Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru Theatr Genedlaethol Cymru
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English
Cau
  • Beth Sydd ‘mlaen
    • Faust
    • Adar Papur
    • Theatr Gen Eto
    • Carys ac Andy
    • Enfys
    • Sgidie, Sgidie, Sgidie
    • Cynyrchiadau’r Gorffennol
  • Prosiectau
    • Academi Leeway
    • Ar y Dibyn
    • Clwb Theatr Cymru
  • Datblygu Creadigol
    • Cynllun Dramodwyr Ifanc
    • Theatr Gen Creu
    • Creu Ar-lein
      • Comisiynau Digidol Newydd
      • Dramâu Micro
    • Hyfforddiant A Mentoriaeth
      • Cynllun Dramodwyr Ifanc
      • Grŵp Dramodwyr Newydd
      • Awenau
    • Eich Gwaith Chi
  • Cymryd Rhan
    • Addysg
    • Clybiau Drama
    • Dysgwyr
  • Newyddion
    • Newyddion
    • Blog
  • Y Cwmni
    • Amdanom Ni
    • Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
    • Staff y Cwmni
    • Amrywiaeth a Chynhwysiant
    • Swyddi
    • Cyfleoedd
    • Cysylltwch â Ni
    • Llogi Adnoddau
  • Cefnogwch Ni
  • English

Adeiladu ar Lwyddiannau Diweddar

27/07/2016

Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi heddiw (27 Gorffennaf 2016) bod ei hymddiriedolwyr wedi penodi ei Chyfarwyddwr Artistig presennol, Arwel Gruffydd, i arwain y cwmni am y pum mlynedd nesaf.
Mae Arwel Gruffydd eisoes wedi cwblhau ei dymor cyntaf o bum mlynedd fel Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, oddi ar ei benodiad yn 2011, gan lywio’r cwmni trwy gyfnod o newidiadau pellgyrhaeddol o ran gweledigaeth artistig, yn ogystal â heriau sylweddol o ran nawdd cyhoeddus. Wrth i’r cwmni hefyd lansio ei raglen am y tymor nesaf – ddyddiau’n unig cyn agor ei gynhyrchiad diweddaraf, sef Rhith Gân gan Wyn Mason, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni – mae Arwel Gruffydd yn hyderus y bydd y cwmni’n parhau i fynd o nerth i nerth.

Heddiw, felly, mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru gyhoeddi hefyd ei rhaglen ar gyfer y tymor nesaf. Bydd y rhaglen honno’n cynnwys Merch yr Eog, sef drama newydd, gyfoes mewn cyd-gynhyrchiad â Teatr Piba o Lydaw, a berfformir yn Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg, ac a fydd yn teithio Llydaw yn ogystal â Chymru yr hydref hwn; cyfieithiad newydd gan y diweddar Athro Gwyn Thomas o glasur Shakespeare, Macbeth, wedi ei lwyfannu yng Nghastell Caerffili a’i ddarlledu’n fyw i ganolfannau ledled Cymru; ac opera newydd o waith Guto Puw a Gwyneth Glyn, sef addasiad o gampwaith Gwenlyn Parry, Y Tŵr, mewn cyd-gynhyrchiad â Music Theatre Wales.

Mae Merch yr Eog, sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourges, yn gynhyrchiad amlieithog a gyflwynir yn Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg. Dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru gyd-gynhyrchu gwaith newydd gyda chwmni o dramor. Cyfarwyddwyr y ddrama fydd Thomas Cloarec (Teatr Piba) a Sara Lloyd (Theatr Genedlaethol Cymru), a bydd y cast yn cynnwys actorion o Gymru ac o Ffrainc. Bydd Lleuwen Steffan a Rhian Morgan ymhlith y cast Cymraeg, a bydd Merch yr Eog yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 5 Hydref 2016 cyn teithio Cymru, de-orllewin Lloegr a Llydaw.

Bydd gofyn i’r gynulleidfa Gymraeg lawrlwytho ap Sibrwd er mwyn dilyn y rhannau hynny o’r ddrama sy’n cael eu perfformio yn Llydaweg a Ffrangeg. Hyd yma, defnyddiwyd Sibrwd i roi mynediad i gynyrchiadau Cymraeg eu hiaith i gynulleidfaoedd di-Gymraeg, ac mae hwn yn gam cyffrous ymlaen yn natblygiad yr adnodd arloesol hwn. Bydd y cyfan hefyd ar gael, trwy gyfrwng Sibrwd, yn Saesneg, Llydaweg a Ffrangeg.

Bydd Macbeth, cyfieithiad newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Athro Gwyn Thomas o un o ddramâu mwyaf adnabyddus Shakespeare, yn cael ei lwyfannu mewn cydweithrediad â CADW yng Nghastell Caerffili, yn mis Chwefror 2017. Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad safle-penodol hwn, a darlledir y cyfan yn fyw i nifer o ganolfannau a sinemâu ar draws Cymru. Dyma’r tro cyntaf i gwmni theatr o Gymru ddarlledu cynhyrchiad yn fyw i ganolfannau.

Bydd Y Tŵr yn gyd-gynhyrchiad gan Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales, wedi ei gyflwyno gan Ŵyl Bro Morgannwg a Theatr Sherman. Guto Puw yw cyfansoddwr yr opera newydd hon, a Gwyneth Glyn yw awdur y libreto, sy’n seiliedig ar ddrama adnabyddus Gwenlyn Parry. Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales, fydd cyfarwyddwr y cynhyrchiad, gyda Sara Lloyd yn gyfarwyddwr cyswllt. Bydd Y Tŵr yn teithio rhai o brif ganolfannau Cymru yn ystod Mai a Mehefin 2017.

Meddai Arwel Gruffydd :

“Mae’r rhaglen newydd hon yn cynrychioli rhychwant eang o ran ffurfiau theatraidd, themâu, ac uchelgais creadigol, ac yn adlewyrchu ehangder amcanion artistig y cwmni. Mae’n cynnwys gwaith newydd, clasuron, y traddodiadol a’r arloesol, cynyrchiadau sy’n dathlu ein hunaniaeth fel cenedl, ynghyd ag eraill sy’n mynd â ni i leoliadau annisgwyl, a phartneriaethau cyffrous sy’n fodd i’r cwmni fentro i feysydd anghyfarwydd mewn dwylo da.”

Ers i Arwel Gruffydd gael ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig y cwmni, wrth lunio rhaglen o waith mae wedi ceisio adlewyrchu’r amcanion hyn yn gyson. Mae uchafbwyntiau’r cwmni dros y pum mlynedd diwethaf yn cynnwys Nansi, drama newydd a fu’n teithio neuaddau pentref ledled Cymru’n ddiweddar, a oedd yn dathlu bywyd y delynores hudolus, Nansi Richards; Dawns Ysbrydion gydag Eddie Ladd (mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon), a oedd yn nodi 50 mlynedd ers boddi Tryweryn; {150} a Tir Sir Gâr, gan yr artist amryddawn, Marc Rees – y naill yn gynhyrchiad promenâd ar raddfa fawr yn Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol ger Aberdâr, mewn cyd-gynhyrchiad â National Theatre Wales ac mewn partneriaeth ag S4C, a’r llall yn gynhyrchiad safle-benodol yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a addaswyd yn ffilm o’r enw Tir ar gyfer S4C; Blodyn, cynhyrchiad cymunedol gan Bethan Marlow, a lwyfannwyd mewn sawl lleoliad yn Nyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog; ac Y Storm, cyfieithiad newydd gan Gwyneth Lewis o The Tempest, drama olaf Shakespeare, a lwyfannwyd ar daith mewn pabell syrcas fel rhan o Ŵyl Llundain 2012 (yr Olympiad Diwylliannol) a’r World Shakespeare Festival mewn cydweithrediad â’r Royal Shakespeare Company.

Mae gwaith Arwel Gruffydd fel cyfarwyddwr i’r cwmni dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi cynnwys Llwyth (mewn cyd-gynhyrchiad â Sherman Cymru), a deithiodd i Ŵyl Ymylol Caeredin 2011 ac yna i Ŵyl Gelfyddydol Taipei yn 2012; Sgint (mewn cyd-gynhyrchiad â Sherman Cymru), llwyfaniad cyntaf o ddrama air-am-air gan Bethan Marlow; Blodeuwedd, cynhyrchiad safle-benodol o gampwaith Saunders Lewis ar safle Tomen y Mur, Sir Feirionnydd, ac yna addasiad o’r cynhyrchiad ar daith ledled Cymru; Y Bont, cynhyrchiad arloesol, aml-gyfrwng (mewn partneriaeth ag S4C, Green Bay Media a BBC Radio Cymru) yn nodi 50 mlynedd ers protest Pont Trefechan; cyfieithiad newydd i’r Gymraeg gan Menna Elfyn o glasur Henrik Ibsen, Y Fenyw Ddaeth o’r Môr; ac yn fwyaf diweddar, Chwalfa (mewn partneriaeth â Pontio), sef addasiad Gareth Miles o nofel T. Rowland Hughes, un o’r cynyrchiadau cyntaf i’w lwyfannu yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, a oedd yn adrodd hanes Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, ac yn cynnwys nid yn unig cast proffesiynol sylweddol, ond cast cymunedol o dros 50 o drigolion lleol yn ogystal.

Meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y Theatr Genedlaethol:

“Wrth estyn cytundeb ein Cyfarwyddwr Artistig am dymor pellach o bum mlynedd, a hynny gyda chymeradwyaeth unfrydol aelodau’r Bwrdd, gwelwn gyfle i adeiladu ar waith arloesol y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn hyderus fod gan Arwel Gruffydd yr uchelgais, y weledigaeth a’r egni i barhau i arwain y gwaith yn llwyddiannus yn y cyfnod heriol sydd o’n blaenau.”

Meddai Arwel Gruffydd:

“Bu’n fraint aruthrol cael arwain ein cwmni theatr cenedlaethol dros y pum mlynedd ddiwethaf. Rhaid cydnabod hefyd bod yr her yn aruthrol, gan fod y disgwyliadau’n naturiol uchel, a’r uchelgais yn ddi-ben-draw, ond yr adnoddau ariannol yn brin. Ond mae gennym heddiw artistiaid a gweithwyr theatr sy’n gweithio yn y Gymraeg sydd gyda’r gorau yn y byd. O genedl fechan gallwn, yn sicr, ddal ein pennau’n uchel ymysg traddodiadau theatr bydeang. Mae theatr yn gyfrwng pwysig a chyffrous, sy’n cyffwrdd pobl mewn modd hynod uniongyrchol, ac yn rhoi llwyfan i drafod pynciau mawr y dydd yn ogystal â themâu oesol. Mewn cyfnod o newid a heriau cyson, mae’n rhoi cyfle i ni gyd-drafod trwy gelfyddyd, ac ar ei orau mae’n ein cludo am awr neu ddwy i fydoedd annisgwyl sy’n ein cyffroi a’n hysbrydoli. Ac mae angen hynny arnom heddiw cymaint, os nad yn fwy, nag erioed. Rwy’n edrych ymlaen at gludo cynulleidfaoedd Cymru i fydoedd newydd, amrywiol dros y pum mlynedd nesaf, ac i gydweithio gyda phencampwyr maes y theatr yma yng Nghymru a thu hwnt, yn ogystal â datblygu talentau newydd.”

-diwedd-

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lowri Johnston, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Theatr Genedlaethol Cymru, lowri.johnston@theatr.com / 01267 245617 / 07903 842617

Manylion Cynyrchiadau:

Merch yr Eog

Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Yn seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourgès.

Cyfarwyddwyr: Sara Lloyd, Thomas Cloarec

Dyddiadau ac Amseroedd:

19:30, 05–07 Hydref
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
aberystwythartscentre.co.uk / 01970 623 232

19:30, 11 a 12 Hydref
Pontio, Bangor
www.pontio.co.uk / 01248 38 28 28

19:30, 14 Hydref
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
www.gwynedd.llyw.cymru/neuadd-dwyfor / 01758 704088

19:30, 17 Hydref
Galeri, Caernarfon
www.galericaernarfon.com / 01286 685 222

19:30, 20 a 21 Hydref
Lyric, Caerfyrddin
www.theatrausirgar.co.uk / 0845 226 3510

20:00, 25 a 26 Hydref
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
www.yganolfan.org.uk / 029 2063 6464

19:30, 29 Hydref
The House, Plymouth
www.peninsula-arts.co.uk  / 01752 585050

3 a 4 Tachwedd
L’Arthémuse, Briec, Llydaw
15 Tachwedd
Le Théâtre du Champ au Roy, Guingamp, Llydaw
17 a 18 Tachwedd
La Maison du Théâtre, Brest, Llydaw
24 Tachwedd
Le Théâtre du Pays de Morlaix, Montroulez, Llydaw

Macbeth
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â CADW.

Cyfieithiad Gwyn Thomas o glasur Shakespeare.

7 – 18 Chwefror 2017, Castell Caerffili. Tocynnau ar werth Hydref 2016.

Darlledir yn fyw i ganolfannau a sinemâu; dyddiadau a lleoliadau i’w cyhoeddi ym mis Hydref 2016.

Y Tŵr
Cyd-gynhyrchiad Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru, a gyflwynir yn wreiddiol gan Ŵyl Bro Morgannwg 2017 a Theatr Sherman.

Cyfansoddwr – Guto Puw

Libreto – Gwyneth Glyn

Agor yn Theatr Sherman yn mis Mai, yna’n teithio i 4 canolfan arall yng Nghymru.

Arwel Gruffydd

Yn wreiddiol o Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, graddiodd Arwel o Brifysgol Bangor, cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel actor yng Ngholeg Webber Douglas, Llundain. Bu’n actor proffesiynol, yn Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru ac yna’n Gyfarwyddwr Cyswllt Sherman Cymru. Enillodd Bafta Cymru yn 2002 am ei waith fel actor yn y gyfres Treflan, a Gwobr D.M. Davies am ei waith fel awdur a chyfarwyddwr ffilm. Ymunodd â Theatr Genedlaethol Cymru fel Cyfarwyddwr Artistig yn 2011. Mae ei waith cyfarwyddo ar gyfer y theatr yn cynnwys Chwalfa, Y Fenyw Ddaeth o’r Môr, Blodeuwedd (taith theatrau), Blodeuwedd (Tomen y Mur), Y Bont (Theatr Genedlaethol Cymru); Sgint, Llwyth (Sherman Cymru / Theatr Genedlaethol Cymru); Ceisio’i Bywyd Hi, Maes Terfyn (Sherman Cymru); Yr Argae (Sherman Cymru / Torri Gair); Noson i’w Chofio, Gwe o Gelwydd (Cwmni Inc); Mae Sera’n Wag (Sgript Cymru / Prosiect 9); Hedfan Drwy’r Machlud (Sgript Cymru / Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru).

Sefydlwyd Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003. Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cyfrannu at greu naratif cenedlaethol sy’n cynrychioli diwylliant deinamig Cymru, wrth gynhyrchu theatr arloesol ac uchelgeisiol trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt – ar brif lwyfannau, mewn lleoliadau annisgwyl, ac yng nghalon ein cymunedau.

Lleolir prif swyddfa Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghaerfyrddin. Mae’r cwmni wedi ei gofrestru fel elusen, rhif 110603.  Cwmni cofrestredig: 4784488

 

Categorïau: Newyddion Awdur: Lowri Johnston

Rhannu

FacebookTwitterPinterest
[chimpy_form forms="2"]
Y Llwyfan
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EQ

thgc@theatr.com
+44 (0)1267 233 882

@TheatrGenCymru

  • Want to say hello? 👋 We’re always excited to meet new artists, theatre-makers, producers, directors, designers and… https://t.co/ayur1pyZlA11:01 23/01/2021
  • Eisiau dweud helo? 👋 Ry’n ni bob amser yn awyddus i gwrdd ag artistiaid, gwneuthurwyr theatr newydd, cynhyrchwyr,… https://t.co/fVjnu26TsN11:00 23/01/2021
Gwybod mwy drwy sibrwd.com
Sibrwd ar iPhone
Sibrwd ar Android
  • Y Cwmni
  • Cymryd Rhan
  • Cefnogwch Ni
  • Cysylltwch â Ni
  • English
Cofrestrwch
© Theatr Genedlaethol Cymru
Telerau ac Amodau | Polisi Preifatrwydd | Cynllun Iaith
Sponsored by Arts Council Wales, National Lottery and Welsh Government