Dros yr wythnosau nesaf, bydd Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr yn teithio i ysgolion cynradd y cylch ac yn cyflwyno gweithdai theatr dan arweiniad Siân Elin Williams, un o arweinwyr y Clwb. Edrychwn ymlaen at gyfarfod disgyblion y sir a dod â byd y theatr i’r ystafell ddosbarth. Mae croeso i ysgolion y cylch gysylltu â Gwawr Williams, Swyddog Datblygu’r fenter, os ydynt yn dymuno trefnu gweithdy.
Mae’r Clwb Drama yn cyfarfod bob nos Fercher rhwng 6 a 7 yh yn Y Llwyfan, Caerfyrddin – cartref Theatr Genedlaethol Cymru. Y bwriad yw magu hyder plant drwy ddysgu sgiliau perfformio newydd iddynt a meithrin diddordeb ym myd y theatr. Bydd y Clwb yn rhedeg am ei ail flwyddyn yn 2018/19, ac yn agor ei ddrysau i fynychwyr newydd.