Rydym yn falch iawn o gyhoeddi blwyddyn o gynyrchiadau beiddgar, uchelgeisiol a nodedig yn 2020. Bydd y flwyddyn hon o gynyrchiadau sy’n dathlu’n arbennig ysgrifennu newydd yn y Gymraeg, yn cynnwys pedair taith genedlaethol. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys campweithiau diweddaraf dau o ddramodwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Daf James ac Aled Jones Williams.
Bydd y flwyddyn yn dechrau gyda Pryd Mae’r Haf?, sef y cyd-gynhyrchiad cyntaf rhwng Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma drosiad i’r Gymraeg gan Gwawr Loader o’r ddrama Christmas Is Miles Away gan Chloë Moss, sydd wedi’i gosod yng nghymoedd de Cymru ar ddiwedd yr 1980au. Bydd y ddrama’n cael ei llwyfannu yn Theatr Soar ym Merthyr Tudful ac yn The Other Room yng Nghaerdydd ym mis Chwefror, cyn teithio ledled Cymru yn ystod Ebrill a Mai 2020. Mae tocynnau eisoes ar werth ac ar gael yma.
Ym Mawrth ac Ebrill, byddwn ni a Theatr y Sherman yn cyd-gynhyrchu’r llwyfaniad cyntaf erioed o Tylwyth, sef drama newydd Daf James, dan gyfarwyddyd Arwel Gruffydd. Ddeng mlynedd ers y ddrama glodwiw ac arloesol Llwyth, mae’r un cymeriadau poblogaidd yn dod ynghyd unwaith eto mewn drama newydd, dyner a direidus sy’n taflu golwg grafog ar gariad, teulu a chyfeillgarwch. Bydd Tylwyth yn agor yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd cyn teithio ledled Cymru ym Mawrth ac Ebrill, ac mae tocynnau eisoes ar werth ac ar gael yma.
Unwaith eto, fel rhan o bartneriaeth hirdymor gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, bydd y cwmni’n cyflwyno cyfres o gyflwyniadau theatr fel rhan o’r Brifwyl, sydd i’w chynnal eleni yn Nhregaron. Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn.
Yn yr hydref, gyda chefnogaeth gan Pontio, byddwn ni’n cyflwyno Branwen, sef drama newydd sbon gan un o bencampwyr y Theatr Gymraeg, Aled Jones Williams. Wedi’i chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, dyma addasiad cyfoes o Ail Gainc y Mabinogi sy’n cynnig sylwebaeth grafog ar y sefyllfa wleidyddol bresennol mewn llwyfaniad prif lwyfan trawiadol. Byth ers ei ddrama Iesu!, a lwyfannwyd gan y cwmni yn 2008, nid yw Aled Jones Williams wedi creu gwaith ar raddfa mor fawr, ac mae’r ddrama hefyd yn cynrychioli agwedd wahanol efallai ar grefft y dramodydd toreithiog hwn. Bydd y daith yn agor yn Pontio, Bangor, cyn teithio ledled Cymru. Bydd rhagor o wybodaeth am y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn ar gael cyn hir.

Tylwyth: Ar daith 10 Mawrth – 4 Ebrill. Tocynnau ar gael yma.
I gloi’r flwyddyn, bydd Llygoden yr Eira, sef ein cynhyrchiad hyfryd gyda Theatr Iolo, yn dychwelyd unwaith eto i ddiddanu plant bach ledled Cymru. Yn llawn cerddoriaeth, pypedwaith a chwarae, creodd y sioe aeafol, hudolus hon argraff fawr ar gynulleidfaoedd ifanc a theuluoedd ar hyd a lled y wlad yn 2019, ac mae’r cwmni’n falch iawn o allu weithio gyda Theatr Iolo unwaith eto i gynnig cyfle arall i blant Cymru gael eu swyno gan y llygoden fach a’i ffrind.
Dywedodd Arwel Gruffydd, ein Cyfarwyddwr Artistig y cwmni:
“Mae’r rhaglen hon yn cynrychioli, i raddau go helaeth, ehangder y Theatr Gymraeg fel y mae hi heddiw. Rydym mor falch o allu cynnwys yn ein rhaglen eleni ddwy ddrama gan bencampwyr cyfoes y Theatr Gymraeg, sef Daf James ac Aled Jones Williams. Mae’r ddau yn feistri ar eu crefft, ac eto mor wahanol o ran eu harddull ag y medr dau ddramodydd fod. Mae’r flwyddyn hefyd yn dathlu pwysigrwydd partneriaethau yn y diwydiant yn ogystal, ac rydym yn falch iawn o fod yn cyd-gynhyrchu unwaith eto gyda Theatr y Sherman, yn dychwelyd i gyd-weithio gyda Theatr Iolo, a pharhau i ddatblygu ein perthynas ffyniannus gyda Pontio a’r Eisteddfod Genedlaethol. Ac mor braf hefyd yw gallu cefnogi cwmni theatr newydd, sef Criw Brwd, wrth iddyn nhw gyflwyno dim ond eu hail gynhyrchiad llawn. Yn wyneb llwyddiant ysgubol ein taith ddiweddar o Llygoden yr Eira, braf fydd gallu cloi 2020 gyda chyfle arall i weld y sioe hudolus hon ar gyfer y rhai lleiaf yn ein plith.”
DYDDIADAU PERFFORMIADAU
PRYD MAE’R HAF?
Theatr Soar, Merthyr Tudful
6 + 7 Chwefror 2020
The Other Room, Caerdydd
11–15 Chwefror 2020
Ffwrnes, Llanelli
20 + 21 Ebrill 2020
Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys
23 + 24 Ebrill 2020
Pontio, Bangor
25 Ebrill 2020
Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
28 Ebrill 2020
Glanyrafon, Casnewydd
30 Ebrill 2020
Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
1 + 2 Mai 2020
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
6 + 7 Mai 2020
Galeri, Caernarfon
8 Mai 2020
BRANWEN
Ar daith ledled Cymru: Hydref 2020. Rhagor o wybodaeth i ddilyn.
LLYGODEN YR EIRA
Ar daith ledled Cymru: Gaeaf 2020. Rhagor o wybodaeth i ddilyn.
TYLWYTH
Theatr y Sherman, Caerdydd
10–13 Mawrth 2020
Galeri, Caernarfon
17 + 18 Mawrth 2020
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
20 + 21 Mawrth 2020
Ffwrnes, Llanelli
24 Mawrth 2020
Hafren, Y Drenewydd
26 Mawrth 2020
Theatr Mwldan, Aberteifi
28 Mawrth 2020
Pontio, Bangor
31 Mawrth + 1 Ebrill 2020
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
3+ 4 Ebrill 2020
10 Ionawr 2020