Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Clwb Theatr Cymru_1200x800

Ar y cyd â Mentrau Iaith Cymru rydym yn falch o gyhoeddi heddiw ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno Clwb Theatr Cymru er mwyn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd creadigol a hybu sgiliau perfformio i blant ledled Cymru dros yr haf.

Bydd Clwb Theatr Cymru yn dod â phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom yn ystod gwyliau’r haf. Bydd y sesiynau – sy’n cael eu trefnu gennym ni yn Theatr Genedlaethol Cymru ac yn cynnwys cyfleoedd i ddawnsio, perfformio a chreu cymeriadau – yn addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2 i 6. Bydd yr arbenigwyr sy’n arwain ar yr hwyl yn cynnwys Jalisa Andrews, Ffion Wyn Bowen a Sian Elin. Mae pob Menter Iaith ar draws Cymru yn rhan o’r cynllun, a bydd ymgyrch i ddenu cyfranogwyr o bob ardal dros yr wythnosau nesaf. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim, ond bydd angen cofrestru trwy’r Fenter leol. Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg; os oes unrhyw anghenion penodol, bydd y ddau gwmni hefyd yn eu diwallu.

Ers nifer o flynyddoedd, rydym wedi gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith yng ngorllewin Cymru i ddarparu Clybiau Drama bob wythnos. Yn ystod y clo mawr, rydym wedi bod yn cynnal sesiynau Zoom bob wythnos gyda phlant yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Dyma’r tro cyntaf i ni weithio mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru i ddod â’r holl fentrau ledled Cymru ynghyd a darparu gwaith cyfranogi ar y raddfa hon.

Dywedodd Rhian A. Davies, ein Cynhyrchydd Gweithredol:

“Ry’n ni’n falch iawn o gael cyfle i gydweithio’n genedlaethol gyda Mentrau Iaith Cymru a chefnogi eu hawydd nhw, a’n hawydd ninnau, i roi cyfleoedd i blant ifanc ar draws Cymru ddod at ei gilydd dros wyliau’r haf i gymdeithasu gyda chyfoedion a chael hwyl yn y Gymraeg wrth ddysgu sgiliau celfyddydol newydd gyda thîm o arweinwyr ifanc a thalentog iawn.”

Meddai Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru wedi bod yn brysur iawn yn cynnig pob mathau o gyfleoedd i bobl o bob oed allu defnyddio eu Cymraeg yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Rydym wedi llwyddo i wneud hyn drwy gyfrwng technoleg gan ganiatáu i filoedd o bobl ddefnyddio’r iaith mewn amryw o glybiau, dosbarthiadau a gwyliau. Rydym yn falch dros ben o allu cydweithio â Theatr Genedlaethol Cymru sydd hefyd wedi arloesi gyda chynyrchiadau gwych dros y misoedd diwethaf. Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn gallu cynnig y cyfle arbennig hwn i blant Cymru ymarfer eu creadigrwydd dros yr haf.”

Mae Clwb Theatr Cymru yn rhan o’n rhaglen Pawb Ar-lein, sef rhaglen o weithgareddau addysg a chyfranogi ar blatfformau digidol er mwyn ysbrydoli plant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud.

Rydym hefyd yn cynnig dwy elfen arall i’n rhaglen yn ystod y cyfnod hwn:

  • Theatr Gen Eto: Dyma gyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau’r gorffennol ar sgrin tra bod ein theatrau ar gau. Gan ryddhau cynnwys o’n archif helaeth, byddwn yn rhannu nifer o’n cynyrchiadau o’r gorffennol ar ein sianel YouTube a hefyd ar blatfform digidol AM (ar-lein ar amam.cymru neu drwy lawrlwytho’r ap ar amam.cymru/ambobdim). Bydd capsiynau caeedig (neu is-deitlau) Saesneg a Chymraeg ar gael yn achos bron y cyfan o’r dangosiadau hyn. Ceir rhagor o fanylion yma.
  • Creu Ar-lein: Rhaglen newydd o waith dramatig gwreiddiol gennym yn ystod argyfwng y coronafeirws. Rydym eisoes wedi cyhoeddi prosiectau ar y cyd â National Theatre Wales (Comisiynau Digidol Newydd), BBC Cymru (Dramâu Micro) ac Urdd Gobaith Cymru (Sgidie, Sgidie, Sgidie) fel rhan o’r rhaglen hon, ac mae rhagor o waith ar y gweill. Ceir rhagor o fanylion yma.
    Byddwn ni’n cyhoeddi cynlluniau a gweithgareddau pellach fel rhan o Theatr Gen Eto, Creu Ar-lein a Phawb Ar-lein dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

16 Gorffennaf 2020

Categorïau: Newyddion Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government