Chwerthin plentyn mewn ystafell ymarfer
Dyma gerdded i mewn i’r ystafell ymarfer neithiwr i lond bol o chwerthin a gwenu. A dyma feddwl, dyma yn union pam cychwyn y Clwb Drama, i blant yr ardal gael mwynhau theatr, i’r plant gael teimlo’n gartrefol mewn theatr, yn hyderus i greu, ac i ddatblygu a dysgu.
Dros y misoedd diwethaf, dwi wedi dod i adnabod bob unigolyn a’i byd bach nhw, a byd difyr iawn ydi byd plentyn. Neithiwr roedd yn amser gwneud ychydig o waith cynllunio ar gyfer ein dangosiad ni, cafwyd lot o duchan am orfod eistedd lawr ac ysgrifennu, creu lluniau, ond, ar ddiwedd y sesiwn roedd y criw i gyd yn ysu i ysgrifennu mwy o syniadau, yn ysu i roi gwybodaeth am ddiddordebau y cymeriadau, yn ysu i gael dweud pa liw drws ffrynt oedd gan ei cymeriad. Wrth gynllunio, roeddwn yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd ysgrifennu/creu darlun o holl wybodaeth y syniad fel bod nhw yn cofio, ac o hyn wedyn roedd y plant yn dysgu pwysigrwydd cynllunio, pwysigrwydd meddwl, ac yn cysidro bod sawl elfen i greu theatr.
Themâu lliwgar iawn sydd i’r Clwb Drama y tymor yma, wrth greu theatr drochol ar gyfer y dangosiad yn dilyn hynt a helynt teulu’r syrcas. Edrychaf ymlaen at wythnos nesaf yn barod, i glywed fwy o chwerthin plentyn mewn ystafell ymarfer.