Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
ThGC_SideBySide_Mono

Black Lives Matter: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yng Nghymru 

Mae’r digwyddiadau diweddar yn America – ac ar draws y byd – wedi atgyfnerthu’r angen am fwy o newid, mwy o ymwybyddiaeth o fraint a thuedd, a’r angen i godi llais yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu ar bob ffurf. Maent wedi dod â phroblemau hiliaeth systemig i’r amlwg ac wedi tynnu sylw at yr angen i ni i gyd weithio’n galetach i sicrhau bod pawb yn derbyn y parch a’r cyfleoedd y maent yn eu haeddu.  

Rydym yn credu’n gryf nad oes lle i ragfarn na gwahaniaethu yn ein cymdeithas heddiw. Serch hynny, mae wedi dod yn amlwg i ni nad yw’r ffordd rydym yn gweithredu, nac ychwaith rai o’r penderfyniadau rydym yn eu gwneud, yn llwyr adlewyrchu’r egwyddor honno. 

Dyletswydd Theatr Genedlaethol Cymru 

Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i herio hiliaeth pryd bynnag a ble bynnag yr ydym yn ei weld. Fel cymdeithas, rhaid i ni fod yn ymwybodol o faterion hiliol strwythurol a systemig. Fel Theatr Genedlaethol Cymru, mae angen i ni ddwyn ein hunain i gyfrif a gwneud popeth o fewn ein gallu i greu sefydliad sy’n wirioneddol amrywiol. Rhaid inni yn awr – yn fwy nag erioed – drafod ein heriau ni ein hunain yn agored a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb lle bynnag yr ydym yn dod o hyd iddo. Rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi tynnu ein sylw at enghreifftiau penodol sydd wedi ein galluogi i graffu ar ein gweithredoedd a dysgu o’r profiadau hynny. 

Y camau nesaf 

Mae digwyddiadau’r wythnosau diwethaf wedi ysgogi newid ynom ni ein hunain, ac felly hefyd yn ein sefydliad ac yn ein ffordd o weithio. Mae’r camau rydym wedi eu cymryd hyd yma wedi bod, fe dybiem, yn gamau i’r cyfeiriad cywir, ond nid ydynt wedi ein galluogi i symud yn ddigon cyflym. Er mwyn sicrhau bod y momentwm yn parhau, a bod y newidiadau angenrheidiol yn digwydd yn gyflymach, rydym wedi sefydlu grŵp o blith ymddiriedolwyr a staff y cwmni i graffu ar bob agwedd o’n gwaith a’n sefydliad – ac  i greu cynllun cynhwysiant gyda nodau clir a phendant ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir. 

Rydym yn bwriadu addysgu’n staff a’n hymddiriedolwyr ar bynciau yn cynnwys hiliaeth sefydliadol a thuedd anymwybodol. Byddwn yn gwrando, ac yn gwahodd lleisiau newydd i’r sgwrs. Byddwn yn edrych ar ein proses o greu cynnwys creadigol, ac yn trafod sut mae modd i ni adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well, a’u cynnwys yn ein gwaith. Byddwn yn ceisio adnabod unrhyw rwystrau sy’n atal pobl rhag dod atom fel sefydliad, ac sy’n eu rhwystro rhag dod atom fel artistiaid, gweithwyr, cyfranogwyr a mynychwyr, ac yn ymdrechu i oresgyn y rhwystrau hynny. Byddwn yn rhannu’r cynllun cynhwysiant er mwyn bod yn dryloyw ac i sicrhau ein bod yn cael ein dwyn i gyfrif. 

 

Dim ond geiriau yw’r rhain, sy’n nodi ein bwriad, ond rydym am ddangos y bwriad hwnnw a’n  hymrwymiad trwy ein gweithredoedd. Ni all hyn ddigwydd dros nos, ond rydym yn ymrwymo i weithredu ar fyrder. Ac mewn blwyddyn, ein gobaith yw medru edrych yn ôl ar y foment hon a gweld yn glir y trawsnewidiad fydd wedi digwydd yn y cyfamser. 

11 Mehefin 2020

Categorïau: Newyddion Awdur: Carys Tudor

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 245 602

@TheatrGenCymru

  • Young Playwrights Programme: an opportunity to learn and develop your scriptwriting skills. We’re committed to mak… https://t.co/4mMAFmtZyo10:01 16/01/2021
  • Cynllun Dramodwyr Ifanc: cyfle i ddysgu a datblygu eich sgiliau sgriptio. Ry'n ni wedi ymrwymo i wneud y cynllun h… https://t.co/X7nLSKcn3C10:00 16/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government