Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes iawn i chi ymuno â ni wrth i ni ymarfer ac agor ein sioe wanwyn, Estron, yn Theatr y Glowyr, Rhydaman, cyn iddi fynd ar daith ledled Cymru. Darllen mwy…
Dwi’n gweithio’n llawn amser ac yn mwynhau’n fawr iawn. Ar ôl gweld bod y cwmni’n chwilio am brentis, penderfynais neidio am y cyfle gwych yma, a dechreuais ar y gwaith ym mis Hydref 2017.
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn lansio cynllun peilot newydd
Digon o gyfle i ‘siarad’ wrth i gynllun newydd ddod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd
Blwyddyn newydd dda i chi i gyd! A hithau’n ddechrau mis Ionawr, mae’n amser grêt i hau hedyn y Clwb Cefn Llwyfan i bobl ifanc yma yn Theatr Genedlaethol Cymru!
Er pan o’n i’n ifanc iawn, mae drama wedi bod yn rhan fawr iawn o ’mywyd bob dydd, ac rwyf bellach wrth fy modd yn rhoi blas ar ddrama i blant yn y gymuned. Maen nhw’n cael cyfle i brofi ac i ddarganfod creadigrwydd, a ffordd o fynegi eu hunain, drwy waith drama, byrfyfyrio a chreu cymeriadau newydd.
Gwahoddiad i drigolion Môn: dewch i weld cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru yn Galeri Caernarfon!
- Cynnig arbennig i bobl Môn – trefnwyd bws, yn rhad ac am ddim, i gludo trigolion o Ynys Môn i Galeri Caernarfon, ar gyfer noson agoriadol taith genedlaethol Hollti.
- Drama newydd sy’n seiliedig ar gynlluniau ar gyfer atomfa newydd ar yr ynys, ac ymateb y gymuned leol.
Yn dilyn gweithdy sgriptio gair am air a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Bodedern gyda Manon Williams a Llinos Jones, ro’n i’n awyddus iawn i gael gwybod mwy am y ddrama ‘Hollti’ a gwaith y Theatr Genedlaethol yn gyffredinol. Soniodd Llinos eu bod yn awyddus i gael pobl ifanc i wirfoddoli gyda nhw yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn, felly anfonais e-bost ati i ddweud y byddwn yn fodlon helpu gydag unrhyw beth.
Pobol ifanc Môn yn creu ac ysgrifennu
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr yn teithio i ysgolion cynradd y cylch ac yn cyflwyno gweithdai theatr dan arweiniad Siân Elin Williams, un o arweinwyr y Clwb. Edrychwn ymlaen at gyfarfod disgyblion y sir a dod â byd y theatr i’r ystafell ddosbarth. Mae croeso i ysgolion y cylch gysylltu â Gwawr Williams, Swyddog Datblygu’r fenter, os ydynt yn dymuno trefnu gweithdy.
Chwerthin plentyn mewn ystafell ymarfer
Dyma gerdded i mewn i’r ystafell ymarfer neithiwr i lond bol o chwerthin a gwenu. A dyma feddwl, dyma yn union pam cychwyn y Clwb Drama, i blant yr ardal gael mwynhau theatr, i’r plant gael teimlo’n gartrefol mewn theatr, yn hyderus i greu, ac i ddatblygu a dysgu. Darllen mwy…
Wythnos ddwys a chyffrous arall, yn dadlennu mwy fyth o gryfder a dyfnder y darn – o safbwynt y testun a’r gerddoriaeth – a chadw’n trwynau ni i gyd ar y maen.
Mwynhau’r celfyddydau ar ddiwrnod braf o wanwyn.
Ar ôl bod yn paratoi ar gyfer diwrnod Cer i Greu 2017 am ychydig wythnosau, daeth Ebrill yr 8fed a’i haul braf i ’nghyfarfod yng Nghaerfyrddin. Gyda brechdan bacwn yn fy llaw, a sgidia melyn am fy nhraed, es i gyfarfod Rhydian i nôl hanner y car a’i gludo’n ofalus i ganol dref Gaerfyrddin. Roedd sawl pen yn troi i sbio ar yr hanner car glas, Rhyds a finnau.
Ers ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint, dw i wedi bod yn reit brysur i ddweud y gwir. Darllen mwy…
Deuddydd hwyliog iawn cefais yng Nghriccieth yr wythnos diwethaf â’r cwmni yn ymarferion Nansi ac roedd hi’n braf iawn cael bod yn ôl mewn gweithle â llawer o wynebau cyfarwydd ers i mi fod yn rhan o gast cymunedol Chwalfa.
Yn y gyfres yma, byddwn ni’n cael hanes propiau amrywiol sydd yn rhan o gynhyrchiad Nansi. Caryl McQuilling, Cynorthwy-ydd Rheoli Llwyfan ar Nansi, sydd yn cyflwyno un o’r propiau mae hi’n gyfrifol amdano yn rhan o’r sioe. Darllen mwy…
Erin Maddocks, y Goruchwylydd Gwisgoedd ar Mrs Reynolds a’r Cena Bach, sy’n cyflwyno un o wisgoedd cymeriad yn y sioe.
“Dyma rai ychwanegion at wisg Mel, rhan sy’n cael ei chwarae gan yr actores Leah Gaffey. Mae’r darnau yma yn gymorth i gyfleu ychydig o bersonoliaeth Mel drwy ei gwisg. Mae hi’n gymeriad ifanc, lliwgar a hoffus ond sydd wedi cael amser anodd yn y blynyddoedd diwthaf ond yn trio rhoi hynny i gyd tu ôl iddi rwan.
Mae cwblhau gwisg cymeriad yn rhan pwysig iawn, ac roedden ni eisiau dipin bach o liw (pink!) a thipyn o emwaith aur syml sydd yn golygu rhywbeth eitha sentimental i’r cymeriad, fel y locket fach, a’r gadwyn efo ‘M’ arni.”