Ry’n ni’n falch o gyhoeddi bod yr artistiaid Mari Elen Jones a Chris Harris wedi derbyn comisiynau i gyflwyno gwaith newydd yng nghynhadledd Ceangal | Dolen II fis Tachwedd eleni. Byddan nhw’n ymuno ag artistiaid o Iwerddon a’r Alban, a bydd pob artist yn cyflwyno darn newydd yn eu hiaith Geltaidd eu hunain ar y thema “Cysylltiadau”.
Cynhadledd Ceangal | Dolen II yw’r ail ymgynulliad o artistiaid a sefydliadau sy’n gweithio mewn theatr yn yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a’r Gymraeg. Mae’r gynhadledd hon yn dod ag ymarferwyr ynghyd o feysydd creu theatr, cynhyrchu, y byd academaidd, llunio polisi a chyllido, i greu llwyfan gynhwysol ar gyfer wythnos o drafodaethau panel, areithiau a chyflwyniadau theatr digidol.
Cynhelir y gynhadledd eleni 10 – 13 Tachwedd ar-lein. Bydd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn traddodi araith gyweirnod y digwyddiad yn seiliedig ar thema gyffredinol cynhadledd eleni, sef “Cysylltiadau”.
Bydd y gynhadledd pedwar diwrnod yn cynnwys 6 pherfformiad byr, wedi’u comisiynu’n arbennig, gan yr artistiaid Mari Elen Jones (Cymru), Chris Harris (Cymru), Ciara Ní É (Iwerddon), Sam Ó Fearraigh (Iwerddon), Daibhidh Walker (Yr Alban) a Beth Frieden (Yr Alban).
Mae Mari Elen Jones yn ddramodydd a gwneuthurwr theatr sy’n wreiddiol o Harlech, gogledd Cymru. Mae ei gwaith yn cynnwys cymeriadau benywaidd yn bennaf, ac mae hi’n mwynhau archwilio themâu sy’n arbennig o berthnasol i fenywod ac ymchwilio’r cysyniad o Gymreictod. Yn ogystal â sgriptio, mae Mari hefyd yn perfformio, yn creu theatr ddyfeisiedig, yn barddoni, ac yn un o sylfaenwr Cwmni Theatr Tebot.
Gwneuthurwr theatr o ardal Cwmbrân yn ne Cymru yw Chris Harris. Mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae wedi gweithio gyda’r cwmnïau canlynol yn y gorffennol: Theatr Genedlaethol Cymru, Dutch National Opera, Ensemble Modern, Theatr y Sherman, National Theatre Wales, Cwmni Theatr Arad Goch, Opera’r Ddraig, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Opra Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar nifer o brosiectau annibynnol gyda chwmnïau ledled Cymru.
Medd Siúbhán Nic Grianna, cadeirydd Ealaín na Gaeltachta
“Mae theatr yn mynd at wraidd pwy ydym ni a sut y gwelwn ni ac y profwn ni’r byd. Mae profiadau penodol y rhai sy’n gwneud theatr yn yr Wyddeleg yn llais hanfodol yn nhirwedd ddiwylliannol Iwerddon. Rwyf wrth fy modd ein bod yn parhau â’n harfer hirsefydlog o gydweithredu â llawer o bartneriaid rhagorol a chydweithwyr gwerthfawr yn Iwerddon, yr Alban a Chymru i dorri llwybrau newydd beiddgar gyda’n gilydd ar gyfer theatr yn yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a’r Gymraeg.”
Pedwar prif amcan yr ymgynulliad yw:
- Archwilio dulliau arloesol o fynd ati i greu gwaith newydd yn y tair iaith leiafrifol hyn.
- Cwestiynu a rhannu modelau o’r arferion gorau.
- Cytuno ar egwyddorion arweiniol cyffredin i’r sectorau theatr sy’n gweithio yn yr Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a’r Gymraeg, i feithrin parch, amrywiaeth ieithyddol a chydraddoldeb.
- Comisiynu gwneuthurwyr theatr i gyflwyno gwaith newydd yn eu hieithoedd Celtaidd brodorol, sef y Gymraeg, yr Wyddeleg a Gaeleg yr Alban.
Bydd thema’r gynhadledd, Ceangal, Dolen, yn yr ystyr Cysylltiadau, yn rhedeg drwy wahanol sesiynau a chyfarfodydd creadigol y gynhadledd ac yn ceisio meithrin rhagor o gydweithio a deialog rhwng gwneuthurwyr theatr, academyddion theatr a sefydliadau celfyddyd y tair gwlad. Bydd y digwyddiad eleni yn adeiladu ar ganlyniadau’r Gynhadledd Ceangal Dolen gyntaf a gynhaliwyd gan Theatre Gu Leòr, mewn partneriaeth ag NUI Galway, yn 2019, ac a osododd gynsail ar gyfer ffyrdd newydd o weithio ar draws y tair iaith lle datblygwyd set o egwyddorion arweiniol. Bydd sesiynau’r gynhadledd yn rhedeg o 10.00-13.00 bob dydd. Drwy gydol yr wythnos bydd paneli o artistiaid, deialogau academaidd, sesiynau ymneilltuo, trafodaethau polisi a chyfleoedd i gyfranogwyr ryngweithio â phanelwyr a siaradwyr. Bydd y digwyddiad yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn ystod trafodaethau panel a sgyrsiau, a hynny’n sicrhau hygyrchedd i gyfranogwyr ar draws y rhychwant o ieithoedd dan sylw.
Cynullir Ceangal Dolen fel cydweithrediad rhwng staff o Ealaín na Gaeltachta, Ollscoil na hÉireann Gaillimh, An Taibhdhearc, Theatre Gu Leòr a Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae tocynnau i’r digwyddiad yn ddi-dâl ond mae’n rhaid bwcio a chofrestru ar Whova. Ewch i wefan Ealaín na Gaeltachta neu wefan An Taidhbhearc i gael rhagor o fanylion am agenda’r gynhadledd, proffiliau siaradwyr a sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Am ragor o fanylion i’r wasg ar gyfer cyfweliadau, erthyglau a phasys i’r wasg, cysylltwch â ceangaldolen2020@gmail.com.