
- Rhanna gyfrinach fach gyda ni . . .
Dwi’n sticlar am fynd yn ôl i wylio’r ffilms ro’n i’n eu gwylio pan o’n i’n blentyn – fel Wizard of Oz, Beauty and the Beast neu unrhyw beth Disney!
Naomi Nicholas
Athrawes Cymraeg a Drama ydw i yn fy ngwaith bob dydd, ond er yr holl farcio dwi’n benderfynol o ddala ati i sgwennu. Ro’n i’n ffodus iawn o gael y cyfle i feithrin ac i ddatblygu fy sgiliau ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ganolbwyntio ar ysgrifennu cerddi i blant a straeon byrion. Rwy’n dipyn o ddarllenwraig ac wrth fy modd â nofelau wedi’u gosod yng nghefn gwlad, yn enwedig gorllewin Cymru. Mae’r llyfrau hyn, a’m magwraeth wledig yng ngogledd Sir Benfro, yn sicr yn bwydo i mewn i ’ngwaith creadigol. Rwy’n ddyledus i Fudiad y Ffermwyr Ieuainc am y cymhelliant a’r llwyfan i ysgrifennu.
5 cwestiwn cyflym i Naomi . . .
- Ble wnest ti hyfforddi / pryd ddechreuaist ti sgwennu?
Ro’n i’n dwlu ar sgwennu straeon yn yr ysgol gynradd, ac yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Maenclochog. Dwi’n cofio sgwennu rhyw stori am Moses – milgi’r teulu! Roedd Mam-gu hefyd yn amyneddgar iawn ac yn fodlon chwarae tŷ gyda fi – roedd hynny, wrth edrych ’nôl, fel ymgom hir-oddefol! Fues i’n ffodus iawn o’m hathrawon ysbrydoledig yn Ysgol y Preseli, a dwi’n sobor o ddiolchgar iddynt am eu hanogaeth a’u cefnogaeth. Dwi’n credu mai dyna arweiniodd fi at ddewis astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth a dilyn ambell fodiwl ysgrifennu creadigol a sgriptio.
- Beth yw dy hoff air yn yr iaith Gymraeg?
Wiwer.
- Oes gen ti hoff lecyn sgwennu?
Unrhyw le yn fy mhyjamas!

- Beth wyt ti’n mwynhau ei ddarllen fwyaf?
Dwi’n credu mai dyna un o’r pethe sbesial am y Gymraeg, ry’n ni’n dueddol o ddarllen popeth waeth beth yw’r genre. Mae’n braf cael blas ar bob peth. Fy hoff nofel heb os yw Martha, Jac a Sianco ond y llyfr diweddaraf i mi ei ddarllen oedd Llyfr Glas Nebo – perl!
- Rhanna gyfrinach fach gyda ni . . .
Treuliais saith mlynedd hyfryd iawn yn gweithio yng Nghaffi Beca, Efailwen – roedd saith mlynedd o glebran gyda chymeriadau’r fro yn sicr yn porthi fy nychymyg!

Sian Northey
Dwi’n ennill fy mywoliaeth fel sgwennwr ac wedi sgwennu bron iawn bopeth heblaw drama lwyfan – ffuglen i oedolion a phlant, barddoniaeth, mymryn bach ar gyfer y teledu, cyfieithu, erthyglau ac ysgrifau. Fy nghyfrol ddiweddaraf yw casgliad o straeon byrion, Celwydd Oll, sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn y mis hwn, a bydd fy nhrydedd nofel i oedolion yn cael ei chyhoeddi gan Gomer y flwyddyn nesaf. Dwi newydd ennill Doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor, ac mae gen i hefyd gryn ddiddordeb yn y cyswllt rhwng llenyddiaeth ac iechyd a llesiant.
5 cwestiwn cyflym i Sian . . .
- Ble wnest ti hyfforddi / pryd ddechreuaist ti sgwennu?
Dw i wedi sgwennu erioed, neu o leia er pan oeddwn i’n yr ysgol gynradd, ond bu bwlch hir heb sgwennu pan oeddwn i’n astudio gwyddoniaeth ar gyfer Lefel A a gradd, ac am flynyddoedd lawer wedyn.
- Beth yw dy hoff air yn yr iaith Gymraeg?
Ffridd.
- Oes gen ti hoff lecyn sgwennu?
Nac oes. Dwi’n sgwennu’r rhan fwyaf o ryddiaith a sgriptiau wrth fy nesg, a barddoniaeth ar y soffa efo papur a phensel.
- Beth wyt ti’n fwynhau ei ddarllen fwyaf?
Bron iawn popeth, er tydw i ddim yn un garw am ddarllen dramâu. Ond dwi’n siŵr y bydd hynny’n newid ’leni!
- Rhanna gyfrinach fach gyda ni . . .
Petai hi’n gyfrinach go iawn fyswn i ddim yn deud. Cyfaddefiad dibwys: mi wnes i ddwyn fy nysgl ffrwytha.
Gruffudd Eifion Owen
Rydw i wedi ymddiddori ym myd y ddrama erioed, ac rydw i bellach yn ennill fy mara menyn fel un o olygyddion stori yr opera sebon Pobol y Cwm. Mi enillais Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 2009. Rydw i hefyd yn barddoni, ac fe gyrhaeddodd fy nghyfrol gyntaf o gerddi, Hel llus yn y glaw, restr fer Llyfr y Flwyddyn 2016. Fi hefyd oedd Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
5 cwestiwn cyflym i Gruffudd . . .
- Ble wnest ti hyfforddi / pryd ddechreuaist ti sgwennu?
Mi wnes i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mi rydw i wedi bod yn potsian efo’r busnas sgwennu ’ma byth ers hynny.
- Beth yw dy hoff air yn yr iaith Gymraeg?
‘Tin-droi’. Mae o’n ddisgrifiad da iawn o rywbeth dwi’n euog iawn o’i neud!
- Oes gen ti hoff lecyn sgwennu?
Mewn unrhyw lyfrgell gyhoeddus. Dwi wastad wedi caru llyfrgelloedd. Maen nhw’n adnoddau mor bwysig, ac os nad ydan ni’n eu gwerthfawrogi nhw mae peryg gwirioneddol y byddwn ni’n eu colli.
- Beth wyt ti’n fwynhau ei ddarllen fwyaf?
Unrhyw un o ddramâu Wil Sam.
- Rhanna gyfrinach fach gyda ni . . .
Dwi’n gallu gyrru forklift truck.

Bydd ein Grŵp Dramodwyr Newydd yn cwrdd yn rheolaidd dros y 10 mis nesaf i drafod eu gwaith ac i gymryd rhan mewn sesiynau gyda dramodwyr profiadol. Y dramodydd Dafydd James oedd yn arwain y sesiwn gyntaf, a dyma oedd ganddo i’w ddweud am y profiad:
“Mae’n wych o beth bod Theatr Gen yn meithrin sgwennu newydd. Roedd hi’n hyfryd cael treulio diwrnod yng nghwmni’r grŵp brwdfrydig a thalentog hwn, yn rhannu gwybodaeth a dysgu gyda’n gilydd. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld ffrwyth eu llafur yn ystod y flwyddyn.”
Roedd Sarah Bickerton, ein Cyfarwyddwr Cyswllt, wrth ei bodd yn cael y dramodwyr gyda ni a’u croesawu i’r cynllun:
“Roedd yn braf iawn croesawu’r grŵp i’r Llwyfan, Caerfyrddin ar gyfer eu gweithdy cyntaf gyda’r dramodydd Dafydd James. Bydd y 10 mis nesaf yn gyfle arbennig iddynt ddatblygu eu sgiliau gyda dramodwyr profiadol, gweld a thrafod cynyrchiadau theatr, a datblygu drama newydd gyda’r cwmni. Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn ddechrau cyffrous ac ysbrydoledig i’w taith fel dramodwyr.”
Edrychwn ymlaen yn fawr at weld ein Grŵp Dramodwyr Newydd yn datblygu eu crefft dros y misoedd nesaf, ac rydym yn hynod o gyffrous i weld beth ddaw yn sgil yr ail sesiwn yn Aberystwyth ym mis Hydref.
Mae’r Grŵp Dramodwyr Newydd yn cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.