Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig gwasanaethau amrywiol i’r diwydiant theatr. Mae ein pencadlys yn adeilad Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, lle lleolir ein prif swyddfeydd a gofod ymarfer.

Ystafell Ymarfer
Mae modd llogi ystafell ymarfer fawr a hyblyg ar gyfer defnydd amrywiol. Gellir ei defnyddio ar gyfer cynadleddau, ymarferion neu berfformiadau theatr, gweithgareddau cymunedol neu fel stiwdio deledu.
Ceir opsiynau amrywiol o ran llogi offer technegol i’w defnyddio tra’n llogi’r ystafell.
Llogi offer
Mae Adran Gynhyrchu’r cwmni yn trefnu i logi offer ac ategion (propiau) i gwmnïau amrywiol ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Ceir catalog yr Adran Gynhyrchu isod sydd yn rhestri’r offer i gyd sydd ar gael i’w llogi. Am wybodaeth ynglŷn â llogi a chostau, cysylltwch â’r Pennaeth Cynhyrchu, Angharad Mair Davies: angharad.davies@theatr.com neu’r Swyddog Technegol, Ffen Evans: ffen.evans@theatr.com