Helo Llinos dwi, a dwi rŵan yn Swyddog Cyfranogi a Marchnata yn Theatr Genedlaethol Cymru. Dwi wrth fy modd yn gweithio efo plant, pobol ifanc, pobol hyn, Pawb!
Pobol go iawn, pobol fel chi a fi. Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i fynd a’r theatr i’r gymuned, i glywed syniadau a sgwrsio efo pobol mewn gwahanol gymunedau. Fel rhan o’r gwaith, dyma fentro ar ddechrau clwb drama newydd sbon danlli yma yn y Llwyfan yng Nghaerfyrddin.
Dyma gyfle i blant blwyddyn 3,4,5 a 6 fagu hyder a dysgu sgiliau actio.
Bydd y clwb yn cael ei gynnal bob nos Fercher, 6-7 yh.
Croeso cynnes i bawb ymuno yn yr hwyl, ond rhaid cofrestru wrth gysylltu a gwawr@mgsg.cymru
Mae fi a Gwawr wedi bod o gwmpas ysgolion cynradd yr ardal yn ddiweddar yn rhoi blas i’r plant o’r hyn fydd yn cael ei gynnig, dyma gip olwg o’r hwyl.
Dros yr wythnosau nesaf bydda i’n rhannu newyddion o’r clwb drama. Cofiwch sbio nôl yn fuan i glywed y newyddion diweddaraf!