Y penwythnos yma bydd yr awdur Anni Llŷn yn cynnal gweithdy’n seiliedig ar ysgrifennu i blant yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i blant. Mae’r ŵyl yn bartneriaeth rhwng nifer o sefydliadau: yr Urdd; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Llenyddiaeth Cymru; Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw.
Bydd 12 o awduron ifanc yn ymgymryd â’r her o ysgrifennu dramâu byrion i blant ar gyfer eu llwyfannu fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2018.
Ym mis Medi 2018, mae Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn bwriadu cyflwyno cyfres o 12 sioe i blant yn seiliedig ar hanes y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru – o waith copr Mynydd Parys yn Amlwch i chwareli llechi, pyllau glo, gweithfeydd tun, melinau gwlân, a’r gwaith haearn ym Mlaenafon. Fel rhan o’r cynllun bydd yr ŵyl yn canolbwyntio ar gyfraniad unigolion blaenllaw fel David Davies, Llandinam, y dethlir 200 mlwyddiant ei eni yn 2018, ynghyd ag ymchwilio i themâu tlodi a phrotest y cyfnod a ddaeth ag unigolion fel Dic Penderyn i’r amlwg.
Yn unol ag arfer yr ŵyl, bydd sioeau’n cael eu llwyfannu mewn lleoliadau treftadaeth sy’n berthnasol i’r cymeriad, y stori a’r diwydiant dan sylw, ac yn cydweithio’n agos â chyrff treftadaeth megis Cadw ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Dros y misoedd nesaf, bydd yr awduron ifanc yn derbyn hyfforddiant arbenigol dan ofal partneriaid y cynllun. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant mewn ymchwilio i bwnc hanesyddol dan ofal y Llyfrgell Genedlaethol; cwrs preswyl ‘Ysgrifennu i blant’ yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd dan ofal Llenyddiaeth Cymru, a diwrnod o drafod sgriptiau a throi’r stori’n ddrama yn Y Llwyfan, Caerfyrddin, dan ofal Theatr Genedlaethol Cymru.
Bydd y sgriptiau’n cael eu cyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn.
Yn ôl yr hanesydd Dr Elin Jones, sy’n ymgynghorydd ar y prosiect ar ran Gŵyl Hanes Cymru i Blant:
“Cymru oedd y wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd. Ond sut digwyddodd hynny mewn gwlad fechan, dlawd? Mae hanes unigolion mentrus a lliwgar fel Thomas Williams o Fôn, David Davies o Landinam ac Amy Dillwyn o Abertawe yn rhan o’r ateb. Mae hanes protestwyr fel Dic Penderyn o Ferthyr a John Frost o Gasnewydd yn gymorth i ateb cwestiwn arall – beth oedd effaith hyn oll ar bobl gyffredin y wlad? Bydd cyfle nawr gan awduron ifanc mentrus Cymru i chwilio am atebion i’r cwestiynau hyn – a rhagor, rwy’n siŵr. Ac yna caiff actorion ‘Gŵyl Hanes Cymru i Blant’ gyflwyno’r dramâu byrion i blant Cymru heddiw – a rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu a holi rhagor! Mae hwn yn gynllun cyffrous a mentrus sy’n dod â’n hanes yn fyw i ni heddiw.”
Dywedodd Rhian Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:
“Rydym wrth ein bodd yn cael cyfle i weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o sefydliadau er mwyn datblygu awduron theatr i’r dyfodol. Edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio’n ddwys gyda’r awduron a gweld ffrwyth eu gwaith yn cael eu perfformio ledled Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ddechrau ar berthynas hir dymor gyda’r awduron rhain.”
Yr Awduron
Gwynfor Dafydd
Mae Gwynfor, sy’n hanu’n wreiddiol o Donyrefail, ar hyn o bryd yn astudio Sbaeneg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’n ysgrifennwr brwd, ac enillodd sawl gwobr dros y blynyddoedd am ei sgriptiau, ei straeon byrion a’i gerddi caeth a rhydd. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwy flynedd yn olynol – Sir y Fflint yn 2016 a Phen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái yn 2017.
Iestyn Wyn
Daw Iestyn yn wreiddiol o Lannerch-y-medd, Ynys Môn. Mae’n ymddiddori’n fawr ym myd y theatr ac yn gweithio yn y maes fel Tiwtor Drama ac actor achlysurol. Yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016, enillodd brif wobr theatr yr Eisteddfod, sef Gwobr Goffa Llew.
Elan Grug Muse
Mae Elan, a faged yng nghysgod tomenni llechi Dyffryn Nantlle, bellach yn fyfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013, ac ym mis Mai eleni cyhoeddodd Ar Ddisberod, ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth gyda chyhoeddiadau Barddas. Barddoniaeth a rhyddiaith yw’r ffurfiau ysgrifennu y mae Elan yn fwyaf cyfarwydd â hwy, ac mae’n edrych ymlaen at arbrofi ym myd y ddrama trwy gyfrwng y cynllun hwn.
Sion Emyr
Actor ifanc sy’n hanu’n wreiddiol o Benisa’r-waun ac sydd bellach yn byw yn Llundain. Bu Sion yn rhan o gast Rownd a Rownd am flynyddoedd cyn penderfynu mynd i astudio drama yn y Mountview Academy of Theatre and Arts. Ar hyn o bryd, mae’n brysur yn teithio o amgylch ysgolion cynradd Cymru gyda’r cwmni ‘Mewn Cymeriad’ yn portreadu’r arwr Hedd Wyn.
Sian Elin Williams
Daw Sian Elin o Lanybydder, ger Llanbed. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn hanes a chymeriadau ei hardal. Ers ei phlentyndod, trwy gyfleoedd a gafodd gyda’r Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc, mae wedi cymryd rhan mewn nifer fawr o sioeau a dramâu. Mae’n astudio Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond ar hyn o bryd, am gyfnod o flwyddyn, mae’n derbyn hyfforddiant yn y gweithle fel Swyddog Ieuenctid gyda’r Urdd yng Ngheredigion.
Lois Llywelyn Williams
Mae Lois yn fyfyrwraig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Fel un a faged ym Morfa Nefyn, mae ganddi ddiddordeb mawr yn y diwydiant morwrol a’r diwydiant llechi, ond mae hi hefyd yn awyddus i ymestyn ei phrofiad a’i gwybodaeth i gynnwys ardaloedd a diwydiannau eraill yng Nghymru. Enillodd Lois y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016.
Mared Roberts
Mae Mared yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Sbaeneg a Ffrangeg. Daw’n wreiddiol o Landysul yng Ngheredigion, ac mae’n gyfarwydd ag ennill yn gyson yn yr adran lenyddiaeth mewn eisteddfodau lleol. Enillodd y Goron ddwywaith yn olynol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.
Mirain Alaw Jones
Bu Mirain, sy’n dod yn wreiddiol o ardal Llanelli, yn astudio modiwlau sgriptio a Llenyddiaeth Plant fel rhan o’r radd Dosbarth Cyntaf a enillodd yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd. Yn 2016, cafodd ei dewis yn un o bum awdur ifanc i ysgrifennu drama ar gyfer cwmni Theatr y Frân Wen, a llwyfannwyd ei gwaith mewn noson Sgript i Lwyfan yn Galeri Caernarfon.
Mari Elen Jones
Daw Mari Elen Jones o Gwm-y-glo yng Ngwynedd. A hithau’n awdur nifer o sgriptiau, mae sawl darn o’i gwaith eisoes wedi cael ei berfformio. Bu’n rhan o gynlluniau Sgript i Lwyfan (Frân Wen); Neonsparz (Neontopia); Protest Fudur a Noson Cynhesu’r Tebot (Cwmni Tebot). Nid yw Mari erioed wedi sgriptio ar gyfer plant, ac fel mam ifanc mae hi’n edrych ymlaen at y cyfle i greu darn o waith y bydd ei phlentyn yn gallu’i fwynhau.
Ceris Mair James
Mae Ceris, a ddaw’n wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn, yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Gyfun y Strade. Derbyniodd radd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, ac mae’n cystadlu ac ennill yn gyson yng nghystadlaethau llenyddol Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Ym mis Hydref 2016 cyhoeddwyd Nefoedd yr Adar, ei llyfr cyntaf i blant, gan Wasg Gomer.
Mared Llywelyn Williams
Astudiodd Mared, sy’n byw ym Mhwllheli, y modiwl Theatr Mewn Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a sbardunodd hynny ei diddordeb yn y maes. Mae Mared yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Tebot – cwmni amatur sy’n tynnu ynghyd unigolion sydd â diddordeb ym maes sgwennu, actio a chyfarwyddo. Gan fod cymaint o gwmnïau drama amatur wedi diflannu o’u hardal, teimlai Mared a’i ffrindiau ei bod yn bryd iddyn nhw greu rhywbeth eu hunain. Mared oedd prif ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont, Taf ac Elái 2017.
Arddun Rhiannon Arwel
Daw Arddun o bentre Dinas, ger Caernarfon, ac mae hi ar fin cychwyn ei thrydedd flwyddyn yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Y llynedd, cafodd gyfle i fod yn rhan o gynllun ‘Cer i Greu’ BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru a oedd yn golygu ysgrifennu drama fer ar gyfer y radio. Arweiniodd y broses at wahoddiad i Galeri Caernarfon i glywed ei gwaith yn cael ei drafod a’i ddehongli gan actorion a chyfarwyddwyr profiadol. Daeth Arddun yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont, Taf ac Elái.
Manylion yr hyfforddiant
27 Gorffennaf – Chwilota
Lleoliad – Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Pa le gwell i gael ysbrydoliaeth nag ymysg deunyddiau gwreiddiol Trysorfa’r Genedl? Mae casgliad estynedig y Llyfrgell yn borth i’r gorffennol, ond ble mae cychwyn? Dyma gyfle i ddysgu am yr amryw gasgliadau, a derbyn hyfforddiant ar sut i’w hymchwilio. Bydd arbenigwyr wrth law i gyfeirio at y ffynonellau, gan gynnwys adnoddau digidol a mynediad ar-lein.
9–10 Medi – Ysgrifennu i Blant gydag Anni Llŷn
Lleoliad – Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy
Nid yw ysgrifennu i blant mor hawdd ag y mae’n swnio. Rhaid dewis a dethol eich cynnwys yn ofalus, rhaid strwythuro’n effeithiol, a bod yn ddyfeisgar. Dyma’r pethau y byddwn ni’n ymdrin â nhw yn y gweithdy, tra ar yr un pryd yn cael hwyl yn arbrofi gyda thactegau i ddiddanu, ysbrydoli a dal dychymyg plant.
14 Hydref – Troi’r stori’n ddrama
Lleoliad – Y Llwyfan, Caerfyrddin
Croesewir pawb i gartref Theatr Genedlaethol Cymru yn Y Llwyfan, Caerfyrddin, ar gyfer diwrnod o drafod sgriptiau a throi’r stori’n ddrama. Mewn cyfres o weithdai, bydd cyfarwyddwyr theatr profiadol yn ysbrydoli awduron i greu sgriptiau theatrig cyffrous.
Am fanylion pellach, cysylltwch ag Eleri Twynog, Cyfarwyddwr Gŵyl Hanes Cymru i Blant:
eleritwynog@btinternet.com
07891 383392
www.gwylhanes.cymru
Twitter @gwylhanesfest