Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Cadw, a gyda chefnogaeth gan Chapter, gyhoeddi manylion pellach am gynhyrchiad uchelgeisiol a chyffrous o Macbeth. Bydd y cwmni’n cyflwyno’r ddrama, sef cyfieithiad y diweddar Athro Gwyn Thomas, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, yng Nghastell Caerffili ym mis Chwefror 2017. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw i sinemâu ar draws Cymru, fel rhan o fenter newydd Theatr Gen Byw. Mae’r cynhyrchiad yn ddigwyddiad allweddol wrth i Cadw ddathlu Blwyddyn y Chwedlau yn 2017.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fydd yn chwarae rhan Macbeth a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fydd yn chwarae rhan yr Arglwyddes Macbeth. Bydd y ddau actor nodedig hyn yn arwain cast o actorion proffesiynol yn ogystal â chast cymunedol, i ddod â thrasiedi fawr Shakespeare yn fyw. Yn dilyn cydweithrediad tebyg gyda’r gymuned leol yn ardaloedd Bangor a Bethesda gyda chynhyrchiad Chwalfa yn gynharach eleni, mae’r cwmni’n gwahodd aelodau o’r gymuned leol yn ardal Caerffili i gymryd rhan, a chynhelir gweithdai a chlyweliadau yng Nghaerffili yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr eleni. Am fanylion llawn, gweler theatr.cymru. Dyma gyfle unigryw i drigolion yr ardal gymryd rhan mewn cynhyrchiad uchelgeisiol ac i weld Castell ysblennydd Caerffili fel na welwyd mohono o’r blaen.
Am y tro cyntaf erioed, bydd modd i gynulleidfaoedd ledled Cymru fwynhau’r cynhyrchiad a’r lleoliad arbennig hwn, wrth i’r cwmni ddarlledu’n fyw i ganolfannau, megis Chapter, Pontio, Galeri, a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth, nos Fawrth 14 Chwefror. Mae’r darllediad byw yn rhan o fenter beilot, newydd, gyffrous, Theatr Gen Byw, a fydd yn ceisio sicrhau bod gwaith y cwmni a gyflwynir mewn lleoliadau arbennig, yn cyrraedd cynulleidfaoedd eang. Caiff y manylion llawn, a rhestr o ganolfannau fydd yn dangos y darllediad eu cadarnhau’n fuan – gweler theatr.cymru.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn hynod falch o gael cyflwyno’r cyfieithiad hwn, sef un o weithiau olaf y diweddar Athro Gwyn Thomas. Bu Gwyn Thomas, a fu farw’n gynharach eleni, yn bennaeth ar yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a bu’n Fardd Cenedlaethol Cymru 2006-2008. Roedd yn awdur toreithiog, ac ymysg ei gyfraniadau amhrisiadwy i fywyd diwylliannol Cymru, mae ei gasgliad o gyfrolau barddoniaeth, dramâu a llyfrau ysgolheigaidd ynghyd â’i gyfieithiadau i’r Saesneg o’r Mabinogi.
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Macbeth am y cynhyrchiad:
“Dyma’r trydydd tro yn hanes y cwmni i ni gyflwyno Shakespeare yn y Gymraeg, yn dilyn cynyrchiadau o Romeo a Juliet (cyfieithiad J T Jones) yn 2004 ac Y Storm ( cyfieithiad gan Gwyneth Lewis o ‘The Tempest’) yn 2012. Bu’n bleser cydweithio gyda Gwyn, a thristwch o’r mwyaf yw na chaiff weld ffrwyth ei lafur yn cael ei berfformio na’i gampwaith o gyfieithiad mydryddol yn cael ei lefaru. Rydym yn cyflwyno’r cynhyrchiad hwn er cof annwyl amdano. Macbeth oedd y ddrama gyntaf o waith Shakespeare imi ddod ar ei thraws erioed, a chefais fy nghyfareddu, yn ddeuddeg oed, gan ei swyn a’i thywyllwch. Dyma fydd y tro cyntaf i mi gyfarwyddo gwaith Shakespeare, ac er mod i’n edrych ymlaen gyda chymysgedd o gyffro ac ofn, rwyf yn dwyn nerth o fod mewn cwmni diogel, a minnau’n cael y fraint o fanteisio ar brofiad a dawn anhygoel dau o’n prif actorion Cymraeg, sef Richard Lynch a Ffion Dafis.”
Ceir manylion llawn ynglyn â’r clyweliadau a gynhelir ar gyfer y cast cymunedol yma.
Am ymholiadau’r wasg cysylltwch â Mair Jones: mair.jones@theatr.com / + 44 (0)1267 245617 | + 44 (0)7903 842617
Noson i’r wasg: Nos Iau 9 Chwefror, 2017 am 7.30pm
Cyfieithiad: Gwyn Thomas | Cyfarwyddo: Arwel Gruffydd
@TheatrGenCymru | #MacbethThGC