Clybiau Drama
Rhoi theatr Cymraeg wrth galon Cymru yw gweledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru ac felly mae gweithio gyda phobl ifanc yn ein cymunedau yn hollbwysig i ni fel cwmni. Mae ein clybiau drama yn rhoi cyfleoedd creadigol o bob math i bobl ifanc, ac yn cynnig sgiliau megis magu hyder, datblygu sgiliau perfformio a mwynhau byd y theatr.
Isod cewch ddod o hyd i wybodaeth am ein clybiau drama yn yr ardal leol. Mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar thgc@theatr.com
Clwb Cica'r Ffin mewn partneriaeth â Menter Iaith Sir Benfro a Cered
Pryd: 30/09/2019 (bob nos Lun)
Amser: 4-5pm (cynradd) a 5-6pm (uwchradd)
Ble: Theatr Mwldan, Heol Bath-House, Aberteifi SA43 1JY
Cyswllt: Non Davies non.davies@ceredigion.gov.uk
Clwb Drama Abertawe mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe
Pryd: Clwb newydd yn dechrau ar 17/09/2019 (bob nos Fawrth)
Amser: 4-4.45pm (cynradd) a 4.45-6pm (uwchradd)
Ble: Tŷ Tawe,9 Stryd Christina, Abertawe, SA1 4E
Cyswllt: Meinir Davies datblygu@menterabertawe.org
Clwb Drama Caerfyrddin mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr
Pryd: 11/09/2019 (bob nos Fercher)
Amser: 6-7pm
Ble: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ
Cyswllt: Alma Roberts alma@mgsg.cymru
Ysgol Berfformio Felinfach mewn partneriaeth â Theatr Felinfach
Pryd: 12/09/2019 (bob nos Iau)
Amser: 4.30-5.30pm (cynradd) a 5.30-7pm (uwchradd)
Ble: Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron SA48 8AF
Cyswllt: Sioned Thomas Sioned.thomas@ceredigion.gov.uk
Criw Cefn Llwyfan mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr
Pryd: 26/09/2019 (bob nos Iau)
Amser: 6-7.30pm (uwchradd)
Ble: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ
Cyswllt: Alma Roberts alma@mgsg.cymru
Prosiectau’r Gorffennol
Dwy Stori, Un Llwyfan – prosiect a ddaeth â dwy genhedlaeth at ei gilydd dan adain Gŵyl Gwanwyn Age Cymru. Rydym ni’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda Menter Gorllewin Sir Gâr ar brosiect sy’n dod ag aelodau Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru a’r Fenter, ac aelodau hŷn o gymunedau Sir Gâr ynghyd.