X
“Cyn gynted â ma’r enw ‘Cymru’ yn ca’l ei delet’o, that’s it am byth.”
Dyma ddrama newydd gyffrous gan Rhydian Gwyn Lewis – enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Daw Rhydian yn wreiddiol o Gaernarfon, ond mae bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Mae’n gweithio fel Golygydd Sgript i’r gyfres Pobol y Cwm, gan fwynhau ysgrifennu a chyfansoddi yn ei amser hamdden. Darllen mwy…
13 Tachwedd 2018
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Gorllewin Sir Gâr yn cynnal clwb drama wythnosol yn Y Llwyfan, Caerfyrddin, gan roi cyfle i fagu hyder, datblygu sgiliau ac addysgu plant a phobl ifanc am y theatr.
Cyn perfformiad Nyrsys ar nos Sadwrn 10 Tachwedd yn Y Lyric, Caerfyrddin, rhoddodd criw y clwb berfformiad o’r gân actol ‘Hedfan’ gan Tudur Dylan. Roedd hwn yn gyfle gwych i’r plant berfformio o flaen cynulleidfa a bod yn rhan o weithgareddau ehangach Theatr Genedlaethol Cymru.
Delweddau: Andrew James
13 Tachwedd 2018
Cawsom amser gwych yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Roedd yn gyfle ardderchog inni allu hyrwyddo a rhannu gwybodaeth am Nyrsys gydag aelodau o staff y byrddau iechyd, yn ogystal â’r rhai oedd yn gweithio i fudiadau a sefydliadau eraill.
Dyma ychydig o luniau’n cofnodi ein hymweliad â’r gynhadledd, gyda llawer o ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru am y gwahoddiad i gymryd rhan.
Dwi’n gweithio’n llawn amser ac yn mwynhau’n fawr iawn. Ar ôl gweld bod y cwmni’n chwilio am brentis, penderfynais neidio am y cyfle gwych yma, a dechreuais ar y gwaith ym mis Hydref 2017.
Mi roedd ’na dipyn o fynd a dŵad i’r ysbyty cyn cael y diagnosis, ond unwaith ges i ddiagnosis mi na’th petha symud ymlaen ac roedd hi’n haws gwybod be o’n i’n gwffio.
Do’n i ddim isio eistedd yn y tŷ a gadael iddo fo gymryd drosodd – mae angen byw bywyd a chario ’mlaen i fwynhau. Ar un adeg, do’n i ddim isio mynd allan i betha, ond mynd ’nes i, ac wrth i chi fynd mae ’na un drws yn agor a hynny’n arwain at fwy o ddrysa’n agor.
Mi es i weld y ddrama ‘Perthyn’, a sefyll ar fy nhraed a deud wrth bawb yno bod gen i ddementia. O’n i ’di dechrau deud wrth bobl, ac erbyn hyn dwi’n enjoio siarad a deud wrth bobl a’r plant yn yr ysgolion. Mae hynny’n newid be mae pobl yn feddwl. Ddudodd un plentyn wrtha i – ‘Ro’n i’n ofni dementia cynt, ond dwi ddim ’i ofn o rŵan.’
Does gen i ddim byd ar bapur pan dwi’n siarad – mae bob dim yn dŵad o’r galon – a dwi’n ateb cwestiyna. Faswn i ddim ’di gneud hynny cynt, siarad yn gyhoeddus. Mae fy lleferydd i wedi dechra mynd. Weithia, dwi ddim yn gallu siarad yn dda iawn a mae ’na un neu ddau yn sbio heibio fi – ddim yn amal. Ddudodd un o ’mlaen i, ‘Ydi hi’n deall?’ Mae o’n ddigon i’ch gwylltio chi.
Dwi ’di gorfod stopio gweithio ar ôl y diagnosis, ond dwi’n cario ’mlaen i neud petha’n y tŷ a gwarchod y plant, a dwi’n ffendio ffordd i neud petha’n haws. Mae gen i memory board ac mae pob dim arno fo. Dwi’n ffendio ffyrdd gwahanol sy’n gweithio i fi. I helpu fi. I gael bwyd yn barod ar yr un pryd mae gen i timers, a dwi’n defnyddio nhw i ferwi tatws. Efo’r gwau, dwi’n sgwennu pob dim i lawr. Dwi’n cymryd mwy o amser i neud petha – ers talwm ro’n i’n llnau’r tŷ o’r top i’r gwaelod ar fy half day; rŵan mae o’n cymryd trwy’r dydd i mi llnau’r gegin – lot mwy o amser – ond rhaid i mi dderbyn na fedra i neud pethau mor handi, ac mae ’na ambell beth yn fwy stressful.
Cha i ddim defnyddio power tools rŵan, na’r strimmer, na thorri’r gwrych efo’r hedge trimmers – mi es i drwy’r cêbl. Ges i ddamwain hefyd efo’r electric knife – roedd ’na waed ym mhobman, a’r ferch yn trio helpu.
Ond dwi’n cadw’n bositif ac yn peidio meddwl bod bywyd drosodd – mae’n bwysig gneud eich gorau a pheidio rhoi fyny. Mae’r teulu’n gadael i mi neud pethau fy hun heb fynnu gneud gormod drosta i. Mae pawb yn gneud mistêc a thrio eto, a rhaid derbyn os dwi ddim yn teimlo’n saff yna dwi ddim yn ’i neud o – mynd i fyny step ladder, er enghraifft – ac mae dreifio’n y nos yn rhy anodd.
Dwi wrth fy modd yn mynd ar fy holidês. Mi fuon ni i ffwrdd bum gwaith y flwyddyn ddwytha. Dwi’n cael postcards o’r gwahanol lefydd lle da’n ni ’di bod, ac maen nhw’n gweithio fel prompt, yn helpu fi i gofio’r holidês wrth eu gweld nhw. Ew, da’n ni ’di cael amsar da i ffwrdd – mae o’n brêc i’r ddau ohonon ni – a da’n ni ’di bwcio dau wylia’n barod ar gyfer ’leni.
Mae gen i hawl fod yn ypsét weithiau, a dwi isio siarad am y peth – mae’n hawdd gneud hynny rŵan a deud na fedra i neud petha, ond dwi ddim am roi give up. Mae’n bwysig ’mod i’n cwffio a dal i neud petha. Mae pawb yn deud ‘go for it’.
So, dwi’n dal i fynd ac yn deud pan dwi angen help – sdim pwynt ’i guddio fo, mae help i gael ’mond gofyn amdano fo. Salwch ydi o fatha pob dim arall, ac mae ’na lot o support i gael. Mae pawb yn wahanol, a diagnosis pawb yn wahanol, ond dydi o ddim yn ddiwedd y byd. Cario ’mlaen – dyna sy’n bwysig.
Glenda Roberts
Cymerwch olwg ar Broject Anti Glenda:
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn lansio cynllun peilot newydd
Digon o gyfle i ‘siarad’ wrth i gynllun newydd ddod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd
Blwyddyn newydd dda i chi i gyd! A hithau’n ddechrau mis Ionawr, mae’n amser grêt i hau hedyn y Clwb Cefn Llwyfan i bobl ifanc yma yn Theatr Genedlaethol Cymru!
Daeth criw o awduron ifanc i’r Llwyfan, yng Nghaerfyrddin Dydd Sadwrn y 14eg o Hydref i wneud gweithdy gyda minnau, Arwel Gruffydd a Janet Aethwy. Mae’r awduron wedi cael eu dewis i ysgrifennu dramâu newydd i blant am y Chwyldro Diwydiannol ar gyfer Gŵyl Hanes Cymru. Daeth yr awduron atom i drafod eu syniadau dechreuol, ar ôl iddynt dreulio amser yn ymchwilio pynciau neu thema benodol ynghlwm â’r Chwyldro. Darllen mwy…
Er pan o’n i’n ifanc iawn, mae drama wedi bod yn rhan fawr iawn o ’mywyd bob dydd, ac rwyf bellach wrth fy modd yn rhoi blas ar ddrama i blant yn y gymuned. Maen nhw’n cael cyfle i brofi ac i ddarganfod creadigrwydd, a ffordd o fynegi eu hunain, drwy waith drama, byrfyfyrio a chreu cymeriadau newydd.
Yn dilyn gweithdy sgriptio gair am air a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Bodedern gyda Manon Williams a Llinos Jones, ro’n i’n awyddus iawn i gael gwybod mwy am y ddrama ‘Hollti’ a gwaith y Theatr Genedlaethol yn gyffredinol. Soniodd Llinos eu bod yn awyddus i gael pobl ifanc i wirfoddoli gyda nhw yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn, felly anfonais e-bost ati i ddweud y byddwn yn fodlon helpu gydag unrhyw beth.
Ers degawd a mwy, clywsom y diwn gron gan wleidyddion y Fam Ynys ar bob lefel – Cyngor Sir, Cynulliad a San Steffan – fod rhaid cael Wylfa B. Dyma sail strategaeth economaidd Ynys Môn. Pam y gefnogaeth gibddall gan ein gwleidyddion?
Sut ar wyneb y ddaear fedra ni fod mor wirion a dadlau efo’r doethion? Ydw i’n ffŵl yn gwrthwynebu Wylfa B? Darllen mwy…
Bydd prosiect Wylfa Newydd yn para am ganrif, gan ddod â buddion economaidd sylweddol ar hyd ei oes i Ynys Môn ac i ogledd-orllewin Cymru. Bydd yn creu 850 o swyddi hirdymor o ansawdd uchel a fydd yn cynnig cyflog da. Bydd hefyd yn un o’r prosiectau adeiladu mwyaf ym Mhrydain – os nad Ewrop – ac yn cyffwrdd ag ystod eang o themâu. Darllen mwy…
Ro’n i wrth fy modd pan gysylltodd Theatr Genedlaethol Cymru â mi i ofyn a hoffwn fod yng ngofal y goleuo ar gyfer Hollti, eu cynhyrchiad diweddaraf. Y tro diwethaf i mi oleuo un o sioeau’r cwmni oedd gyda Chwalfa y llynedd yn Pontio. Hon hefyd fydd yr ail sioe gair-am-air i mi ei goleuo i’r cwmni – Sgint oedd y gyntaf, ychydig flynyddoedd yn ôl. Darllen mwy…
Pobol ifanc Môn yn creu ac ysgrifennu
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr yn teithio i ysgolion cynradd y cylch ac yn cyflwyno gweithdai theatr dan arweiniad Siân Elin Williams, un o arweinwyr y Clwb. Edrychwn ymlaen at gyfarfod disgyblion y sir a dod â byd y theatr i’r ystafell ddosbarth. Mae croeso i ysgolion y cylch gysylltu â Gwawr Williams, Swyddog Datblygu’r fenter, os ydynt yn dymuno trefnu gweithdy.
Y dyddiau olaf yn yr ystafell ymarfer…
Mae’r wythnos olaf yn yr ystafell ymarfer bob amser yn gyfnod difyr, yn enwedig gyda gwaith newydd – dod â’r cyfan at ei gilydd, cofio beth rydyn ni wedi’i wneud (dyw hyn ddim wastad yn hawdd pan mae ’na gymaint o fanylion i’w hystyried), cofio pob gair a phob nodyn (fel uchod) a siapio’r cyfan i ffurfio drama sy’n llifo’n gyson. Darllen mwy…
Chwerthin plentyn mewn ystafell ymarfer
Dyma gerdded i mewn i’r ystafell ymarfer neithiwr i lond bol o chwerthin a gwenu. A dyma feddwl, dyma yn union pam cychwyn y Clwb Drama, i blant yr ardal gael mwynhau theatr, i’r plant gael teimlo’n gartrefol mewn theatr, yn hyderus i greu, ac i ddatblygu a dysgu. Darllen mwy…
Wythnos ddwys a chyffrous arall, yn dadlennu mwy fyth o gryfder a dyfnder y darn – o safbwynt y testun a’r gerddoriaeth – a chadw’n trwynau ni i gyd ar y maen.
Mwynhau’r celfyddydau ar ddiwrnod braf o wanwyn.
Ar ôl bod yn paratoi ar gyfer diwrnod Cer i Greu 2017 am ychydig wythnosau, daeth Ebrill yr 8fed a’i haul braf i ’nghyfarfod yng Nghaerfyrddin. Gyda brechdan bacwn yn fy llaw, a sgidia melyn am fy nhraed, es i gyfarfod Rhydian i nôl hanner y car a’i gludo’n ofalus i ganol dref Gaerfyrddin. Roedd sawl pen yn troi i sbio ar yr hanner car glas, Rhyds a finnau.
Mae wythnos gyntaf ymarferion Y Tŵr wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn.
Mae’r broses o gymryd opera newydd o’r dudalen i’r llwyfan am y tro cyntaf yn gallu bod yn un llawn pryder: a fydd hi’n gweithio ar y llwyfan, y tu hwnt i weledigaeth y cyfansoddwr, yr awdur a’r comisiynydd? A fydd y gerddoriaeth yn dod â’r testun yn fyw mewn ffordd ddeinamig, ystyrlon? A fydd y syniadau cynhyrchu a’r dylunio’n gweithio gyda darn nad oes neb eto wedi’i glywed? Ac yn y blaen . . . Darllen mwy…
A minnau yn un sy’n mwynhau ymweld â’r Alpau yn y gaeaf, profiad rhyfedd, ond dymunol iawn, oedd ymweld yn haul braf mis Mehefin y llynedd â thref sy’n elwa’n fawr, ben arall y flwyddyn, ar ddiwydiant sgïo.
Mae Sarah Burge yn artist lleol i Gaerffili ac wedi bod ar brofiad gwaith gyda’r tîm gwisgoedd ar gynhyrchiad Macbeth. Mae wedi bod yn cadw dyddiadur o’i phrofiad yn gweithio ar y cynhyrchiad ar ei blog. Darllenwch ei phrofiad yma. Darllen mwy…
Fy enw i yw Ffion Reynolds, dwi’n gweithio i Cadw, a dwi wedi bod yn edrych ar ôl tîm cynhyrchu Macbeth yng Nghastell Caerffili. Fy swydd gyda Cadw yw i greu rhaglen gyhoeddus o brofiadau anhygoel ar gyfer ymwelwyr yn ein safleoedd ar draws Cymru, o arddangosfeydd celf i sinema awyr agored, a prosiectau awyr agored anhygoel, fel cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth yng Nghastell Caerffili. Darllen mwy…
Fe allech ddweud mai’r her fwyaf sydd gen i fel actor yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth, ydi’r ffaith mod i’n chwarae pedair rhan wahanol (yn cynnwys un o’r gwrachod). Darllen mwy…
Neithiwr oedd noson gyntaf ein Clwb Drama a, wir i chi, does dim teimlad gwell yn y byd na gweld plentyn bach yn gwenu’n braf wrth ddod mewn i ystafell ymarfer, yn barod i ddysgu, sgwrsio a datblygu.
Helo Llinos dwi, a dwi rŵan yn Swyddog Cyfranogi a Marchnata yn Theatr Genedlaethol Cymru. Dwi wrth fy modd yn gweithio efo plant, pobol ifanc, pobol hyn, Pawb!
Wedi deffro ychydig bach yn hwyr fore Sadwrn cyrhaeddais Llanystumdwy ychydig bach yn fflyshd, a fy ngwallt i chydig bach yn flêr. Ond wrth ddreifio fyny’r lôn goedwigaidd a gweld drws gwyrddlas Tŷ Newydd, ymlaciais yn syth. Rydach chi’n anghofio am y byd tu allan a mwynhau encilio i fyd unigryw Tŷ Newydd. Darllen mwy…
Oes ganddoch chi ddiddordeb dysgu rhai geiriau Llydaweg dros baned neu pheint cyn dod i weld Merch yr Eog? Darllen mwy…
Ers ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint, dw i wedi bod yn reit brysur i ddweud y gwir. Darllen mwy…
Ymunwch â ni i brofi app Sibrwd, elfen hanfodol o gynhyrchiad Merch yr Eog/Merc’h an Eog
gan Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Llinos Jones sydd wedi bod yn dechrau perthynas gydag elusen Mencap. Dyma ei chofnod o’r cyfarfod cyntaf; Darllen mwy…
Llinos Jones, Cynorthwy-ydd Marchnata a Chyfranogi sy’n sôn am Theatr Gen yn Tafwyl cychwyn mis Gorffennaf… Darllen mwy…
Deuddydd hwyliog iawn cefais yng Nghriccieth yr wythnos diwethaf â’r cwmni yn ymarferion Nansi ac roedd hi’n braf iawn cael bod yn ôl mewn gweithle â llawer o wynebau cyfarwydd ers i mi fod yn rhan o gast cymunedol Chwalfa.
Yn y gyfres yma, byddwn ni’n cael hanes propiau amrywiol sydd yn rhan o gynhyrchiad Nansi. Caryl McQuilling, Cynorthwy-ydd Rheoli Llwyfan ar Nansi, sydd yn cyflwyno un o’r propiau mae hi’n gyfrifol amdano yn rhan o’r sioe. Darllen mwy…
Erin Maddocks, y Goruchwylydd Gwisgoedd ar Mrs Reynolds a’r Cena Bach, sy’n cyflwyno un o wisgoedd cymeriad yn y sioe.
“Dyma rai ychwanegion at wisg Mel, rhan sy’n cael ei chwarae gan yr actores Leah Gaffey. Mae’r darnau yma yn gymorth i gyfleu ychydig o bersonoliaeth Mel drwy ei gwisg. Mae hi’n gymeriad ifanc, lliwgar a hoffus ond sydd wedi cael amser anodd yn y blynyddoedd diwthaf ond yn trio rhoi hynny i gyd tu ôl iddi rwan.
Mae cwblhau gwisg cymeriad yn rhan pwysig iawn, ac roedden ni eisiau dipin bach o liw (pink!) a thipyn o emwaith aur syml sydd yn golygu rhywbeth eitha sentimental i’r cymeriad, fel y locket fach, a’r gadwyn efo ‘M’ arni.”
Helo gyfeillion!
Wel dyma ni, rhan gyntaf ymarferion cymunedol Chwalfa ym Methesda drosodd, a wir i chi dwi wedi mwynhau yn hun gymaint! Darllen mwy…
Dros y dyddiau nesaf, bydd yr artist Stephen Kingston yn paratoi murlun yn Galeri Caernarfon, mewn ymateb i berfformiad Dawns Ysbrydion. Darllen mwy…
Angharad Price Jones, un o berfformwyr Dawns Ysbrydion sydd yn sôn am y broses ymarfer.
Wel dwi’n wen o glust i glust – mae’r gwaith ar gynhyrchiad Chwalfa wedi cychwyn nol yma yn Theatr Gen. Dwi mor falch o’r newyddion yma, ac mae hyd yn oed yn fwy cyffrous i mi fel gog sydd yn byw lawr yn y Sowth ma.
Mewn ychydig dros bythefnos bydd Dawns Ysbrydion yn cychwyn taith o amgylch Cymru, yn dilyn llwyddiant yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni. Cawsom air gydag Anna ap Robert, un o ddawnswyr y cynhyrchiad cyn i’r ymarferion gychwyn…
Cyfle i wrando eto ar set DJ gwnaeth Y Pencadlys i C2 BBC Radio Cymru. Bydd Y Pencadlys yn perfformio cerddoriaeth fyw yn rhan o gynhyrchiad Dawns Ysbrydion yng Ngŵyl Caeredin eleni ac ar daith yn mis Tachwedd 2015.
Gallwch wrando eto YMA
Ro’dd yna gynnwrf yn fy mol a gwên fawr ar fy wyneb wrth i mi weld y babell binc â’r bwrlwm yn ei amgylchyni wrth yrru tuag at faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd wythnos yr eisteddfod wedi cyrraedd a minnau yn barod i gychwyn ar fy wythnos yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn yr wŷl.
Darllen mwy…