Awenau

Mae Awenau yn gynllun hyfforddi a mentora i gyfarwyddwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa, neu sydd eisoes yn gweithio yn y sector ond yn awyddus i newid cyfeiriad neu ehangu eu profiad. Y bwriad yw ysbrydoli darpar arweinwyr creadigol y theatr yng Nghymru a datblygu eu sgiliau, er mwyn eu cynorthwyo i gydio’n hyderus yn yr awenau ac arwain prosiectau theatr Cymraeg. Bydd y cynllun yn cynnwys rhaglen amrywiol o ddosbarthiadau meistr gydag ymarferwyr theatr profiadol. Bydd hefyd yn cynnwys cyfle i bob un a fydd yn rhan o’r cynllun i weithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar un o gynyrchiadau’r cwmni, a chyfle i gyfarwyddo darlleniad o waith mewn datblygiad.

Bydd newyddion ynghylch ymgeiswyr llwyddiannus ar gael yn fuan.