Wythnos ddwys a chyffrous arall, yn dadlennu mwy fyth o gryfder a dyfnder y darn – o safbwynt y testun a’r gerddoriaeth – a chadw’n trwynau ni i gyd ar y maen.
Rydym yn dal i fwrw mlaen yn hynod o gyflym, sy’n galonogol iawn. Llwyddwyd i fynd drwy’r ail act gyfan mewn dim ond 4 diwrnod – tipyn o gamp, yn wir – ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wynebu sialensau dramatig yr act olaf. Roedd Act II yn ymdrin â chanol oed, gan gyfuno anfodlonrwydd ac anniddigrwydd gyda chyfnodau o gyd-rannu atgofion ac anwyldeb. Hon yw’r act “Cat on a Hot Tin Roof”, gyda’i phyliau defodol o frwydrau geiriol a chwarae rôl, sydd wedi bod yn eitha difyr – ond bydd Act III yn rhywbeth hollol wahanol, yn canolbwyntio ar ddiwedd bywyd.
Mae ein cantorion yn gwneud gwaith hollol anhygoel. Maen nhw’n gantorion-actorion yng ngwir ystyr y gair, yn archwilio pob arlliw dramatig trwy gerddoriaeth, gair a pherfformiad corfforol. Ond mae gennym ffordd bell i fynd eto wrth ddatblygu’n llawn yr agweddau corfforol ynghlwm â heneiddio – rhywbeth a fydd yn flaenllaw iawn yn ystod yr wythnos sydd i ddod, ac yn ysgogi archwilio pellach yn y ddwy act gyntaf.
O safbwynt y cynhyrchu, rwy’n dal i gael pleser mawr o’r broses o brofi a datgelu potensial y cynllun rydym wedi ei greu; bellach, teimlaf y bydd yr ysgol sy’n cynrychioli grisiau’r Tŵr yn datblygu’n fwyfwy pwysig a phwerus, ac iddi ei harwyddocâd symbolaidd ei hun. Mae ’na hyd yn oed foment rydym yn ei galw “Yr Ysgol yn yr Ystafell” – gan ddisodli “eliffant” gwreiddiol yr ymadrodd. Ond mae ein llawr hefyd yn gyforiog o bŵer a grym . . .
Er bod pawb yn gwbl realistig ynghylch sialens anferth y darn hwn i’n cast arwrol (mae cael dim ond dau ganwr ar gyfer opera gyfan yn llawer iawn i’w ofyn), mae’r naws gref o bositifrwydd a phosibiliadau’n amlwg iawn ym mhob sesiwn. Mae gweithio o gwmpas y piano yn nodwedd barhaus o’n gwaith, ac felly hefyd y broses o lwyfannu adrannau byr, un ar y tro – ond mae’r teimlad o gydlynu hefyd yn gryf iawn, fel ag y mae egni dramatig a mewnwelediad y gerddoriaeth. Da iawn ti, Guto!