Mae fy rôl yn ymwneud â chreu profiad sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith, a chaniatáu iddynt gofleidio’r iaith Gymraeg drwy gydol y perfformiad.
Ap yw Sibrwd sy’n cynnig crynodeb Saesneg o’r perfformiad. Mae signal WiFi yn cysylltu â dyfais symudol bersonol, ac yn ystod y perfformiad caiff y gwrandawyr fynediad at grynodeb manwl o’r ddrama. Un elfen bwysig yw ei fod yn caniatáu i’r di-Gymraeg a Dysgwyr, fel ei gilydd, gael mynediad at y perfformiad naill ai trwy sain, testun, neu’r ddau.
Fel Dramatwrg Sibrwd, fy rôl i yw llunio cyfieithiad pwrpasol o’r ddrama a’i weithredu yn ystod yr ymarferion a’r perfformiad. Rwy’n rhan ganolog o’r broses ymarfer ac yn dilyn y daith bob cam o’r ffordd, gan addasu’r testun yn gyson. Yna, rwy’n recordio’r deunydd gydag actor cyn ei fewnbynnu i system benodol. Caiff hyn ei weithredu yn yr ymarferion, a thrwy gydol y cyfnod techio, hyd at y perfformiad olaf.
Mae hi’n rôl ddramatwrgaidd iawn, h.y. dyw hi ddim yn ddigon i gyflwyno rhywbeth yn unig er mwyn cyfateb i bwysau rhythmig y ‘space bar’ ar y gliniadur. Mae’n ymwneud ag addasu’r testun i adlewyrchu safbwyntiau, bwriadau ac ystyron newidiol y perfformiad. Nid proses eilaidd yw hon, gan ei bod yn hanfodol i sicrhau bod naws y perfformiad yn cael ei gyfoethogi drwy’r cyfieithiad.

Rhaid bod yn wyliadwrus oherwydd mae’n broses organig. Mae unrhyw waith newydd yn cael ei addasu a’i newid drwy’r amser, a rhaid i Sibrwd fod yr un mor organig ac ystwyth. Rhaid i’r perfformiad a Sibrwd weithio ochr yn ochr, fel dau drên sy’n teithio ar linellau cyfochrog – nid yn rasio yn erbyn ei gilydd, ond yn anelu at yr un lleoliad.
Heb ddatgelu gormod, gallaf ddweud bod naws y ddrama yn egnïol a gobeithiol ac, ar adegau, yn ddifrifol a thrasig. Rhaid, felly, adlewyrchu hynny yn naws testun Sibrwd. Does yr un cyfieithiad yr un fath yn union â’r un blaenorol. Dyma beth mae’r ysgolhaig Walter Benjamin yn ei ddisgrifio fel yr ‘iaith bur’; rhywbeth sy’n tra-rhagori ar eiriau.
Mae’n bleser ac yn fraint enfawr i gael gweithio ar y cynhyrchiad hwn. Mae yna ymdeimlad o gyd-dynnu, yn enwedig gan ei fod yn bwnc mor berthnasol ac yn un sy’n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae gweithio ar Sibrwd yn ehangu’r teimlad cynhwysol hwn.