Rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd â’r tîm yn National Theatre Wales, ac mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales a BBC Arts, wrth gyhoeddi galwad am gomisiynau newydd i greu theatr fyw ar blatfformau digidol yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud presennol. Rydym yn gwahodd artistiaid theatr Cymru i greu ymatebion dyfeisgar a chyffrous i’r her hon ac i helpu cynulleidfaoedd, cymunedau a’u gwneuthurwyr theatr ddod at ei gilydd er ein bod ni ar wahân.
Byddem yn croesawu’n gynnes brosiectau Cymraeg, Saesneg, dwyieithog neu Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a hefyd prosiectau sydd heb iaith o gwbl. Fe fydd cyfnod cyflwyno syniadau ar gyfer prosiectau digidol bob mis a bydd hyd at 3 chomisiwn y mis dros y 3 mis nesaf yn cael eu cynhyrchu. Cewch fanylion llawn yr alwad yma.
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i bawb ohonom, ac mae rhai yn ein plith yn wynebu gofid gwirioneddol yn sgîl y Coronafeirws. Mae ein theatrau wedi gorfod cau eu drysau, a chwmnïau ledled Cymru wedi gorfod canslo perfformiadau, gan ddod a diwedd disymwth i lond gwlad o greadigrwydd. Mae artistiaid theatr o ganlyniad ymhlith y rheini sy’n gorfod delio gydag ansicrwydd dybryd o ran eu cyflogaeth. Er gwaethaf yr amgylchiadau, ac yn arbennig felly yr ymwahanu cymdeithasol gorfodol, credaf fod gan y theatr rôl i’w chwarae wrth geisio dod â phobl ynghyd, i rannu gweledigaethau, i ddiddanu ac i sbarduno’r dychymyg a chreadigrwydd. Er na allwn ddod ynghyd yn y ffyrdd arferol, dyma gyfle, fel na fu erioed o’r blaen, i ni archwilio ffyrdd eraill o ymgysylltu, a hynny mewn modd dychmygus ac annisgwyl. Am bob math o resymau, mae nifer fawr o bobl yn ei chael hi’n anodd i ymweld â digwyddiadau theatr byw o dan amgylchiadau arferol. Dyma gyfle yn awr felly i ni fel cwmnïau theatr estyn allan at ein cynulleidfaoedd mewn modd hygyrch a chynhwysol, gan ofyn i’n cymuned greadigol ddod gyda ni ar antur newydd ac i wynebu’r her a’r cyfle hwn sydd o’n blaenau.
Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi rhaglen bellach o weithgareddau ar gyfer y cyfnod disgynsail hwn cyn hir.
6 Ebrill 2020