Mae corau lleol o gymunedau ledled Cymru yn paratoi i gymryd rhan yn Tylwyth, drama newydd gan Daf James.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman wedi bod yn gweithio gyda chorau o wahanol ardaloedd yng Nghymru fel bod modd iddynt gymryd rhan yn y cynhyrchiad cyntaf erioed o Tylwyth, a fydd yn agor yn Theatr y Sherman (10–13 Mawrth) cyn teithio i saith canolfan ledled Cymru (17 Mawrth – 4 Ebrill).
Dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd, mae Tylwyth yn ddrama newydd, dyner a direidus sy’n dod â’r cymeriadau hynod boblogaidd o’r ddrama arobryn Llwyth myn ôl at ei gilydd, ddeng mlynedd wedi’r ffenomen ddiwylliannol Gymraeg honno. Gan daflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae hi’n cynnig sylwebaeth feiddgar a phryfoclyd ar y Gymru gyfoes, gan ddilyn hynt a helynt grŵp o ffrindiau hoyw sy’n byw yng Nghaerdydd.
Fel gyda Llwyth, mae cerddoriaeth yn elfen hynod bwysig o Tylwyth; cerddoriaeth draddodiadol, gyfoes a gwreiddiol. Yn wir, mae cerddoriaeth wrth galon y ddrama newydd bwysig hon sydd, fel ei rhagflaenydd, yn cydnabod traddodiad corawl heb ei ail Cymru trwy gynnwys côr yn canu’n fyw ar y llwyfan yn ystod y perfformiad. Ar gyfer Tylwyth, mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman wedi gwahodd corau o ardaloedd ledled Cymru i berfformio yn y ddrama.
Y corau a fydd yn perfformio yn Tylwyth yw Côr Aelwyd JMJ yng Nghaernarfon a Bangor, Corlan yn Aberystwyth ac Aberteifi, Côr Seingar yn Llanelli, Côr y Pentan yn y Drenewydd a’r Wyddgrug, a Chôr CF1 ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg y Drindod Dewi Sant a phobl ifanc o ABC (Academi Berfformio Caerdydd) yng Nghaerdydd.
Bydd pob un o’r corau’n ymddangos ar y llwyfan ac yn canu trefniannau o glasuron corawl Cymraeg a cherddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd ar gyfer y cynhyrchiad gan Daf James. Daf James, sydd wedi rhoi’r holl elfennau cerddorol hyn at ei gilydd, ac yntau hefyd yw Cyfarwyddwr Cerdd y cynhyrchiad.
Mae Daf James yn ddramodydd, sgriptiwr, cyfansoddwr a pherfformiwr arobryn, ac yn Artist Cyswllt yn Theatr y Sherman. Gyda Llwyth – drama lawn-hyd gyntaf Daf – sefydlwyd ef yn un o’r dramodwyr mwyaf cyffrous sy’n gweithio yng Nghymru. Dros yr wythnosau diwethaf, bu Daf yn teithio o amgylch Cymru i ymarfer gyda phob un o’r corau i’w paratoi ar gyfer y perfformiadau.
Meddai Daf James: “Roedd cyfraniad y corau i Llwyth yn rhan hanfodol o lwyddiant y ddrama. Trwy eu hymddangosiadau hwy ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt, cafodd y sioe ei gwreiddio o fewn cymuned estynedig, gan ddangos mewn ffordd hyfryd bod yr hyn rydyn ni’n ei rannu yn goresgyn ein gwahaniaethau. Roedd y sgôr yn gyfuniad o ddiwylliannau, gan dynnu anthemau LGBTQ a Chymraeg at ei gilydd mewn harmoni. Mae Tylwyth yn adleisio ac yn datblygu’r elfen hon. Bu’n brofiad cyffrous ac emosiynol i ailgysylltu â’r corau gwych yma ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yn ogystal â chael croesawu corau newydd i mewn i’r llwyth!”