Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Theatr Gen Eto
    • Faust
    • Adar Papur
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
dysgu cymraeg

ae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod pecyn i ddysgwyr ar gael, wedi’i seilio ar ein cynhyrchiad nesaf, Macbeth. Crëwyd y pecyn i ddysgwyr gan Nant Gwrtheyrn, mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru gyda chymorth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth a gemau i ddysgwyr a chanllaw ar wahân ar gyfer tiwtoriaid. Mae’r deunydd yn addas ar gyfer dosbarthiadau Uwch a Hyfedredd ac yn cynnwys gweithgareddau i’w cyflawni cyn gweld y ddrama, a rhai ar ôl ei gweld.

Lawrlwythwch y pecyn yma

 

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’n bwysig iawn bod pob agwedd ar ein diwylliant cyfoes yn agored i’r rhai hynny sy’n dysgu’r Gymraeg. Dyna pam mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru.  Mae’r gwaith o lunio pecynnau i helpu dysgwyr fwynhau cynyrchiadau yn agor drws arall i’n dysgwyr ni.”

 

Meddai Mair Saunders, Prif Reolwr Canolfan Nant Gwrtheyrn: “Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth yr ydym wedi ei chynnal gyda’r Theatr Genedlaethol yma yn Nant Gwrtheyrn ers tro drwy gynnal gwersi ar gyfer dysgwyr a llunio pecynnau sy’n cydfynd â’r cynyrchiadau. Pleser yw cael cyd weithio ar gynllun sydd yn galluogi’r rhai hynny sydd yn dysgu’r Gymraeg i fwynhau arlwy y Theatr Genedlaethol.”

 

Meddai Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae cydweithio â phartneriaid sy’n arbenigwyr yn eu maes yn bwysig iawn i ni. Edrychwn ymlaen at barhau’r cydweithio gyda Nant Gwrtheyrn a dechrau partneriaeth hir dymor gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn sicrhau bod ein cynyrchiadau’n berthnasol i bawb. ”

 

Bydd perfformiadau byw o Macbeth yng Nghastell Caerffili  7 – 18 Chwefror, a hefyd, drwy fenter newydd gyffrous Theatr Gen Byw, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu’n fyw i ganolfannau ar draws Cymru ar 14 Chwefror, gydag ail-ddangosiadau gydag is deitlau Saesneg hyd diwedd Ebrill  i ddilyn.

Categorïau: Newyddion Awdur: Mair Jones

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Gobeithio i chi gyd lwyddo i fachu cusan fach ar ddydd Santes Dwynwen heddi! ❤ Hands up who's nabbed a little kiss… https://t.co/UjSyOfmS1905:00 25/01/2021
  • MACBETH Ar gael o 7pm nos Fercher 27 Ionawr. Capsiynau Caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael. Available from 7pm Wedn… https://t.co/fKdnHaypgM10:34 25/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government