Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi cast llawn y cynhyrchiad Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd sy’n teithio ledled Cymru rhwng 13 Mawrth ac 13 Ebrill. Llwyddodd Merched Caerdydd, sy’n waith newydd gan Catrin Dafydd, i ddenu cynulleidfaoedd mawr i’r darlleniadau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, ac mae Nos Sadwrn o Hyd yn drosiad Cymraeg gan Roger Williams o’i ddrama boblogaidd Saturday Night Forever. Dyma ddwy ddrama gyfoes wedi eu lleoli yn y brifddinas, gan ddau o’n hawduron mwyaf beiddgar. Darllen mwy…
Yn 2018, bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru i ddarparu preswyl dros 7 diwrnod a fydd yn cynnig cyfleoedd datblygu i berfformwyr ifanc sydd hefyd â diddordeb mewn llwybrau gyrfa eraill yn y maes. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi ei rhaglen ar gyfer y tymor sydd i ddod, a chyflwyno menter newydd, sef Theatr Gen Creu.
A hithau’n flwyddyn pan fydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed, trwy gydol 2018 bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn archwilio’r thema Gofal a Chymuned, ac yn cyflwyno dau gynhyrchiad newydd ar daith ledled Cymru. Y cyntaf o’r rhain fydd Y Tad, sef trosiad newydd gan Geraint Løvgreen o’r ddrama Ffrangeg arobryn Le Père, sy’n mynd ar daith yn ystod Chwefror a Mawrth. Ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, bydd y cwmni’n mynd â Nyrsys ar daith, sef drama gair-am-air newydd a phwerus gan Bethan Marlow, sy’n cynnwys nifer o ganeuon gwreiddiol gan Rhys Taylor. Darllen mwy…
Daeth criw o awduron ifanc i’r Llwyfan, yng Nghaerfyrddin Dydd Sadwrn y 14eg o Hydref i wneud gweithdy gyda minnau, Arwel Gruffydd a Janet Aethwy. Mae’r awduron wedi cael eu dewis i ysgrifennu dramâu newydd i blant am y Chwyldro Diwydiannol ar gyfer Gŵyl Hanes Cymru. Daeth yr awduron atom i drafod eu syniadau dechreuol, ar ôl iddynt dreulio amser yn ymchwilio pynciau neu thema benodol ynghlwm â’r Chwyldro. Darllen mwy…
Bydd Estron, drama fuddugol Hefin Robinson yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni a’r Cyffiiau 2016, yn cael ei llwyfannu yn y Cwt Drama ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni. Hon fydd prif ddrama’r wythnos yn y Pentref Drama, a chaiff ei chyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Darllen mwy…
Yn ddiweddar, bu Theatr Genedlaethol Cymru yn cydweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru i ddarparu gweithdai drama cyffrous i ddisgyblion ysgolion cynradd Môn. Darllen mwy…
A minnau yn un sy’n mwynhau ymweld â’r Alpau yn y gaeaf, profiad rhyfedd, ond dymunol iawn, oedd ymweld yn haul braf mis Mehefin y llynedd â thref sy’n elwa’n fawr, ben arall y flwyddyn, ar ddiwydiant sgïo.
Mae Sarah Burge yn artist lleol i Gaerffili ac wedi bod ar brofiad gwaith gyda’r tîm gwisgoedd ar gynhyrchiad Macbeth. Mae wedi bod yn cadw dyddiadur o’i phrofiad yn gweithio ar y cynhyrchiad ar ei blog. Darllenwch ei phrofiad yma. Darllen mwy…
Fy enw i yw Ffion Reynolds, dwi’n gweithio i Cadw, a dwi wedi bod yn edrych ar ôl tîm cynhyrchu Macbeth yng Nghastell Caerffili. Fy swydd gyda Cadw yw i greu rhaglen gyhoeddus o brofiadau anhygoel ar gyfer ymwelwyr yn ein safleoedd ar draws Cymru, o arddangosfeydd celf i sinema awyr agored, a prosiectau awyr agored anhygoel, fel cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth yng Nghastell Caerffili. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Cadw, a gyda chefnogaeth gan Chapter, gyhoeddi manylion pellach am gynhyrchiad uchelgeisiol a chyffrous o Macbeth. Darllen mwy…
Neithiwr oedd noson gyntaf ein Clwb Drama a, wir i chi, does dim teimlad gwell yn y byd na gweld plentyn bach yn gwenu’n braf wrth ddod mewn i ystafell ymarfer, yn barod i ddysgu, sgwrsio a datblygu.
Helo Llinos dwi, a dwi rŵan yn Swyddog Cyfranogi a Marchnata yn Theatr Genedlaethol Cymru. Dwi wrth fy modd yn gweithio efo plant, pobol ifanc, pobol hyn, Pawb!
Wedi deffro ychydig bach yn hwyr fore Sadwrn cyrhaeddais Llanystumdwy ychydig bach yn fflyshd, a fy ngwallt i chydig bach yn flêr. Ond wrth ddreifio fyny’r lôn goedwigaidd a gweld drws gwyrddlas Tŷ Newydd, ymlaciais yn syth. Rydach chi’n anghofio am y byd tu allan a mwynhau encilio i fyd unigryw Tŷ Newydd. Darllen mwy…
Oes ganddoch chi ddiddordeb dysgu rhai geiriau Llydaweg dros baned neu pheint cyn dod i weld Merch yr Eog? Darllen mwy…
Ymunwch â ni i brofi app Sibrwd, elfen hanfodol o gynhyrchiad Merch yr Eog/Merc’h an Eog
gan Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Heddiw (dydd Iau 8 Medi 2016) bydd pedair aelod o gangenhau Merched y Wawr Aberystwyth a Llanafan yn serenu mewn golygfa gan Theatr Genedlaethol Cymru fydd yn rhan o gynhyrchiad diweddaraf y cwmni. Y ddrama yw Merch yr Eog, fydd yn agor yn Aberystwyth 5-7 Hydref 2016 cyn teithio Cymru, de Orllewin Lloegr a Llydaw. Darllen mwy…
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch heddiw o gyhoeddi cast Merch yr Eog / Merc’h an Eog, cynhyrchiad amlieithog fydd yn teithio Cymru, Lloegr a Llydaw yn nhymor yr Hydref 2016. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi heddiw (27 Gorffennaf 2016) bod ei hymddiriedolwyr wedi penodi ei Chyfarwyddwr Artistig presennol, Arwel Gruffydd, i arwain y cwmni am y pum mlynedd nesaf. Darllen mwy…
Bydd Rhith Gân, drama fuddugol Wyn Mason yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015, yn cael ei llwyfannu yn y Cwt Drama ar faes Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni a’r Cyffiniau eleni. Hon fydd prif ddrama’r wythnos yn y Pentref Drama, a chaiff ei chyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Darllen mwy…
Llinos Jones sydd wedi bod yn dechrau perthynas gydag elusen Mencap. Dyma ei chofnod o’r cyfarfod cyntaf; Darllen mwy…
Llinos Jones, Cynorthwy-ydd Marchnata a Chyfranogi sy’n sôn am Theatr Gen yn Tafwyl cychwyn mis Gorffennaf… Darllen mwy…
Yr wythnos yma (4 – 8 Gorffennaf 2016), mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cynnal gweithdai mewn ysgolion led led Sir Fynwy fel rhan o’r gwaith paratoi sy’n cael ei gynnal yn y sir i baratoi ar gyfer dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau. Darllen mwy…
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, Theatr Genedlaethol Cymru a Phartneriaeth Sinemaes yn falch o gyhoeddi amserlen y Pentref Drama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, sydd yn cynnwys Caffi’r Theatrau, y Cwt Drama, Sinemaes a Theatr y Maes.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi taith Merch yr Eog, cynhyrchiad amlieithog fydd yn teithio yng Nghymru, Lloegr a Llydaw yn nhymor yr Hydref 2016. Mae Merch yr Eog yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba, Llydaw, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi bod tocynnau ar gyfer taith Nansi nawr ar werth. Bydd y daith yn agor yn Neuadd Goffa Cricieth ar yr 8fed o Fehefin ac yna yn teithio i bum canolfan tan ddechrau Gorffennaf 2016.
Dros y dyddiau nesaf bydd modd gwrando ar recordiad o dair drama fer newydd, a berfformir am y tro cyntaf gan actorion proffesiynol. Darllen mwy…
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi taith Nansi, yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd y cynhyrchiad yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cyffiniau, 2015. Darllen mwy…
Mae’n bleser cyhoeddi, oherwydd galw eithriadol gan y cyhoedd, y bydd perfformiad ychwanegol o Chwalfa ar Nos Lun, 22 Chwefror am 7.30pm. Darllen mwy…
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu enwebu ar gyfer Gwobrau Theatr Cymru a gynhaliwyd yn Theatr y Sherman, Caerdydd nos Sadwrn y 30ain o Ionawr, Darllen mwy…
Ym mis Chwefror 2016, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn dod â nofel T Rowland Hughes yn fyw ar lwyfan Theatr Bryn Terfel gyda chast proffesiynol o ddeuddeg, a chast cymunedol o dros 60 o drigolion yr ardal. Darllen mwy…
Helo gyfeillion!
Wel dyma ni, rhan gyntaf ymarferion cymunedol Chwalfa ym Methesda drosodd, a wir i chi dwi wedi mwynhau yn hun gymaint! Darllen mwy…
Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi cynhyrchiad newydd Mrs Reynolds a’r Cena Bach fydd yn teithio Cymru yn ystod Ebrill a Mai 2016 a hynny mewn partneriaeth â Chwmni’r Frân Wen a Galeri Caernarfon. Mae Mrs Reynolds a’r Cena Bach yn gyfieithiad newydd gan Meic Povey o ddrama gyfoes gan un o awduron theatr pennaf Cymru, Gary Owen, Mrs Reynolds and the Ruffian, a berfformiwyd gyntaf yn Watford Palace Theatre yn 2010. Ffion Haf Jones fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad. Darllen mwy…
Dros y dyddiau nesaf, bydd yr artist Stephen Kingston yn paratoi murlun yn Galeri Caernarfon, mewn ymateb i berfformiad Dawns Ysbrydion. Darllen mwy…
Angharad Price Jones, un o berfformwyr Dawns Ysbrydion sydd yn sôn am y broses ymarfer.
Bore fory (28 Hydref 2015) am 10 y bore bydd tocynnau Chwalfa gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Pontio a Chwmni’r Frân Wen, yn mynd ar werth i’r cyhoedd.
Wel dwi’n wen o glust i glust – mae’r gwaith ar gynhyrchiad Chwalfa wedi cychwyn nol yma yn Theatr Gen. Dwi mor falch o’r newyddion yma, ac mae hyd yn oed yn fwy cyffrous i mi fel gog sydd yn byw lawr yn y Sowth ma.
Mewn ychydig dros bythefnos bydd Dawns Ysbrydion yn cychwyn taith o amgylch Cymru, yn dilyn llwyddiant yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni. Cawsom air gydag Anna ap Robert, un o ddawnswyr y cynhyrchiad cyn i’r ymarferion gychwyn…
Mae Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cynhyrchiad Dawns Ysbrydion yn mynd ar daith o amgylch Cymru ym mis Tachwedd 2015, a hynny yn dilyn agor y cynhyrchiad yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ddiwedd y mis hwn (Awst 2015).
Cyfle i wrando eto ar set DJ gwnaeth Y Pencadlys i C2 BBC Radio Cymru. Bydd Y Pencadlys yn perfformio cerddoriaeth fyw yn rhan o gynhyrchiad Dawns Ysbrydion yng Ngŵyl Caeredin eleni ac ar daith yn mis Tachwedd 2015.
Gallwch wrando eto YMA
Ro’dd yna gynnwrf yn fy mol a gwên fawr ar fy wyneb wrth i mi weld y babell binc â’r bwrlwm yn ei amgylchyni wrth yrru tuag at faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd wythnos yr eisteddfod wedi cyrraedd a minnau yn barod i gychwyn ar fy wythnos yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn yr wŷl.
Darllen mwy…
Mae Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Pontio a Chwmni’r Frân Wen, yn falch iawn o gyhoeddi heddiw (28 Gorffennaf 2015) y bydd Chwalfa yn cael ei lwyfannu yn Theatr Bryn Terfel, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor, ym mis Chwefror 2016 fel rhan o raglen agoriadol Pontio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi amserlen y Pentref Drama yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni, sydd yn cynnwys Caffi’r Theatrau, y Cwt Drama a Theatr y Maes.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi cast Nansi, prif gynhyrchiad y cwmni yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, drama newydd gan Angharad Price sy’n codi’r llen, i sain y delyn, ar gymeriad hudolus Nansi Richards.
{150}, cynhyrchiad aml-blatfform wedi ei greu gan yr artist Marc Rees, yn cael ei lwyfannu yn Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol yn Aberdâr, Mehefin-Gorffennaf 2015.
Mae’n bleser gennym groesawu Ffion McCarthy i Theatr Genedlaethol Cymru, fel Cynhyrchydd Gweithredol newydd y cwmni. Darllen mwy…
Mae Theatr Genedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â Galeri Caernarfon, yn falch o gyhoeddi cynhyrchiad newydd fydd yn cael ei lwyfannu yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, cyn teithio Cymru yn hwyrach yn y flwyddyn.