Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
DSC_0021

Ddydd Gwener diwethaf (10 Mawrth 2017), roedd Castell Caerffili yn llwyfan ysblennydd unwaith eto – y tro hwn i sgwadiau ’sgwennu dawnus o Ysgol Gwynllyw, Ysgol Cwm Rhymni ac Ysgol Gartholwg.

Roedd y tair ysgol yn cystadlu yn rownd derfynol ‘Cipio’r Castell’, sef slam farddoniaeth dan arweiniad Llenyddiaeth Cymru ar y cyd â Theatr Genedlaethol Cymru, Cadw a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac wedi ei gyflwyno gan Aneurin Karadog. Roedd y prosiect yn gyfle arbennig i ddatblygu cynulleidfa ar gyfer Macbeth, cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, ac i ddod â’r ddrama’n fyw yn yr ystafell ddosbarth. Yn ystod rownd derfynol Cipio’r Castell, bu’r tair ysgol yn barddoni ac yn brwydro yn erbyn ei gilydd o flaen panel o feirniaid oedd yn cynnwys Fflur Thomas ar ran Theatr Genedlaethol Cymru, clare e. potter (awdur a pherfformwraig) a Rufus Mufasa (addysgwraig Hip-Hop a bardd).

Roedd yn ddiweddglo hynod ddramatig i gyfnod estynedig o weithdai cyffrous; yn y rhain, cafodd 90 o ddisgyblion eu hysbrydoli a’u herio gan ddulliau Shakespeare a chael cyfle i greu barddoniaeth gyda beirdd adnabyddus, sef Anni Llŷn, Aneirin Karadog a Gwynfor Dafydd. Daeth nifer o ddisgyblion o’r tair ysgol i weld perfformiad o Macbeth yng Nghastell Caerffili.

Dewiswyd dau dîm o ddisgyblion o bob ysgol ar gyfer y rownd derfynol, ac mae’n bleser gennym gyhoeddi mai sgwad Ysgol Gyfun Cwm Rhymni oedd yn fuddugol. Fel gwobr, cyflwynwyd copïau o sgript Macbeth i bob ysgol, a chynhelir gweithdai ychwanegol gyda’r disgyblion buddugol. Daeth criw teledu o gwmni Tinopolis i ffilmio’r ornest, a bydd eitem ar y rhaglen Prynhawn Da yn cael ei ddarlledu’n fuan ar S4C (dyddiad i’w gadarnhau).

Blas bach o’r diwrnod yma

Mae’r prosiect  Cipio’r Castell yn rhan o raglen addysgol a chyfranogi amrywiol a lwyddodd i dynnu ynghyd nifer o sefydliadau allweddol i ddod â Macbeth i ystafelloedd dosbarth yng Nghasnewydd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf.

Dywed Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru am Cipio’r Castell:

“Ni fyddai’r prosiect tri mis hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth werthfawr partneriaid o feysydd gwahanol – treftadaeth, Llywodraeth Cymru a’r celfyddydau – i wireddu uchelgais i gyflwyno prosiect addysg ac i ymgysylltu â’r gymuned leol yn yr ardal lle llwyfannwyd Macbeth.”

Categorïau: Newyddion Awdur: Mair Jones

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government